Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad Trosolwg Cenedlaethol o Archwiliadau Sicrwydd

Gwnaethom edrych ar berfformiad ac adolygu gweithgareddau ar draws awdurdodau lleol Cymru rhwng mis Medi 2020 a mis Gorffennaf 2021.

Yr hyn a wnaethom

Ym mis Mawrth 2020, wrth i gyfraddau heintio COVID-19 gynyddu a Chymru fynd i mewn i'r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, gwnaethom atal ein rhaglen o weithgarwch adolygu perfformiad arferol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio'n llawn ar ymateb i'r amgylchiadau heriol.

Gwnaethom ddatblygu ffyrdd newydd o weithio a oedd yn adlewyrchu'r angen i ni ymgysylltu mewn cydberthnasau mwy cefnogol ag awdurdodau lleol. Ar draws gweithgareddau ein gwiriadau sicrwydd, gwnaethom siarad â dros 800 o bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol neu gyda nhw, neu sydd â phrofiad o'r gwasanaethau hynny.

Ar gyfer plant a phobl ifanc dan ofal yr awdurdod lleol, gwnaethom ofyn cwestiynau i bob awdurdod lleol am blant mewn gofal, y mae'r canfyddiadau i'w gweld yn yr adroddiad hwn.

Gwnaethom edrych ar y themâu allweddol hyn:

  • Pobl – a yw eu lleisiau'n cael eu clywed ac a oes ganddynt reolaeth?
  • Atal – a oes llai o angen am gefnogaeth ffurfiol gan asiantaethau statudol?
  • Partneriaethau ac integreiddio – a yw'r cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn cael eu bachu’n gadarnhaol?
  • Llesiant – a yw pobl yn gallu cynnal eu diogelwch a chyflawni canlyniadau cadarnhaol sy'n bwysig iddyn nhw?

Ein canfyddiadau

  • Pobl – llais a rheolaeth – Dywedodd nifer o bobl, yn cynnwys darpar ddefnyddwyr gwasanaeth a/neu ofalwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, ei bod yn hawdd cysylltu ag awdurdodau lleol; roedd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a'u bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Fodd bynnag, dywedodd rhai o'r bobl a oedd yn gadael gofal y gallai dod o hyd i lety priodol mewn lleoliadau diogel fod yn her a bod y dewisiadau'n gyfyngedig mewn sawl ardal awdurdod lleol. Nid oedd pob awdurdod lleol yn rhoi digon o flaenoriaeth i’r rhai sy’n gadael gofal i gael mynediad at y gofrestr tai.

  • Atal - Canfuom ddiffyg capasiti cynyddol o fewn gwasanaethau cymorth cartref i oedolion / gwasanaethau ailalluogi, yn ogystal â darpariaeth cymorth cynnar a gwasanaethau lleoli i blant. Ni welsom ddigon o gapasiti i gyd-fynd â'r galw.

Ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd angen lefelau dwys o gymorth, gwelsom nad oedd awdurdodau lleol yn aml yn gallu nodi opsiynau addas ar gyfer lleoliad gyda gofalwyr maeth medrus, hyfforddedig a phrofiadol. Mae timau  uwch-reolwyr, rhieni corfforaethol a deiliaid portffolios, yn ogystal ag asiantaethau partner yn pryderu am hyn ac yn ei ystyried yn flaenoriaeth uchel.

  • Partneriaethau ac integreiddioGwnaethom ganfod ymrwymiad cynyddol i weithio ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a phartneriaid. Mae buddion gwaith cryf mewn partneriaeth rhwng meysydd iechyd a gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau cyhoeddus ehangach, i greu dull system gyfan, wedi bod yn amlwg iawn yn ystod y pandemig.

Serch hynny, mae diffyg cymorth iechyd meddwl i blant o hyd mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Gwelsom fod y trothwyon ar gyfer mynediad at wasanaethau'n uchel, bod ymyriadau'n fyr, a bod achosion o dynnu cymorth ar adegau lle mae'r risg o niwed yn uchel iawn.

  • Llesiant Canfuom nifer o enghreifftiau da o awdurdodau lleol yn cefnogi pobl i gynnal ac i hyrwyddo eu llesiant. Gwelsom fod pobl yn aml yn gyfranogwyr gweithredol wrth gynllunio eu pecynnau gofal a chymorth eu hunain.

Ar y llaw arall, canfuom fod modd gwella ansawdd yr asesiadau a chynlluniau gofal a chymorth mewn gwasanaethau plant ac oedolion mewn nifer o feysydd.

Y camau nesaf

Rydym yn cydnabod y pwysau aruthrol y mae awdurdodau lleol wedi'u hwynebu wrth ddarparu gofal a chymorth yn ystod y pandemig.

Rydym wedi ymrwymo i weithredu ar yr argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn a byddwn yn gweithio gyda phobl eraill i sicrhau mai diogelwch a llesiant pobl yw'r flaenoriaeth.