Fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw ‘Mwy na geiriau' a gyhoeddwyd yn 2016.
Cyhoeddwyd gwerthusiad annibynnol (Dolen allanol) o'i effaith yn 2021 a lluniwyd cynllun gweithredu Mwy na geiriau (Dolen allanol) wedi’i ddiweddaru.
Mae cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan hanfodol o ofal o ansawdd da sy'n seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylai camau i fabwysiadu Mwy na Geiriau a'i roi ar waith mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant helpu i wella ansawdd y gofal a'r canlyniadau ar gyfer pobl sy'n byw mewn gwlad ddwyieithog.
Gall pawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant wneud gwahaniaeth drwy ofyn iddyn nhw eu hunain “beth galla i ei wneud er mwyn helpu i wella'r ddarpariaeth Gymraeg?” a sicrhau bod y daith honno mor ddidrafferth â phosibl. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Beth mae'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn ei olygu?
Mae'r Cynnig Rhagweithiol yn elfen allweddol o Mwy na Geiriau. Mae'n golygu bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny. Mae gan bawb sy'n darparu gwasanaethau gofal i bobl a'u teuluoedd ledled Cymru gyfrifoldeb i ddarparu'r 'Cynnig Rhagweithiol'.
Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb fod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae'r gallu i ddweud tipyn bach yn Gymraeg yn bwysig – gallant gynnwys geiriau o gysur neu gynnig “paned”. Nid faint o eiriau Cymraeg rydych chi'n eu gwybod sy'n bwysig, ond eich bod yn eu defnyddio. Ac hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg, gall rhywfaint o ddealltwriaeth o anghenion siaradwyr Cymraeg fod yn werthfawr iawn.
Adroddiadau arolygu
Bydd ein hadroddiadau arolygu ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yn nodi a yw gwasanaeth
- Yn darparu Cynnig Rhagweithiol
- Yn gweithio tuag ato
- Ddim yn ei ddarparu
Diffiniad o wasanaeth sy'n darparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’
- ‘Mae'r gwasanaeth yn darparu ‘Cynnig Rhagweithiol’ ar gyfer y Gymraeg. Mae'n rhagweld, yn nodi ac yn diwallu anghenion Cymraeg a diwylliannol pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, neu a all ei ddefnyddio’
Diffiniad o wasanaeth sy'n gweithio tuag at ddarparu ‘Cynnig Rhagweithiol’
- 'Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio tuag at ddarparu 'Cynnig Rhagweithiol' ar gyfer y Gymraeg ac mae'n gwneud cryn ymdrech i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a diwylliant Cymru.’
Diffiniad o wasanaeth nad yw'n darparu ‘Cynnig Rhagweithiol’
- Nid yw'r gwasanaeth hwn yn darparu 'Cynnig Rhagweithiol' ar gyfer y Gymraeg ac nid yw'n gwneud ymdrech ddigonol i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Enghreifftiau o wasanaeth gofal sy'n darparu ‘Cynnig Rhagweithiol’
- Mae'r system gweithwyr allweddol yn sicrhau y caiff aelodau o staff ‘a enwir’ eu ‘paru’ â phlant ac oedolion sy'n siarad Cymraeg
- Mae arwyddion yn y gwasanaeth yn helpu i gyfeirio defnyddwyr sy'n siarad Cymraeg
- Mae llyfrau, papurau newydd ac adnoddau Cymraeg eraill ar gael, neu gallant fod ar gael, i blant ac oedolion sy'n siarad Cymraeg.
Cymorth i staff wrth gyflwyno ‘Cynnig Rhagweithiol’
Mae'n bwysig bod staff yn cynnig gwasanaethau Cymraeg i'r unigolion hynny sy'n defnyddio'r gwasanaeth, yn hytrach na disgwyl iddynt orfod gofyn amdanynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu pecyn gwybodaeth er mwyn helpu staff i wneud ‘Cynnig Rhagweithiol’ (Dolen allanol) .