Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2025-2026

Mae ein hadroddiad blynyddol yn amlinellu ein gwaith drwy gydol 2025-2026.

Cyhoeddwyd: 22 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Crynodeb

Mae adroddiad y flwyddyn hon yn dangos bod systemau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae yn cyflawni llawer o ganlyniadau cadarnhaol, ond eu bod dan bwysau parhaus.

1.1 Gweithgarwch allweddol

  • Cofrestrwyd 381 o wasanaethau
  • Cynhaliwyd 2,209 o arolygiadau
  • Arolygwyd 18 o awdurdodau lleol; 
  • Ymatebwyd i 2,726 o bryderon
  • Ymdriniwyd â 44,832 o hysbysiadau
  • Cynhaliwyd 269 o arolygiadau oherwydd pryderon

1.2 Beth sy’n digwydd ar draws y system

  • Mae ansawdd yn gryf ar y cyfan. Mewn gwasanaethau oedolion a chartrefi gofal plant, roedd 90% o’r graddau yn dda neu’n rhagorol. Ym maes gofal plant a chwarae, roedd 80% o’r graddau yn dda neu’n rhagorol. Mae hyn yn
    dangos bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau yn darparu gofal diogel, tosturiol ac effeithiol.
  • Mae ffurf darpariaeth yn newid. Mae cymorth cartref, cartrefi gofal plant a gofal dydd llawn yn parhau i dyfu, ond mae rhai gwasanaethau cartref gofal, gwarchod plant a gofal plant sesiynol yn lleihau. Mae capasiti yn cael ei gynnal i raddau helaeth, ond nid bob amser ar ffurf y gofal a’r gofal plant sydd eu hangen fwyaf ar bobl a theuluoedd.
  • Mae gwasanaethau’n gwella, ond mae mannau lle ceir pwysau o hyd. Lle gwnaethom nodi gofal gwael, arweinyddiaeth a rheolaeth oedd y gwendid mwyaf cyffredin o hyd, a hynny’n aml yn gysylltiedig â staffio, llywodraethu, goruchwyliaeth, cofnodion, diogelu a meddyginiaeth.
  • Mae awdurdodau lleol yn dangos arferion cryf, ond mae cysondeb yn amrywio. Gwelsom ddulliau ataliol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar hawliau, ond mae amseroldeb asesiadau, cyfathrebu ynghylch diogelu, digonolrwydd lleoliadau a chapasiti’r gweithlu yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru.

1.3 Y prif negeseuon

  • Ni ellir cymryd gofal da yn ganiataol. Mae angen rhoi sylw parhaus i hanfodion gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel (arweinyddiaeth, staffio, llywodraethu, cyfathrebu a diogelu).
  • Mae cefnogi plant ag anghenion cymhleth yn parhau i roi pwysau mawr ar y system. Mae mwy o gartrefi a lleoedd plant wedi cael eu cofrestru, ond mae awdurdodau lleol yn dal i’w chael hi’n anodd sicrhau’r lleoliadau cywir.
  • Mae angen newid sylweddol mewn perthynas â hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Gellir gweld cynnydd, ond mae’n anghyson. Mae angen i ormod o wasanaethau symud o ewyllys da i Gynnig Rhagweithiol dibynadwy o hyd, yn enwedig ym maes gofal plant a chwarae.

Ar y cyfan, mae’r adroddiad yn cyfeirio at sector sydd â chryfderau gwirioneddol a straen sylweddol. Yr her ar gyfer 2026-2027 yw amddiffyn a lledaenu arferion da gan fynd i’r afael â’r gwendidau sy’n peri risg i ganlyniadau pobl ar yr un pryd: arweinyddiaeth anghyson, capasiti bregus ymhlith y gweithlu, bylchau mewn darpariaeth leol, arferion diogelu amrywiol a mynediad anghyson at ofal a chymorth yn Gymraeg.

2. Cyflwyniad gan ein Prif Arolygydd

Fel Prif Arolygydd, rwy’n gweld bob dydd pa mor bwysig yw gofal i bobl, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Nid systemau haniaethol yw gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae; maent yn rhan o gartrefi, cydberthnasau ac arferion pobl, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Maent yn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad, aros yn annibynnol, teimlo’n ddiogel, a chymryd rhan yn y bywydau y maent yn eu dewis. Dyna pam fy mod yn teimlo cyfrifoldeb mor gryf i sicrhau bod hawliau, lleisiau a llesiant pobl wrth wraidd ein gwaith yn Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae’r flwyddyn hon wedi fy atgoffa eto o’r ymroddiad, y sgiliau a’r caredigrwydd a ddangosir ym mhob rhan o’r sector gofal. Mae’r gwasanaethau niferus sy’n darparu canlyniadau da a rhagorol yn galonogol, ynghyd â’r adborth gan bobl sy’n dweud wrthym eu bod yn teimlo’n ddiogel, a bod staff yn gwrando arnynt ac yn gofalu amdanynt. Y tu ôl i bob
canfyddiad arolygu a phob gradd, mae person y mae ei brofiad yn bwysig. Rwyf am i’r adroddiad hwn adlewyrchu’r stori ddynol honno, yn ogystal â’r dystiolaeth a’r data sy’n sail i’n dyfarniadau.

Fodd bynnag, rwyf hefyd yn ymwybodol na ellir cymryd gofal da yn ganiataol. Mae pwysau ar y gweithlu, anghenion cynyddol gymhleth a heriau yn y system ehangach yn parhau i roi straen wirioneddol ar wasanaethau. Mewn rhai ardaloedd, mae pobl yn aros yn rhy hir neu’n cael profiad anghyson o’r cymorth a gânt. Nid pwysau gweithredol yn unig yw’r rhain; maent yn effeithio ar fywydau, dewisiadau a hyder pobl. Maent yn cryfhau fy marn bod arweinyddiaeth effeithiol, trefniadau llywodraethu cryf a ffocws diflino ar ganlyniadau yn hanfodol.

Roedd yn bleser gennyf lansio ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030, a luniwyd yn seiliedig ar ein huchelgeisiau, sef Sicrhau, Gwella a Dylanwadu. Mae’r uchelgeisiau hyn yn fwy na blaenoriaethau sefydliadol i mi. Maent yn disgrifio’r ffordd rwyf eisiau i AGC weithio: rhoi sicrwydd clir i’r cyhoedd lle mae ymarfer yn gryf, bod yn onest ac yn uniongyrchol lle mae angen gwella, a defnyddio ein gwybodaeth er mwyn helpu i ysgogi newid cadarnhaol ledled Cymru.

Rhaid i weithgarwch rheoleiddio fod yn gadarn, yn deg ac yn annibynnol, ond rhaid iddo fod yn ddynol hefyd. Mae’r cydberthnasau rydym yn eu meithrin â phobl, darparwyr a phartneriaid yn bwysig. Maent yn ein helpu i ddeall risg yn gynharach, herio’n fwy effeithiol a nodi ymarfer sy’n haeddu cael ei rannu. Rwyf am i’n harolygwyr gael yr amser, yr adnoddau a’r hyder i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: profiad bywyd pobl sy’n cael gofal a chymorth.

Rwyf yn falch o arwain tîm mor ymroddedig a phroffesiynol o staff y mae eu gwaith yn ymgorffori ein gwerthoedd bob dydd.

Gan edrych tua’r dyfodol, rwy’n gwybod y bydd ansicrwydd a her yn parhau dros y flwyddyn nesaf. Ond rwyf hefyd yn gweld ymrwymiad, creadigrwydd a thosturi ym mhob rhan o’r sector bob dydd. Bydd AGC yn parhau i sefyll ochr yn ochr â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau drwy wrando’n ofalus, gweithredu’n gymesur, dathlu’r hyn sy’n gweithio’n dda a herio’r hyn sydd angen ei wella. Fy ymrwymiad yw y byddwn yn parhau i sicrhau bod hawliau, lleisiau a llesiant pobl wrth wraidd popeth a wnawn.

Gillian Baranski
Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru

3. Trosolwg o’n sefydliad

3.1 Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Ni yw Arolygiaeth Gofal Cymru. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Rydym yn cyfrannu at wella gofal ar lefel unigol, ar lefel gwasanaeth, ac ar lefel sector.

Gwasanaethau a gaiff eu cofrestru a’u harolygu gennym:

  • Gwasanaethau cartrefi gofal (oedolion a phlant)
  • Gwasanaethau cymorth cartref
  • Gwasanaethau lleoli oedolion
  • Gwasanaethau llety diogel
  • Gwasanaethau maethu
  • Gwasanaethau mabwysiadu
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
  • Gwasanaethau eirioli
  • Gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd
  • Ysgolion arbennig preswyl

Rydym hefyd yn arolygu’r canlynol:

  • Ysgolion preswyl
  • Colegau addysg bellach sy’n lletya myfyrwyr o dan 18 oed
  • Gwasanaethau maethu a mabwysiadu awdurdodau lleol

Rydym yn adolygu’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ac yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol drwy amrywiaeth o weithgareddau adolygu perfformiad, gan gynnwys arolygu. Ein nod yw cydweithio ag awdurdodau lleol i’w helpu i ddysgu a gwella’n barhaus.

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl yn aros wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn ymrwymedig i ddangos y gwerthoedd hyn yn ein gwaith bob dydd:

  • Uniondeb
  • Gofalgar
  • Parch
  • Proffesiynol
  • Teg

Ein hegwyddorion arweiniol

Mae’r gwerthoedd hyn yn arwain yr egwyddorion sy’n llywio’r ffordd rydym yn gweithio:

  • Rhoi pobl yn gyntaf
  • Gweithredu ar sail gwybodaeth
  • Bod yn ymatebol ac yn seiliedig ar risg
  • Cydweithio
  • Cefnogi gwelliannau ac arloesi
  • Myfyrio a dysgu

Darllenwch fwy am ein gwerthoedd a’n hegwyddorion arweiniol ar wefan AGC.

4. Blwyddyn gyntaf ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030

Ym mis Ebrill 2025, gwnaethom gyhoeddi Cynllun Strategol 2025–2030 sy’n nodi tri uchelgais craidd:

  • Sicrhau
  • Gwella
  • Dylanwadu

Mae’r gweithgarwch rydym wedi ymgymryd ag ef mewn perthynas â phob un o’r uchelgeisiau hyn wedi cael ei blethu drwy’r adroddiad hwn. Dyma grynodeb o’n gweithgarwch hyd yn hyn.

4.1 Sicrhau: Rhoi sicrwydd am ganlyniadau i bobl

Y flwyddyn hon gwnaethom gofrestru 381 o wasanaethau, cynnal 2,209 o arolygiadau, ymateb i 2,726 o bryderon ac ymdrin â 44,832 o hysbysiadau. Gwnaethom gynnal 269 o arolygiadau o ganlyniad uniongyrchol i bryderon a rannwyd â ni.

Mae ein gwaith gyda phob un o’r 22 o awdurdodau lleol wedi cyflawni rhaglen gynhwysfawr o weithgarwch sicrwydd, arolygu (mewn 18 o awdurdodau lleol) ac ymgysylltu ar draws gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant.

Rydym wedi gwella ansawdd ein hadroddiadau a’u gwneud yn fwy hygyrch, gan gynnwys templedi adroddiadau diwygiedig sy’n cyd-fynd â chyflwyno graddau, ac rydym yn treialu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial i symleiddio ein gwaith a gwella ei werth fel adnodd ar gyfer gwella.

Rydym hefyd wedi atgyfnerthu’r ffordd rydym yn cefnogi darparwyr a phartneriaid, gan gynnwys datblygu opsiynau cyngor newydd i wella ansawdd ceisiadau cofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (RISCA), ac ystyried gwahanol fodelau sicrwydd i lywio’r ffordd y byddwn yn gweithio yn y dyfodol.

Roedd hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan ganolog o’n gwaith sicrwydd eto y flwyddyn hon. Rydym yn rhoi ein cynllun gweithredu ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar waith, gan weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a grŵp cyfeirio o arbenigwyr i hyrwyddo diwylliannau cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac arweinyddiaeth sy’n herio achosion o wahaniaethu. Mae hyn yn gysylltiedig â’n gwaith ar y cyd ar ddiwylliannau cadarnhaol. Gwnaethom gryfhau gofynion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn dogfennau cofrestru a thempledi datganiadau o ddiben, gwella hygyrchedd drwy arolygon hawdd eu deall, cefnogi cyfleoedd dysgu i staff, a hyrwyddo ymarfer cynhwysol drwy ein gweithgarwch arolygu a gwella, gan rannu arferion da ar draws gwasanaethau.

Darllenwch am sut mae cylch chwarae yn dathlu amrywiaeth a threftadaeth pob plentyn.

Rydym yn monitro’n agos unrhyw bryderon a gaiff eu rhannu â ni am wahaniaethu. Y flwyddyn hon, cawsom 48 o bryderon yn ymwneud â gwahaniaethu ynghylch gwasanaethau cofrestredig i oedolion a phlant. Mae hyn yn pwysleisio’r angen am ffocws parhaus a gweladwy ar ymarfer cyfartal, amrywiol a chynhwysol ym mhob gwasanaeth.

4.2 Gwella: Annog, cynorthwyo, herio ac ysbrydoli gwasanaethau, a ni ein hunain, i wella’n barhaus

Er nad asiantaeth wella yw AGC, mae gennym rôl benodol yn cefnogi gwelliant ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant a chwarae. Gallwch ddarllen am y ffordd rydym yn ymdrin â gwelliant ar wefan AGC.

Ein swyddogaethau craidd: cofrestru, arolygu, adolygu perfformiad a gorfodi, ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau unigol. Rydym hefyd mewn sefyllfa unigryw i gael trosolwg cenedlaethol, gan nodi themâu a thueddiadau i gefnogi ac annog ym mhob rhan o’r sector. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth geisio ysgogi gwelliant ar draws y sector. Mae hyn yn cynnwys cryfhau’r ffordd rydym yn cofnodi ac yn defnyddio profiadau pobl drwy arolygon gwell.

Rydym wedi ehangu’r ffordd rydym yn rhannu gwersi a ddysgwyd ac arferion da, gan gynnwys cyhoeddi ‘ymarfer gwerth ei rannu’, cynnal cynhadledd ansawdd genedlaethol ac ymgorffori dulliau o sicrhau diwylliannau sefydliadol cadarnhaol mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru. Ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae, gwnaethom gyhoeddi Gwersi o ymarfer gwerth ei rannu - gofal plant a chwarae.

Gan adeiladu ar ein profiad o ddyfarnu graddau ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae, rydym wedi cryfhau ein rôl wrth geisio ysgogi gwelliant a chysondeb drwy gyhoeddi graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref. Mae ein fframwaith arolygu diwygiedig wedi cefnogi gwasanaethau i ddeall beth yw ‘rhagorol’ a ‘da’ yn ymarferol, gan helpu i osod disgwyliadau clir a chefnogi gwelliant parhaus. Ym mis Rhagfyr, gwnaethom gyhoeddi ein canfyddiadau cychwynnol Graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref - saith mis yn ddiweddarach.

Y flwyddyn hon, gwnaethom nodi 672 o Feysydd i’w Gwella (o gymharu â 727 o feysydd y flwyddyn ddiwethaf) yn y 375 o wasanaethau y gwnaethom eu harolygu. Gwnaethom hefyd gyhoeddi 246 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth i 119 o wasanaethau. Defnyddir y rhain pan fydd angen gweithredu ar unwaith i ddiogelu diogelwch neu lesiant pobl (gwnaethom gyhoeddi 247 y flwyddyn ddiwethaf).

Dim ond 22 o feysydd i’w gwella y bu’n rhaid i ni eu huwchgyfeirio i statws gweithredu â blaenoriaeth oherwydd diffyg cynnydd. Roedd nifer y gwasanaethau a atgyfeiriwyd at ein paneli gorfodi er mwyn ystyried cymryd camau gweithredu pellach yn isel o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn adlewyrchu’r effaith gadarnhaol y mae ein ffocws ar welliant yn ei chael ar bobl.

Rydym hefyd wedi cryfhau ein rôl wella gydag awdurdodau lleol drwy negeseuon cliriach, gweithgarwch dilynol, ac olrhain themâu yn systematig. Y flwyddyn hon, mae ein gwaith wedi cefnogi gwelliannau ledled Cymru yn uniongyrchol, a chydnabuwyd 33 o enghreifftiau o arferion cadarnhaol yn ein hadroddiadau arolygu awdurdodau lleol. Drwy dynnu sylw at yr enghreifftiau hyn, rydym yn annog awdurdodau lleol i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chefnogi gwelliant ehangach ar draws y system.

Rydym wedi ystyried sut y gallwn hyrwyddo llesiant ein staff a’r bobl rydym yn eu harolygu, gan weithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae gwelliannau digidol hefyd yn cefnogi ymgysylltiad mwy effeithlon ag AGC a gwybodaeth well i bobl sy’n dewis gwasanaethau.

4.3 Dylanwadu: Bod yn adnabyddus a dibynadwy, gan rannu ein dealltwriaeth a’n harbenigedd unigryw er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol

Gwnaethom gryfhau ein dylanwad cenedlaethol y flwyddyn hon drwy rannu gwybodaeth â’n partneriaid, cyhoeddi adroddiadau cliriach sy’n seiliedig ar dystiolaeth, tynnu sylw at risgiau sy’n dod i’r amlwg yn gynharach, a hyrwyddo dysgu ar draws y sector. Gwnaethom gyfrannu at Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr, gan gynnwys lleisiau gofalwyr di-dâl yn fwy cyson yn ein gwaith gydag awdurdodau lleol a rhannu ein canfyddiadau. Buom hefyd yn gweithio gyda Thîm Polisi Gofal Plant Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio ein gwybodaeth unigryw i gyfrannu at y gwaith o adolygu a datblygu’r dull gweithredu mewn perthynas â Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, diwygio’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, ac ymgyngoriadau ar y Gorchymyn Eithriadau a’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig, a rhoi Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2025 ar waith.

Rydym wedi datblygu dull mwy strwythuredig a chydweithredol o weithio mewn partneriaeth. Mae hyn yn cynnwys rhaglen gweithio ar y cyd gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn. Rydym hefyd yn cryfhau’r ffordd rydym yn rhannu data a gwybodaeth â phartneriaid. Er enghraifft, drwy gydweithio â Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn lleihau achosion o ddyblygu ac yn gwella gwybodaeth ar draws y system drwy gasglu data ar weithluoedd gwasanaethau oedolion a phlant cofrestredig fel rhan o’r datganiad blynyddol.

Ym mis Mehefin 2025, gwnaethom weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i gyhoeddi’r canllaw Cefnogi Diwylliannau Cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol. Nid drwy hap a damwain y ceir diwylliannau cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar gydberthnasau. Maent yn gofyn am arweinyddiaeth gyson, prosesau gwneud penderfyniadau hyderus, cyfathrebu da, a’r cymorth cywir ar yr adeg gywir. Dyna pam ein bod yn ymgorffori’r egwyddorion hyn drwy ein holl waith, ac rydym wedi lansio cynllun peilot i gydlunio dull gweithredu ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn helpu arweinwyr i ymgorffori, cryfhau a mesur diwylliannau cadarnhaol yn eu lleoliadau gofal.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi parhau i fuddsoddi yng ngalluogrwydd y gweithlu, gan gynnwys diogelu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chapasiti mewn perthynas â’r Gymraeg.

Yn gyffredinol, mae’r flwyddyn gyntaf wedi canolbwyntio ar adeiladu’r systemau, y galluogrwydd a’r partneriaethau sydd eu hangen i sicrhau gwelliant parhaus, gyda chynnydd clir o ran cydlynu ein gweithgarwch rheoleiddio, cryfhau ein heffaith a chynyddu ein dylanwad.

5. Ymgysylltu â phobl

Mae ymgysylltu â phobl wrth wraidd ein huchelgais i ddylanwadu. Rydym am fod yn fwy gweladwy er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod beth rydym yn ei wneud a gyda beth y gallwn helpu, gan sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal ac yn gweithio ynddynt.

5.1 Ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Mae ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o’r sectorau gofal plant, gofal cymdeithasol a gwirfoddol, yn ogystal â gofalwyr a phobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio. Mae ei aelodau’n darparu gwybodaeth a chyngor arbenigol ar wasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae. Mae’r Bwrdd yn ein helpu i osod ein blaenoriaethau strategol, yn goruchwylio ein gwaith ac yn cynnig her feirniadol, ac mae’n monitro ein perfformiad er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru. Mae aelodau’r Bwrdd yn codi ymwybyddiaeth o’n gwaith hefyd.

Sut y cefnogodd mewnbwn y Bwrdd waith AGC

Myfyrdodau gan Dr Ruth Hussey CBE OBE DL, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.

Nododd trafodaethau’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol y flwyddyn hon y prif bwysau a’r cyfleoedd sy’n effeithio ar ofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Mae arsylwadau’r Bwrdd wedi helpu AGC i fyfyrio ar yr hyn a glywyd gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, darparwyr a phartneriaid, a thrwy hynny gryfhau’r ffordd y mae’n mynd ati i reoleiddio, gwella ac ymgysylltu. Yn ystod y flwyddyn, cyfrannodd y Bwrdd at ystod eang o waith AGC.

  • Cryfhau dealltwriaeth o risg a mannau lle ceir pwysau: atgyfnerthodd mewnbwn y Bwrdd lle gallai pwysau ar y gweithlu, pwysau o ran galw a phwysau ariannol effeithio ar ddiogelwch pobl a pharhad gofal, gan helpu AGC i roi ffocws ar ei weithgarwch sicrwydd a chymryd camau dilynol mewn perthynas â risgiau sy’n dod i’r amlwg.
  • Llywio’r dull rheoleiddio: cefnogodd trafodaethau’r ffocws ar arolygiadau dirybudd a datblygiad parhaus y ffordd y mae AGC yn casglu ac yn defnyddio adborth gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau a rhanddeiliaid.
  • Cefnogi ceisiadau cymesur am wybodaeth: helpodd adborth ar faich datganiadau blynyddol i ail-lunio gwaith gyda phartneriaid, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn lleihau achosion o ddyblygu a symleiddio’r datganiadau blynyddol o 2026.
  • Helpu AGC i baratoi ar gyfer graddau RISCA: tynnodd y Bwrdd sylw at yr hyn y byddai ei angen ar ddarparwyr a’r cyhoedd er mwyn i’r broses weithredu fod yn glir ac yn gyson, gan gynnwys cynghori ar ganllawiau, hyfforddiant a chyfathrebu hygyrch.
  • Llywio gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu: helpodd arsylwadau AGC i ganolbwyntio ar wybodaeth gliriach i’r cyhoedd, rhannu gwersi a ddysgwyd ac arferion da, ac ehangu ymgysylltiad â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau a’r sector gofal.
  • Gwella’r ffordd y caiff canlyniadau eu cyfleu: rhoddodd y Bwrdd gyngor ar sut i wneud gohebiaeth a chanlyniadau terfynol yn gliriach ar ddiwedd prosesau pryderon a chwynion, gan gynnwys ffocws cryfach ar iaith glir.
  • Cefnogi gwaith partneriaeth a gwella systemau: tynnodd trafodaethau sylw at bwysigrwydd sicrhau cysondeb â phrosesau monitro a chomisiynu awdurdodau lleol, a gwnaethant gefnogi ein hymrwymiad i rannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid. 
  • Llywio datblygiad sefydliadol: cynghorodd ar ddefnyddio mesurau a dangosyddion i olrhain cyflawniad, nodi gwelliannau cynnar, cryfhau ymgysylltiad, a chyfleu annibyniaeth a rôl AGC yn glir.
  • Nodi blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg: ystyriodd y Bwrdd faterion blaengar, gan gynnwys goblygiadau deallusrwydd artiffisial mewn gwasanaethau rheoleiddiedig a phwysigrwydd sicrhau bod capasiti a chynrychiolaeth ein Bwrdd Cynghori yn adlewyrchu anghenion Cymru.

Hoffwn ddiolch i Gillian Baranski a’i thîm arwain sy’n parhau i weithio gyda’r Bwrdd Cynghori mewn ffordd agored ac addysgiadol. Mae aelodau’r Bwrdd wedi cyfrannu at ystod eang o safbwyntiau a phrofiad gyda her adeiladol a pherthnasol. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddynt am eu hamser a’u cyfraniad.

Gan edrych tua’r dyfodol, bydd y Bwrdd yn parhau i roi adborth amserol ar faterion sy’n dod i’r amlwg, cynghori ar systemau a phrosesau a helpu i gadw ffocws ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl sy’n defnyddio gofal a’u teuluoedd.

5.2 Adborth gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau

Rydym yn gwerthfawrogi adborth gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, aelodau o’u teulu, staff a gweithwyr proffesiynol eraill yn arbennig. Rydym yn defnyddio hyn i gynllunio ein harolygiadau a llywio ein dyfarniadau ynghylch pa mor dda y mae gwasanaethau’n cael eu darparu.

Rydym bob amser yn siarad â phobl yn ystod arolygiadau i ddeall eu profiadau, ac rydym yn croesawu adborth ar unrhyw adeg gan deuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Y flwyddyn hon, daeth 7,019 o arolygon adborth wedi'u cwblhau i law am wasanaethau cofrestredig. O blith y rhain, cwblhawyd 53% gan staff a 34% gan berthnasau, gofalwyr neu ffrindiau. Cawsom lai o ymatebion gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau'n uniongyrchol (352 o arolygon) a gan weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r gwasanaethau hynny (515 o arolygon). 

Cawsom 2,424 o ymatebion i'n harolygon am wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Cwblhawyd 34% o'r rhain gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a/neu eu cynrychiolwyr, 47% gan staff a 19% gan randdeiliaid a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'r awdurdod lleol. 

Dyma rai enghreifftiau o’r adborth a ddaeth i law:

Am warchodwr plant:

“Mae Gwarchodwr Plant D yn warchodwr plant gofalgar, cefnogol ac ymarferol i fy nau blentyn. Mae ganddynt gydberthynas gref gyda hi, sy’n seiliedig ar flynyddoedd o ymddiriedaeth a gofal. Rwy’n ymddiried ynddi’n llwyr ac mae gwybod eu bod mewn dwylo diogel bob dydd yn rhoi tawelwch meddwl i mi. Mae’n mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau gyda gweithgareddau ac yn defnyddio strategaethau effeithiol i oresgyn heriau.”

Am wasanaeth cymorth cartref:

“Roeddwn yn bryderus iawn ynghylch cael pobl ddieithr yn fy nghartref i fy helpu, ond rwyf wedi bod mor gyfforddus a diogel yn eu cwmni. Byddai’n braf pe bawn i wedi derbyn cymorth fisoedd yn ôl.”

Am gartref gofal:

“Mae’r gofal, y cymorth a’r cyfathrebu gan y tîm yn anhygoel. Mae popeth yn gweithio’n dda. Maen nhw’n mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau bob amser.”

Gan staff:

“Mae’r rheolwyr yn hawdd iawn mynd atynt ac yn delio â phroblemau’n gyflym. Maent yn gefnogol iawn ac yn rhoi cyngor da pan fo angen. Maent yn gwrando ar y staff ac yn ystyried eu barn. Mae dealltwriaeth y gall y swydd hon beri straen emosiynol, ac rwy’n teimlo bod gofal gwirioneddol o fewn y tîm pan fydd rhywun yn cael diwrnod anodd. Mae’r cymorth hwnnw yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Am grŵp gofalwyr:

“Pan fydd pethau’n mynd yn ormod, byddwn yn troi at y bobl yn y grwpiau hyn gyntaf yn aml. Mae’r mathau hyn o grwpiau yn darparu cymorth ond maent hefyd yn cyfeirio unigolion at y gwasanaethau cymdeithasol cywir a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt.”

5.3 Ymgysylltu â darparwyr

Gwnaethom gynnal chwe digwyddiad i ddarparwyr a fynychwyd gan 720 o ddarparwyr a roddodd sgôr gyfartalog o 4.5 allan o 5 i ni ar gyfer y sesiynau hyn. Rydym yn anfon bwletinau misol at fwy na 6,000 o ddarparwyr gwasanaethau oedolion, plant a gofal plant a chwarae. Rydym wrthi’n cynnal archwiliad o’n bwletinau i ddarparwyr er mwyn annog mwy o dderbynwyr i ymgysylltu â’r cynnwys.

5.4 Gweithio gyda phartneriaid

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ychwanegu gwerth ac osgoi achosion o ddyblygu. Mae hyn yn cynnwys arolygiadau ar y cyd o rai lleoliadau gofal plant gydag Estyn, ac o wasanaethau i bobl ag anableddau dysgu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Mae cytundeb strategol rhwng partneriaid Arolygu Cymru (AGC, Estyn, AGIC ac Archwilio Cymru) yn nodi sut rydym yn cydweithio. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth, a chydlynu ein rhaglenni gwaith unigol.

Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â rheoleiddwyr y DU ac Iwerddon i drafod materion o ddiddordeb cyffredin. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd y Comisiwn Ansawdd Gofal, Arolygiaeth Gofal yr Alban, ac Awdurdod Rheoleiddio a Gwella Ansawdd (RQIA) Gogledd Iwerddon.

Buom yn gweithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd, sy’n gyfrifol am reoleiddio’r proffesiwn gofal cymdeithasol ac arwain gwelliant ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru. Gwnaethom gydweithio i hyrwyddo dulliau rhannu gwybodaeth a chasglu data am y gweithlu, yn enwedig o ran diogelu ac addasrwydd pobl i ymarfer. Gwnaethom hefyd gyfrannu at weithgarwch gwella gan gynnwys llesiant y gweithlu a’r gymuned ymarfer ar gyfer unigolion cyfrifol gwasanaethau gofal.

Partner cymharol newydd i ni yw Llais, sy’n gyfrifol am ddeall safbwyntiau pobl a’u profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â gwneud yn siŵr bod eu hadborth yn cael ei ddefnyddio gan y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i lywio gwasanaethau. Mae gennym Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng AGC a Llais erbyn hyn i lywio ein cydberthynas waith a’n galluogi i gydweithio er mwyn hyrwyddo gwasanaethau diogel ac o ansawdd uchel.

Rydym wedi parhau i ymgorffori ein rhaglen arolygwyr cymheiriaid ar gyfer ein gwaith gydag awdurdodau lleol. Mae hyn wedi cryfhau manylder ac ansawdd gwaith arolygu drwy rannu ymarfer ac arbenigedd o’r byd go iawn.

Y flwyddyn hon, gwnaethom weithio gyda rhanddeiliaid i adolygu ac adnewyddu ein strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â darparwyr er mwyn canfod sut yr hoffent i ni ymgysylltu â nhw. Byddwn yn cyhoeddi’r strategaeth newydd ym mis Mehefin 2026.

6. Hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru

Mae cael gwasanaeth yn Gymraeg yn hawl, nid yn ddewis ychwanegol. Mae hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn golygu creu’r amgylchedd cywir lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi’u grymuso ac yn hyderus y caiff eu hanghenion eu diwallu. Mae gan bawb sy’n darparu gwasanaethau gofal ledled Cymru gyfrifoldeb i ddarparu’r ‘cynnig rhagweithiol’ i siaradwyr Cymraeg. Hyd yn oed os na fydd gwasanaeth yn cefnogi pobl sy’n dymuno siarad Cymraeg, mae’n bwysig cydnabod hunaniaeth a diwylliant Cymreig pobl.

Y flwyddyn hon, rydym wedi canolbwyntio mwy ar ba mor dda y mae gwasanaethau’n hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ein gweithgarwch arolygu. Rydym bellach yn asesu a yw gwasanaethau’n cynnig gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhagweithiol, gan wneud y Gymraeg yn rhan gliriach o ofal sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn ein galluogi i adrodd ar ein canfyddiadau.

6.1 Yr hyn a nodwyd gennym

Mae tystiolaeth yn dangos cynnydd ar draws sectorau, ond mae ymarfer yn parhau i fod yn anghyson, yn aml oherwydd pwysau ar y gweithlu a dealltwriaeth amrywiol o’r Cynnig Rhagweithiol.

Gwelsom wasanaethau yn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ymarferol a gwelsom enghreifftiau cryf o wasanaethau’n cynnig y Gymraeg yn rhagweithiol ac yn adlewyrchu iaith a hunaniaeth wrth gynllunio gofal. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd yn gyson ledled Cymru eto.

Tabl 1: Asesiad o wasanaethau a arolygwyd mewn perthynas â’r Gymraeg a diwylliant Cymru, 2025 i 2026

Mae’r ffigurau’n dangos nifer a chanran y gwasanaethau a arolygwyd ym mhob sector a aseswyd yn erbyn pob canlyniad o ran y Gymraeg a diwylliant Cymru.
 Mae’r darparwr yn hyrwyddo, yn rhagweld, yn nodi ac yn diwallu anghenion pobl o ran y Gymraeg a diwylliant Cymru.Mae’r darparwr yn gwneud ymdrech i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg a diwylliant Cymru neu mae’n gweithio tuag at fod yn wasanaeth dwyieithog.Nid yw’r darparwr yn hyrwyddo anghenion y bobl o ran y Gymraeg a diwylliant Cymru ac mae’n rhaid gwella hyn.
Gwasanaethau Oedolion (895)255 (28.5%)432 (48.3%)208 (23.2%)
Gwasanaethau plant (217)40 (18.4%)96 (44.3%)81 (37.3%)
Gofal plant a chwarae (579)114 (19.7%)140 (24.2%)325 (56.1%)

O blith yr 895 o wasanaethau oedolion a arolygwyd, mae 28.5% yn hyrwyddo ac yn diwallu anghenion o ran y Gymraeg yn rhagweithiol, mae 48.3% yn gweithio tuag at fod yn wasanaeth dwyieithog, ac mae 23.2% angen gwella. O blith y 217 o wasanaethau plant a arolygwyd, mae 18.4% yn hyrwyddo'r Gymraeg yn rhagweithiol, mae 44.3% yn gweithio tuag at ddarpariaeth ddwyieithog, ac mae 37.3% angen gwella. O blith y 579 o wasanaethau plant a chwarae a arolygwyd, mae 19.7% yn hyrwyddo'r Gymraeg yn rhagweithiol, mae 24.2% yn gweithio tuag at ddarpariaeth ddwyieithog, ac mae 56.1% angen gwella.

Gwnaethom ganfod hefyd fod angen gwella’r Cynnig Rhagweithiol o hyd mewn mwy na hanner ein harolygiadau o awdurdodau lleol.

6.2 Beth rydym yn ei wneud

Mewn ymateb i hyn, rydym wedi cryfhau ein dull gweithredu drwy gynnwys a diweddaru ein canllawiau ar gyfer arolygwyr a darparwyr, ac wedi parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, i hyrwyddo gwelliant i
gefnogi uchelgais Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Rydym wedi rhoi mwy o sylw i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ein hadroddiadau arolygu ac wedi gwella ein cyfeiriadur gwasanaethau fel y gall pobl chwilio am wasanaethau gofal plant yn ôl iaith weithredu. Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda chyrff yn y sector ac rydym yn bwriadu tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael yn y digwyddiadau i ddarparwyr y flwyddyn nesaf, gan gynnwys Cynllun Addewid Cymraeg Cwlwm.

6.3 Ymarfer gwerth ei rannu

Roedd gwarchodwr plant yn Llanelli yn dymuno cryfhau sgiliau dwyieithog cynnar plant a meithrin hyder wrth ddefnyddio Cymraeg syml. Cyflwynodd drefn wythnosol sy’n cysylltu dysgu yn ei lleoliad â dysgu gartref. Mae pob plentyn yn mynd â llyfr ac un gair Cymraeg syml adref i’w rhannu â’i deulu. Mae’r rhieni’n darllen y llyfr gyda’u plentyn ac yn ymarfer y gair gyda’i gilydd. Mae’r plant yn mynd yn ôl at y geiriau yn ystod yr wythnos gyda’r gwarchodwr plant, gan eu defnyddio mewn caneuon, straeon a sgyrsiau. Gallwch ddarllen mwy am y ffordd y mae’r gwarchodwr plant dan sylw yn meithrin sgiliau dwyieithog ar wefan AGC.

7. Rhoi sicrwydd a chefnogi gwelliant

Mae’r bennod hon yn amlinellu ein gweithgareddau craidd wrth roi sicrwydd a chefnogi gwelliant ar draws y sectorau canlynol:

  • Gofal cymdeithasol i oedolion
  • Gofal cymdeithasol i oedolion gan awdurdodau lleol
  • Gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc
  • Gwasanaethau plant awdurdodau lleol
  • Gwasanaethau gofal plant a chwarae

7.1 Gofal cymdeithasol i oedolion

Proffil gwasanaethau cofrestredig

Tabl 2: Gwasanaethau gofal oedolion cofrestredig yng Nghymru ar 31 Mawrth 2026

Mae’r ffigurau’n dangos nifer y gwasanaethau gofal i oedolion cofrestredig ac, lle y bo’n berthnasol, nifer y lleoedd cofrestredig ar gyfer pob math o wasanaeth.
Math o wasanaethGwasanaethauLleoedd
Cartrefi gofal (heb ofal nyrsio)78713,213
Cartref gofal â gofal nyrsio24811,931
Gwasanaethau cymorth cartref785-
Gwasanaethau lleoli oedolion8-

Troednodyn: Nid yw AGC yn cadw data ar leoedd ar gyfer cymorth cartref na gwasanaethau lleoli oedolion.

Roedd 787 o gartrefi gofal heb ofal nyrsio (13,213 o leoedd), 248 o gartrefi gofal â gofal nyrsio (11,931 o leoedd), 785 o wasanaethau cymorth cartref, ac 8 gwasanaeth lleoli oedolion. Nid yw nifer y lleoedd yn gymwys i wasanaethau cymorth cartref a lleoli oedolion. 

Cartrefi gofal

Roedd cartrefi gofal yng Nghymru yn darparu cymorth i 23,667 o oedolion ar 31 Mawrth 2026 (data o ddatganiadau blynyddol a gyflwynwyd i AGC ar gyfer 2025 i 2026). Roedd y gyfradd defnydd yn 91% ar gyfer cartrefi gofal â gofal nyrsio ac yn 89.1% ar gyfer cartrefi gofal (gofal personol).

Gwnaethom gofrestru deg gwasanaeth cartref gofal â gofal nyrsio y flwyddyn hon, a chanslodd naw gwasanaeth eu cofrestriad. Fodd bynnag, parhaodd y mwyafrif i weithredu, gan eu bod wedi cofrestru â darparwr newydd. Gwnaethom hefyd gofrestru 34 o gartrefi gofal heb ofal nyrsio y flwyddyn hon, ynghyd â chanslo 19 o gofrestriadau. Eto, parhaodd y rhan fwyaf o’r cartrefi hyn i weithredu ar ôl cofrestru â darparwr gwahanol. Mae’r ffaith bod llawer o wasanaethau wedi parhau i weithredu gyda darparwr gwahanol yn gadarnhaol i bobl sy’n byw yn y cartrefi. 

Ar y cyfan, ar 31 Mawrth 2026, roedd un cartref gofal i oedolion â nyrsio yn fwy na’r un adeg y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd 16 yn fwy o gartrefi gofal i oedolion heb ofal nyrsio.

Tuedd deg mlynedd mewn cartrefi gofal i oedolion

Graff 1: Cyfanswm nifer y gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru – â gofal nyrsio

Graff llinell sy’n dangos nifer y gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion â nyrsio yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Gostyngodd y nifer ar y cyfan dros y cyfnod o 10 mlynedd, o 267 yn 2016 i 248 yn 2026, gyda’r nifer isaf, sef 247, wedi’i gofnodi yn 2025.

Graff 2: Cyfanswm nifer y lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru – â gofal nyrsio

Graff llinell sy’n dangos nifer y lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion â nyrsio yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Cynyddodd y nifer ar y cyfan o 11,542 yn 2016 i 11,931 yn 2026, gan gyrraedd uchafbwynt o 12,452 yn 2022 cyn gostwng i 11,881 yn 2025 a chynyddu ychydig yn 2026.

Mae'r graffiau hyn yn dangos nifer y gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion sy'n darparu gofal nyrsio a chyfanswm nifer y lleoedd ynddynt yng Nghymru dros y deg mlynedd o 31 Mawrth 2016 i 31 Mawrth 2026. Gostyngodd nifer y gwasanaethau o 267 i 248 dros y degawd. Er gwaethaf y gostyngiad hwn yn nifer y gwasanaethau, cynyddodd nifer y lleoedd o 11,542 i 11,931, sef cynnydd net o 389 o leoedd.

Graff 3: Cyfanswm nifer y gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru – heb ofal nyrsio

Graff llinell sy’n dangos nifer y gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion heb nyrsio yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Gostyngodd y nifer ar y cyfan o 842 yn 2016 i 787 yn 2026, gan gyrraedd ei bwynt isaf o 765 yn 2023 cyn cynyddu yn y blynyddoedd dilynol.

Graff 4: Cyfanswm nifer y lleoledd mewn cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru – heb ofal nyrsio

Graff llinell sy’n dangos nifer y lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion heb nyrsio yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Gostyngodd y nifer ar y cyfan o 14,070 yn 2016 i 13,213 yn 2026, ar ôl cyrraedd uchafbwynt o 14,345 yn 2017. Cofnodwyd y nifer isaf, sef 12,807, yn 2023.

Mae'r graffiau hyn yn dangos nifer y gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion sy'n darparu gofal personol (heb ofal nyrsio) a chyfanswm nifer y lleoedd ynddynt yng Nghymru dros y deg mlynedd o 31 Mawrth 2016 i 31 Mawrth 2026. Gostyngodd nifer y gwasanaethau o 842 i 787 dros y degawd. Gostyngodd nifer y lleoedd o 14,070 i 13,213 hefyd, sef gostyngiad net o 857 o leoedd.

Ar y cyfan, mae ein data yn awgrymu sector cartrefi gofal sy’n gymharol sefydlog yn y tymor byr, ond sy’n parhau i newid o ran cyfansoddiad dros y tymor hwy. Mae nifer y cartrefi gofal i oedolion â gofal nyrsio wedi gostwng dros y degawd, o 267 i 248, ond mae nifer y lleoedd nyrsio wedi cynyddu 389. Mae hyn yn awgrymu bod gwasanaethau wedi cael eu cyfuno’n
gartrefi nyrsio mwy neu fod capasiti cofrestredig gwasanaethau wedi newid, yn hytrach na gostyngiad syml yn y ddarpariaeth.

I’r gwrthwyneb, mae cartrefi gofal heb ofal nyrsio wedi lleihau o ran nifer a chapasiti, gan ostwng o 842 i 787 o wasanaethau ac o 14,070 i 13,213 o leoedd. Mae hyn yn cyfeirio at ostyngiad graddol yn y ddarpariaeth cartrefi gofal personol, sy’n gyson â’r cyfeiriad polisi ehangach o gefnogi mwy o bobl i fyw gartref a’r twf mewn gwasanaethau cymorth cartref. 

Fodd bynnag, mae cyfraddau defnydd uchel yn awgrymu bod galw parhaus a bod capasiti dros ben yn gyfyngedig. Mae’r sefyllfa ddiweddar o un flwyddyn i’r llall yn fwy cadarnhaol, gydag un cartref nyrsio ychwanegol ac 16 yn fwy o gartrefi gofal heb ofal nyrsio o gymharu â mis Mawrth 2025, sy’n awgrymu rhywfaint o sefydlogrwydd byrdymor ar ôl cyfnod hwy o gwtogi.

Gwasanaethau cymorth cartref

Mae gwasanaethau cymorth cartref yn darparu gofal i nifer sylweddol o bobl ledled Cymru. Yn ôl ein datganiadau blynyddol diweddaraf, roedd 34,491 o bobl yn cael gwasanaethau cymorth cartref ar 31 Mawrth 2026, gyda bron 100,000 o bobl yn cael cymorth yn ystod y flwyddyn.

Mae nifer y gwasanaethau wedi parhau i gynyddu, gan gynyddu 35 (4.7%) y flwyddyn hon i 785 a oedd yn gweithredu ar 31 Mawrth 2026. Gwnaethom gofrestru 78 o wasanaethau, o gymharu ag 87 y flwyddyn ddiwethaf, a gwnaethom ymdrin â’r broses o ganslo 43 o wasanaethau (o gymharu â 32). Roedd llawer o’r achosion o ganslo am nad oedd y gwasanaeth wedi gweithredu yn yr ardal ers cofrestru. Rhoddodd gwasanaethau eraill y gorau i weithredu am nad oeddent yn ariannol hyfyw mwyach neu ni allent sicrhau pecynnau gofal i’w galluogi i weithredu. Gwnaeth saith ailgofrestru â darparwr newydd.

Gall hyn fod yn dangos bod gormod o wasanaethau gofal cartref mewn rhai ardaloedd ac effaith barhaus hyn ar y farchnad, fel y disgrifiwyd yn ein hadroddiad ar gyfer 2024-2025.

Rydym yn parhau i fod yn bryderus ynghylch ansawdd gwael rhai ceisiadau gan ddarparwyr sydd am weithredu gwasanaeth cymorth cartref yng Nghymru. Y flwyddyn hon, cafodd 40 o geisiadau i gofrestru gwasanaeth cymorth cartref eu tynnu’n ôl
gan y darpar ddarparwr. Rydym yn priodoli hyn i’r ffaith y cyflwynwyd cam brysbennu ar ddechrau’r broses gofrestru sy’n tynnu sylw at fannau lle mae problemau o ran ansawdd y cais ac yn egluro’r disgwyliadau a’r dyletswyddau statudol a roddir ar unigolion cyfrifol a darparwyr gwasanaethau i weithredu yng Nghymru.

Tuedd deg mlynedd mewn gwasanaethau cymorth cartref

Mae’r graff isod yn dangos y cynnydd mewn gwasanaethau cymorth cartref bob blwyddyn dros y degawd diwethaf.

Graff 5: Cyfanswm nifer y gwasanaethau cymorth cartref yng Nghymru, 2016 i 2026

Graff llinell sy’n dangos nifer y gwasanaethau cymorth cartref yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Cynyddodd y nifer ar y cyfan o 423 yn 2016 i 785 yn 2026, gyda thwf cyson iawn o 2018 ymlaen.

Mae'r graff hwn yn dangos y cynnydd o un flwyddyn i'r llall yn nifer y gwasanaethau cymorth cartref a gofrestrwyd yng Nghymru dros y deg mlynedd o 31 Mawrth 2016 i 31 Mawrth 2026. Cynyddodd nifer y gwasanaethau o 423 i 785, sef cynnydd o 85% dros y degawd. Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu'r nod polisi o gefnogi mwy o bobl i fyw gartref gyda gofal wedi'i deilwra.

Sicrwydd a gwella

Ymateb i bryderon

Mae pryderon a godir gyda ni yn cynnig gwybodaeth bwysig am ble y gall fod risgiau i ddiogelwch neu lesiant pobl. Mae’n gadarnhaol bod pobl yn teimlo y gallant rannu eu pryderon â ni. Rydym yn ystyried pob pryder ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i’n helpu i benderfynu pryd i arolygu a pha feysydd i ganolbwyntio arnynt yn ystod ein harolygiadau. Ein cam cyntaf yw asesu’r risgiau y mae’r pryder yn eu peri ac ystyried unrhyw beth rydym eisoes yn ei wybod am y gwasanaeth. Rydym bob amser yn blaenoriaethu ac yn ymateb yn gyflym lle gall pobl fod yn wynebu risg neu fod wedi dioddef niwed.

Y flwyddyn hon cawsom 1,690 o bryderon gan gynnwys 1,143 am gartrefi gofal a 545 am wasanaethau cymorth cartref. Mae hyn yn gynnydd o 13.7% ers y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys 478 o bryderon a godwyd gan staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref (cynnydd o 367 ers y flwyddyn ddiwethaf). Mae pobl yn bryderus am faterion sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth gwasanaeth yn bennaf (1,109 o bryderon), sy’n adlewyrchu’r hyn rydym yn ei ganfod yn ein harolygiadau.

Caiff y camau gweithredu rydym yn eu hystyried eu hamlinellu isod ac mae’r ffigurau’n dangos ein penderfyniadau yn ystod 2025/26 (mae rhai pryderon yn arwain at fwy nag un cam gweithredu):

  • Cadw cofnod o'r materion a godwyd er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ein harolygiad nesaf (651)
  • Gofyn i'r gwasanaeth ymchwilio i'r materion a rannwyd a rhoi gwybod i ni am y canlyniad er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ein harolygiad nesaf (583)
  • Gwneud atgyfeiriad brys at dîm diogelu'r awdurdod lleol neu at yr heddlu (168)
  • Cynnal arolygiad brys (149)
  • Rhannu'r wybodaeth ag awdurdodau eraill a chydlynu camau â nhw yn ôl yr angen (128) 
  • Cyfeirio pobl at asiantaeth arall sydd mewn sefyllfa well i fynd i'r afael â'r materion a godwyd (111) 
  • Os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, awgrymu y dylent wneud cwyn uniongyrchol i'r gwasanaeth (30)
Adolygu hysbysiadau

Mae rheoliadau’n nodi’r hyn sy’n rhaid i ddarparwyr ein hysbysu amdano ac mae’r hysbysiadau hyn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd mewn gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys hysbysiadau am newidiadau i’r gwasanaeth, damweiniau neu anafiadau difrifol, ceisiadau i amddifadu rhywun o’i ryddid, marwolaeth person sy’n byw mewn cartref gofal a honiadau o gam-drin.

Rydym yn cael nifer mawr o hysbysiadau (27,324 y flwyddyn hon) a gall fod angen i ni weithredu ar rai ohonynt tra bo eraill er gwybodaeth yn unig yn bennaf. Rydym yn adolygu hysbysiadau yn erbyn yr hyn rydym eisoes yn ei wybod am wasanaeth ac rydym yn effro i unrhyw dueddiadau lle y gall fod angen cymryd camau dilynol neu ofyn am wybodaeth bellach gan y darparwr.

Y flwyddyn hon, cawsom 3,921 o hysbysiadau am honiadau o gam-drin, a gwnaethom ystyried pob un yn ofalus. Yn aml, roedd y rhain yn ymwneud â digwyddiadau nad ydynt wedi’u nodi mewn rheoliadau ac nad oeddent yn cyrraedd trothwyon diogelu awdurdodau lleol, er enghraifft achos o gwympo neu feddyginiaeth na chafodd ei rhoi. O ganlyniad, nid oedd angen i ni gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â 97% ohonynt. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn o hysbysiadau diangen, gwnaethom ddechrau gweithio i egluro diffiniadau a fydd yn cael eu cyflwyno yn 2026.

Gweithgarwch arolygu a chanfyddiadau

Tabl 3: Nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd o 2025 i 2026

Mae’r ffigurau’n dangos nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd ar gyfer pob math o wasanaeth gofal i oedolion yn ystod 2025 i 2026, a chyfanswm yr arolygiadau a gynhaliwyd.
Math o wasanaethNifer yr arolygiadau a gynhaliwyd
Gwasanaeth cartref gofal i oedolion a phlant12
Gwasanaeth cartref gofal i oedolion615
Gwasanaeth lleoli oedolion1
Gwasanaeth cymorth cartref324
Cyfanswm952

Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd gennym yn ôl y math o wasanaeth. Gwnaethom arolygu 12 o wasanaethau cartref gofal i oedolion a phlant, 615 o gartrefi gofal i oedolion, 1 gwasanaeth lleoli oedolion a 324 o wasanaethau cymorth cartref.

Tabl 4: Trosolwg o wasanaethau â graddau arolygu cyhoeddedig yn ôl y math o wasanaeth 2025 i 2026

Mae’r ffigurau’n dangos nifer y graddau arolygu a gyhoeddwyd ar gyfer cartrefi gofal i oedolion a gwasanaethau cymorth cartref yn ystod 2025 i 2026, yn ôl y radd a ddyfarnwyd.
Math o wasanaethRhagorolDaRhaid gwellaRhaid gwella’n
sylweddol
Gwasanaeth Cartref Gofal i Oedolion4771,44513686
Gwasanaeth Cymorth Cartref3174785325
Cyfanswm7941,923189111

Troednodyn: Yn cynnwys cyfanswm nifer y graddau lle mae gwasanaeth wedi cael ei arolygu unwaith neu fwy yn ystod y cyfnod adrodd.

Mae'r tabl hwn yn dangos cyfanswm nifer y graddau a ddyfarnwyd. Cafodd cartrefi gofal i oedolion 477 o raddau rhagorol, 1,445 o raddau da, 136 o raddau rhaid gwella ac 86 o raddau rhaid gwella'n sylweddol. Cafodd gwasanaethau cymorth cartref 317 o raddau rhagorol, 478 o raddau da, 53 o raddau rhaid gwella a 25 o raddau rhaid gwella'n sylweddol. 

Rydym yn dyfarnu pedair gradd i gartrefi gofal, a thair i wasanaethau cymorth cartref, a’r flwyddyn hon gwnaethom ddyfarnu 3,017 o raddau, gyda 90.1% ohonynt naill ai’n raddau ‘da’ neu’n raddau ‘rhagorol’.

“Nid gradd yw rhagoriaeth. Mae’n cael ei phrofi’n ddyddiol drwy ryngweithiadau ystyrlon, gofal cyson, wedi’i bersonoli, a phreswylwyr sy’n cael eu grymuso i fyw bywydau llawn, cyfoethog.”

Adroddiad AGC: Graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref - saith mis yn ddiweddarach

O blith y gwasanaethau y gwnaethom eu harolygu’r flwyddyn hon, dyfarnwyd graddau ‘rhagorol’ neu raddau ‘da’ ar draws pob thema arolygu i 681 o wasanaethau (71.5%) gyda dim ond 18 (1.9%) yn cael gradd ‘rhaid gwella’ neu ‘rhaid gwella’n sylweddol’ ar draws pob thema.

Dylai pob cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref fod wedi cael gradd erbyn hydref 2026.

Dyma ychydig o enghreifftiau o’r ymarfer cadarnhaol rydym wedi’i weld y flwyddyn hon.

  • Gwasanaeth byw â chymorth sy’n dangos sut mae’r bobl, eu perthnasau a’r staff yn dathlu cyflawniadau yn ystod cyfarfodydd tŷ a staff wythnosol. Caiff y cyflawniadau hyn eu harddangos yn amlwg ar hysbysfyrddau “Achievement” a “You’re the Best” yn y swyddfa ac yn y lleoliadau byw â chymorth i bawb eu gweld. Mae hyn yn ffordd dda o gymell y bobl a’r staff.
  • Cartref gofal sy’n darparu therapïau ategol fel reiki, tylino pen yn y dull Indiaidd, a drymio mewn amgylchedd tawel i ymlacio pobl. Mae wal goffa â lluniau o bobl sydd wedi marw er mwyn cofio amdanynt a dathlu eu bywydau. Caiff blodau ffres sy’n cael eu tyfu yn y gerddi eu gosod o gwmpas y cartref mewn powlenni dŵr a fasys. Mae’r bobl sy’n byw yn y cartref gofal yn rhan o’r broses o ddewis staff.
  • Gwasanaeth cysylltu bywydau sy’n cefnogi pobl i fyw’n weithgar mewn lleoliadau teuluol lle cânt eu trin â charedigrwydd, tosturi a pharch. Ffocws y gwasanaeth yw galluogi pobl i fyw bywydau bodlon, gan feithrin eu hyder a’u hannibyniaeth wrth fyw gyda theulu mewn amgylchedd cyfforddus, cartrefol a chyfarwydd.

Ceir rhagor o astudiaethau achos ar ein tudalen we ‘Ymarfer gwerth ei rannu ym maes gwasanaethau oedolion a phlant’ sy’n ehangu, ac yn ein hadroddiadau arolygu.

Meysydd i’w gwella

Mae ein canfyddiadau o weithgarwch arolygu, gan gynnwys ymateb i bryderon, yn dangos risgiau parhaus mewn perthynas ag arweinyddiaeth a rheolaeth, staffio, llywodraethu a meddyginiaeth. Mae hyn yn awgrymu, er bod y rhan fwyaf o wasanaethau’n darparu canlyniadau da, mae’r sector yn agored i bwysau gweithredol o hyd, yn enwedig pan fo trefniadau goruchwylio gwan, prinder staff neu systemau meddyginiaeth yn effeithio ar ddiogelwch a chysondeb y gofal.

Lle gwnaethom nodi bod angen gwneud gwelliannau, gwnaeth y rhan fwyaf o wasanaethau y newidiadau angenrheidiol i wella canlyniadau i bobl. Gwnaethom arolygu 40 o wasanaethau fwy nag unwaith i sicrhau bod gwelliannau wedi’u gwneud.

Er enghraifft, cyhoeddwyd Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth i gartref gofal yn dilyn arolygiad yn 2021.Gwnaethom barhau i fonitro’r gwasanaeth yn agos, sydd wedi ymgymryd â chryn weithgarwch gwella, gan arwain at ganlyniadau gwell i’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Yn ein harolygiad diweddaraf yn 2026, cafodd bedair gradd ‘rhagorol’. Cafodd y darparwr ei gynnwys yn ein hadroddiad ar raddau a bydd yn rhannu ei daith wella yn ein Cynhadledd Ansawdd gyntaf ym mis Mai 2026.

Arweinyddiaeth a rheolaeth oedd y maes y gwnaethom nodi amlaf fod angen ei wella o hyd. Gwnaethom ddyfarnu graddau ‘rhaid gwella’ neu ‘rhaid gwella’n sylweddol’ i 113 o wasanaethau ar gyfer y thema hon, gan nodi 173 o feysydd i’w gwella a chyhoeddi 69 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth. Gall methiannau yn y maes hwn effeithio ar bob agwedd ar ofal a chymorth, gan danseilio llesiant pobl.

