Rhaglen adolygu perfformiad ag archwiliad sicrwydd awdurdodau lleol
Mae'r llythyrau hyn yn crynhoi canfyddiadau ein rhaglen archwiliad sicrwydd cenedlaethol a gynhaliwyd rhwng Medi 2020 a Gorffennaf 2021.
Pwrpas y archwiliadau sicrwydd oedd adolygu pa mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn parhau i helpu oedolion, plant a gofalwyr ar yr adeg anodd hon a'u cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd gwasanaethau i'r dyfodol.
Canolbwyntiwyd ar:
- Pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau statudol i gadw pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cefnogaeth, yn ddiogel ac yn hyrwyddo eu lles yn ystod y pandemig.
- Pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn atal yr angen i blant ddod i mewn i ofal; ac a yw plant yn dychwelyd adref i'w teuluoedd yn ddigon cyflym, lle maent yn ddiogel i wneud hynny.
Camau nesaf
Disgwyliwn i’r meysydd gwella a nodwyd gennym gael eu cynnwys yng nghynlluniau gwella’r awdurdodau lleol. Byddwn yn monitro cynnydd trwy ein gweithgaredd gwerthuso perfformiad parhaus gyda'r awdurdodau lleol.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyrau llawn isod.
Lawrlwytho dogfennau
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf