Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid: Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2018-19

Adroddiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mae'r adroddiad ar y cyd hwn yn ystyried y prif ganfyddiadau ar gyfer y flwyddyn 2018/19, a bwriedir iddo gyfrannu at wella canlyniadau pobl sydd angen cymorth o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yng Nghymru. Gohiriwyd cyhoeddiad eleni oherwydd effaith pandemig COVID-19.

Beth yw ystyr amddifadu o ryddid?

Mae amddifadu o ryddid yn golygu'r canlynol:

  • pan fydd rhywun dan oruchwyliaeth a rheolaeth barhaus neu lwyr, ac
  • nad yw'n rhydd i adael, ac
  • nad oes ganddo alluedd i gydsynio i'r trefniadau hyn.

Beth yw'r Trefniadau Diogelu?

Diben y Trefniadau Diogelu yw grymuso ac amddiffyn unrhyw unigolyn ag anhwylder meddyliol lle mae amheuaeth ynglŷn â'i alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ei ofal pan fydd yn yr ysbyty neu'n byw mewn cartref gofal.

Canfyddiadau

Cafwyd cynnydd o 6% yng nghyfanswm nifer y ceisiadau a gafwyd gan awdurdodau lleol yn 2018-19, gyda'r rhan fwyaf o geisiadau DoLS a gafwyd ar gyfer unigolion 65 oed neu'n hŷn.

Roedd y mwyafrif helaeth o geisiadau a wrthodwyd ar sail galluedd meddyliol. Roedd angen rhagor o dystiolaeth ar yr awdurdodydd nad oedd gan yr unigolyn y galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad dan sylw cyn i'r cais DoLS gael ei dderbyn.

Ni chwblhawyd y rhan fwyaf o geisiadau Safonol mewn 28 diwrnod. Ni all cyrff goruchwylio sicrhau eu hunain nad eir yn groes i hawliau dynol pobl pan gânt eu hamddifadu o’u rhyddid yn anghyfreithlon.

Darllenwch yr adroddiad llawn drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.