Roedd y prif faterion yn cynnwys y canlynol:

  • Trefniadau llywodraethu gwan, gan gynnwys diffyg goruchwyliaeth gan yr unigolyn cyfrifol, atebolrwydd aneglur, prosesau sicrhau ansawdd annigonol, camau dilynol annigonol pan godir pryderon am y gwasanaeth, a gwasanaethau nad ydynt yn cael eu darparu yn unol â’r datganiad o ddiben
  • Diffyg cymorth a chyfleoedd datblygu i staff, gan gynnwys materion mewn perthynas â goruchwylio, arfarnu, hyfforddi a bylchau o ran cymhwysedd, ynghyd â threfniadau recriwtio a fetio anghyflawn sy’n golygu bod llai o sicrwydd bod staff yn addas i weithio
  • Diffyg staff mewn gwasanaethau sydd â sgiliau addas ac sy’n cael eu defnyddio i ddarparu gofal diogel a chyson
  • Cofnodion anghyflawn, anghywir neu gofnodion nad ydynt yn gyfredol, gan gynnwys adolygiadau o ansawdd y gofal, sy’n golygu ei bod yn anos goruchwylio a gwneud penderfyniadau diogel

Roedd hefyd yn destun pryder gweld mater a oedd yn dod i’r amlwg mewn perthynas â meddyginiaeth. Gwnaethom gyhoeddi 12 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth a 15 o Feysydd i’w Gwella eraill. Roedd y materion yn cynnwys y canlynol:

  • Prosesau gwan ar gyfer goruchwylio ac archwilio meddyginiaeth
  • Systemau storio a rheoli stoc anniogel 
  • Gwallau gweinyddol ac o ran cofnodi
  • Gweithdrefnau meddyginiaeth aneglur neu weithdrefnau nad oeddent yn gyfredol

Byddwn yn monitro hyn yn agos y flwyddyn nesaf.

Dim ond pedwar gwasanaeth (cartrefi gofal â gofal nyrsio) a gafodd radd wael mewn perthynas â’r thema llesiant.

Mae nifer y gwasanaethau lle rydym yn cymryd camau gweithredu statudol yn isel o hyd. Mae hyn yn adlewyrchu effaith gweithgarwch arolygu a gorfodi o ran ysgogi gwelliannau a sicrhau dyfodol gwasanaethau i’r bobl sy’n dibynnu arnynt i gael gofal a chymorth. Dim ond naw gwasanaeth cymorth cartref a 17 o gartrefi gofal a gafodd eu hystyried gan ein panel gorfodi am na welwyd gwelliant fel y cam nesaf ar ein llwybr gorfodi. O ganlyniad i hyn, gwnaethom gyhoeddi naw hysbysiad gorfodi i chwe gwasanaeth i oedolion, gan gynnwys hysbysiadau gwella i ganslo gwasanaeth neu Unigolyn Cyfrifol oni bai bod gwelliannau’n cael eu gwneud. Roedd y rhain yn ymwneud â methiannau sylweddol ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth yn bennaf. Arweiniodd pedwar o’r rhain at ganslo’r gwasanaeth. Gwnaethom orfodi amrywiadau er mwyn gosod amodau i liniaru
risgiau i bobl mewn saith gwasanaeth.

7.2 Gofal cymdeithasol i oedolion gan awdurdodau lleol

Sicrwydd a gwella 

Y flwyddyn hon gwnaethom ymgymryd â gweithgarwch arolygu yng ngwasanaethau oedolion wyth awdurdod lleol. Cynhaliwyd tri o’r arolygiadau hyn ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Gallwch ddarllen ein hadroddiadau arolygu ac adolygu awdurdodau lleol ar wefan AGC.

Arolygiadau AGC:

  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (archwiliad gwelliant)
  • Cyngor Sir Penfro (archwiliad gwelliant)
  • Cyngor Sir Ceredigion (archwiliad gwelliant)

Arolygiadau ar y cyd ag AGIC:

Gwnaethom weithio gydag AGIC i adolygu’r gofal a’r cymorth a ddarperir i bobl ag anableddau dysgu neu anghenion iechyd meddwl, mewn partneriaeth â’r bwrdd iechyd lleol perthnasol:

  • Cyngor Abertawe (tîm iechyd meddwl cymunedol)
  • Cyngor Sir Gâr (timau anableddau dysgu cymunedol)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (timau anableddau dysgu cymunedol)
Ymarfer cadarnhaol

Yn ystod ein harolygiadau’r flwyddyn hon, gwelsom fod llawer o awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd gwirioneddol o ran rhoi pobl wrth wraidd prosesau asesu a gofal, ochr yn ochr â meysydd sydd angen eu gwella o hyd.

Gwelsom dystiolaeth gref o awdurdodau lleol yn blaenoriaethu llais, dewis a rheolaeth pobl, ac roedd ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar gryfderau wedi’i wreiddio yn y ffordd y caiff pobl eu hasesu a sut y caiff gofal ei gynllunio. Gwelsom hyn yn ymarferol mewn sawl awdurdod lleol:

  • Yn Sir Fynwy, roedd asesiadau’n cynnwys gwybodaeth fywgraffyddol fanwl i gofnodi cryfderau pobl ac adlewyrchu eu hunaniaeth. 
  • Yn Sir Benfro, mae’r ymarferwyr yn defnyddio ‘cipluniau’ yn rheolaidd mewn asesiadau ac adolygiadau i feithrin dealltwriaeth glir o fywydau pobl a’r hyn sy’n bwysig, gan gefnogi dull sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn.
  • Yng Nghasnewydd, sicrhaodd dull a arweinir gan wrando o’r cyswllt cyntaf fod llais a dewis pobl yn llywio cymorth o’r cychwyn cyntaf.
  • Ym Mlaenau Gwent a Thorfaen, roedd adnoddau cyfathrebu hygyrch yn helpu pobl i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal.

Gwnaethom barhau i ganfod tystiolaeth glir fod gwasanaethau atal, ymyrryd yn gynnar ac ailalluogi yn gwneud gwahaniaeth drwy helpu pobl i gael gafael ar gymorth yn gynharach ac aros yn annibynnol. Er enghraifft, mae dull ‘Pwyntiau Siarad’ Sir Ddinbych yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth prydlon i bobl heb fod angen atgyfeiriad ffurfiol.

Er gwaethaf y pwysau parhaus, gwelsom dystiolaeth o waith partneriaeth effeithiol, lle roedd gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau lleol eraill yn gwella mynediad a lleihau oedi i bobl. Roedd yr enghreifftiau yn cynnwys y canlynol:

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn cydweithio yn Nhorfaen drwy ddull amlasiantaeth, wedi’i gyd-leoli a oedd yn golygu bod modd rhannu gwybodaeth yn gyflymach a chydgysylltu gofal pobl mewn ffordd gryfach, gan alluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau’n brydlon ac yn unol â’u hanghenion.
  • ‘Canolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa’ yng Ngheredigion, sy’n dod â gwasanaethau ynghyd i helpu pobl i fyw’n annibynnol.
  • Fforymau ar y cyd Sir Benfro, lle mae gweithwyr proffesiynol a phartneriaid yn cydweithio i ddod o hyd i atebion i bobl.
  • Yn Sir Gaerfyrddin, roedd gwaith ar y cyd rhwng yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol yn ehangu opsiynau byw â chymorth ac yn gwella’r gwaith o gydgysylltu ôl-ofal i bobl, gan helpu i hyrwyddo annibyniaeth a pharhad cymorth.

Yn y pedwar awdurdod lleol lle gwnaethom gynnal archwiliadau gwelliant, gwelsom fod y gwelliannau a nodwyd gennym wedi cael eu gwneud.

Meysydd i’w gwella

Nododd ein harolygiadau’r flwyddyn hon heriau parhaus o ran amseroldeb asesiadau, adolygiadau a chyswllt cyntaf mewn sawl awdurdod lleol.

Cawsom 146 o bryderon am wasanaethau awdurdodau lleol i oedolion. Rhannwyd pryderon ynghylch y canlynol:

  • Ansawdd a dibynadwyedd gofal, gan gynnwys amseroldeb asesiadau a chyfathrebu
  • diogelu a hawliau dynol, gan gynnwys materion diogelwch
  • addasrwydd neu sefydlogrwydd llety 
  • sut roedd awdurdodau lleol yn ymdrin â chwynion a phryderon.

Gwelsom fod mynediad at wasanaethau eirioli yn anghyson. Mewn sawl awdurdod lleol, nid oedd gwasanaethau eirioli yn cael eu cynnig, eu hesbonio na’u cofnodi’n glir, sy’n golygu nad oedd rhai pobl o bosibl wedi cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau am eu gofal. Gwelsom anghysondeb o ran y ffordd y mae rhai awdurdodau lleol yn nodi anghenion gofalwyr ac yn ymateb iddynt. Roedd angen i awdurdodau lleol wella’r ffordd y maent yn cynnig ac yn cofnodi asesiadau gofalwyr, a sicrhau bod rolau ac anghenion gofalwyr yn cael eu hadlewyrchu’n briodol wrth gynllunio asesiadau a chymorth.

Gwnaethom nodi y gallai awdurdodau lleol wneud mwy i rannu gwybodaeth â phobl a sefydliadau pan gaiff pryderon diogelu eu codi. Dylai pobl gael diweddariadau clir ac amserol am bryderon y maent wedi rhoi gwybod amdanynt, a dylid rhannu’r gwersi a ddysgwyd o achosion diogelu ar draws gwasanaethau.

Mae ôl-groniadau mewn perthynas ag awdurdodi Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn parhau i greu risgiau cyfreithiol ac o ran hawliau dynol. Gall pobl sy’n aros am asesiadau gael eu hamddifadu o’u rhyddid heb fynediad amserol at y mesurau diogelu statudol a ddyluniwyd i’w hamddiffyn. Ceir gwybodaeth fanwl am hyn yn ein hadroddiad monitro blynyddol ar Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid ar gyfer 2024-2025.

Roedd capasiti staff a phwysau wrth recriwtio yn themâu a gododd yn rheolaidd yn ein harolygiadau. Roedd argaeledd cyfyngedig gweithwyr gofal mewn gwasanaethau cymorth cartref yn creu oedi wrth ddarparu gofal a chymorth i rai pobl. Mewn gwasanaethau iechyd meddwl, roedd prinder staff arbenigol, gan gynnwys Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy a meddygon adran 12 (meddygon sydd wedi’u cymeradwyo i wneud argymhellion o dan gyfraith iechyd meddwl), hefyd yn arwain at oedi wrth gael gafael ar gymorth i rai. Roedd y pwysau hyn yn cael mwy o effaith ar bobl mewn ardaloedd gwledig, lle roedd amseroedd teithio a gweithlu llai o faint yn golygu bod recriwtio a darparu gwasanaethau yn fwy heriol.

7.3 Gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc

Proffil gwasanaethau a reoleiddir gennym ni

Tabl 5: Gwasanaethau plant rheoleiddiedig yng Nghymru ar 31 Mawrth 2026

Mae’r ffigurau’n dangos nifer y gwasanaethau plant rheoleiddiedig yng Nghymru ac, lle mae’r wybodaeth ar gael, nifer y lleoedd ar gyfer pob math o wasanaeth.
Math o wasanaethNifer y gwasanaethauNifer y lleoedd
Gwasanaeth cartref gofal i blant3971,349
Gwasanaeth maethu21-
Gwasanaeth maethu awdurdod lleol22-
Gwasanaethau mabwysiadu awdurdod lleol5-
Gwasanaeth mabwysiadu6-
Gwasanaeth eirioli2-
Gwasanaeth llety diogel114
Canolfan breswyl i deuluoedd587
Gwasanaeth preswyl ysgol arbennig445
Ysgol breswyl101,272
Coleg addysg bellach3-

Troednodyn: Mae llinell doriad yn dangos nad yw’r wybodaeth hon gennym.

Mae'r tabl hwn yn dangos nifer y gwasanaethau plant rheoleiddiedig a'r lleoedd a oedd ar gael yng Nghymru ar 31 Mawrth 2026. Roedd 397 o wasanaethau cartrefi gofal i blant (1,349 o leoedd), 21 o wasanaethau maethu, 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol, 5 asiantaeth fabwysiadu awdurdod lleol, 6 gwasanaeth mabwysiadu, 2 gwasanaeth eirioli, 1 gwasanaeth llety diogel (14 o leoedd), 5 canolfan breswyl i deuluoedd (87 o leoedd), 4 gwasanaeth preswyl ysgol arbennig (45 o leoedd), 10 ysgol breswyl (1,272 o leoedd), a 3 choleg addysg bellach. 

Cartrefi gofal i blant

Y flwyddyn hon gwnaethom gofrestru 55 o gartrefi gofal newydd i blant mewn 20 o’r 22 o siroedd yng Nghymru (cynnydd o 14.6% ers mis Mawrth 2025), gan arwain at 125 o leoedd ychwanegol. Mae awdurdodau lleol bellach yn gweithredu 81 o gartrefi gofal i blant, sef cynnydd o 24.6% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (65).

Gwnaeth llai o gartrefi gofal ganslo eu cofrestriad y flwyddyn hon, saith o gymharu â 15 y flwyddyn ddiwethaf. Roedd rhesymau cyffredin dros ganslo yn cynnwys plentyn mewn cartref meddiannaeth sengl yn troi’n 18 oed ac yn symud ymlaen neu landlordiaid eisiau gwerthu eu heiddo.

Mae data o’r dangosfwrdd datganiadau blynyddol yn dangos bod 1,057 o blant yn byw mewn cartref gofal ar 31 Mawrth 2026, gyda chyfradd defnydd o 81.9% ar gyfartaledd yn ystod 2025-2026.

Mae diffyg gwasanaethau i ddiwallu anghenion plant ag anghenion cymhleth o hyd.

Trosglwyddo i fodel nid-er-elw

Y flwyddyn hon, gwnaethom baratoi ar gyfer diwygiadau i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a gyflwynwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025. Mae’r diwygiadau yn cyfyngu ar y broses o wneud elw drwy ofalu am blant sy’n derbyn gofal, a dechreuodd y broses o roi hyn ar waith yn raddol ar 1 Ebrill 2026. Ar ôl 31 Mawrth 2026, dim ond darparwyr cartrefi gofal i blant, gwasanaethau maethu a llety diogel nid-er-elw all wneud cais i gofrestru i weithredu yng Nghymru.

Cyhoeddodd ein tîm cofrestru dudalen we benodol ynghylch Dileu elw o ofal plant er mwyn helpu darparwyr gwasanaethau plant i ddeall beth oedd y newidiadau’n ei olygu iddynt. 

Cawsom 42 o geisiadau i gofrestru cartrefi gofal i blant yn ystod chwarter olaf 2025-2026, sy’n sylweddol fwy nag yn y naw mis blaenorol gyda’i gilydd (32).

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau bob chwe mis ar gynnydd tuag y model nid-er-elw ar gyfer cartrefi gofal i blant. Gallwch ddarllen yr adroddiadau trosglwyddo ar ddileu elw o ofal plant ar wefan Llywodraeth Cymru.

O 31 Mawrth 2026, caiff 77.5% (308) o’r 397 o gartrefi gofal i blant eu gweithredu gan ddarparwyr er elw, gan ddarparu 1,069 o leoedd, ac mae 280 o leoedd mewn 89 o gartrefi gofal nid-er-elw. O’r cartrefi gofal nid-er-elw presennol a geir i blant, caiff 91% (81) eu gweithredu gan awdurdodau lleol.

Dros y degawd diwethaf, mae nifer y cartrefi gofal i blant wedi mwy na dyblu (cynnydd o 176%) ac mae nifer y lleoedd wedi cynyddu 112%.

Graff 6: Gwasanaethau a lleoedd cartrefi gofal i blant yng Nghymru, 2016 i 2026

Graff llinell sy’n dangos nifer y gwasanaethau cartrefi gofal i blant a’r lleoedd yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Cynyddodd y ddau drwy gydol y cyfnod. Cynyddodd nifer y gwasanaethau o 144 yn 2016 i 397 yn 2026, tra cynyddodd nifer y lleoedd o 637 i 1,349.

Mae'r graff hwn yn dangos y cynnydd mewn gwasanaethau cartrefi gofal i blant a'r lleoedd sydd ar gael yng Nghymru dros y deg mlynedd o 31 Mawrth 2016 i 31 Mawrth 2026. Cynyddodd nifer y gwasanaethau o 144 i 397. Cynyddodd nifer y lleoedd o 637 i 1,349. 

Sicrwydd a gwella

Ymateb i bryderon

Mae pryderon a godir gyda ni yn cynnig gwybodaeth bwysig am ble y gall fod risgiau i ddiogelwch neu lesiant plant. Rydym yn ystyried pob pryder a gaiff ei rannu â ni ac mae’r pryderon hyn yn ein helpu i benderfynu pryd i arolygu a pha feysydd i ganolbwyntio arnynt. Ein cam cyntaf bob amser yw asesu’r risgiau y mae’r pryder yn eu peri ac ystyried unrhyw beth arall rydym yn ei wybod am y gwasanaeth. Rydym bob amser yn blaenoriaethu ac yn ymateb yn gyflym lle gall pobl fod yn wynebu risg neu wedi profi niwed.

Y flwyddyn hon, cawsom 201 o bryderon am wasanaethau plant rheoleiddiedig, ac roedd 87% ohonynt yn ymwneud â chartrefi gofal. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 95% o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf, er na allem nodi unrhyw dueddiadau na rhesymau penodol dros hyn, heblaw am y cynnydd yn nifer y gwasanaethau fel y disgrifiwyd uchod. Mae’r ffaith bod pobl yn teimlo y gallant rannu pryderon â ni yn galonogol.

Roedd llawer o’r pryderon (148) yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth ac ansawdd y gofal a’r cymorth (92). Cawsom 33 o bryderon a godwyd gan staff sy’n gweithio mewn gwasanaeth, yr un nifer â’r flwyddyn ddiwethaf bron, a 30 o bryderon a godwyd gan bobl sy’n byw ar yr un stryd â chartref gofal. Mae pobl yn bryderus am faterion sy’n ymwneud ag
arweinyddiaeth a rheolaeth gwasanaeth yn bennaf (74% o bryderon o gymharu â 64% y flwyddyn ddiwethaf). Gwnaethom asesu mai dim ond 13 o bryderon yr oedd angen i ni eu harolygu ar unwaith ac, ar gyfer 49% o’r pryderon, gwnaethom ofyn i ddarparwr y gwasanaeth ymchwilio a gweithredu yn ôl yr angen, gan roi gwybod i ni am y canlyniad. 

Caiff y camau gweithredu rydym yn eu hystyried eu hamlinellu isod ac mae’r ffigurau’n dangos ein penderfyniadau yn ystod 2025 i 2026 (mae rhai pryderon yn arwain at fwy nag un cam gweithredu):

  • Gofyn i'r gwasanaeth ymchwilio i'r materion a rannwyd a rhoi gwybod i ni am y canlyniad er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ein harolygiad nesaf (99)
  • Cadw cofnod o'r materion a godwyd er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ein harolygiad nesaf (75)
  • Gwneud atgyfeiriad brys at dîm diogelu'r awdurdod lleol neu at yr heddlu (20)
  • Cynnal arolygiad brys (13)
  • Cyfeirio pobl at asiantaeth arall sydd mewn sefyllfa well i fynd i'r afael â'r mater a godwyd (7)
  • Rhannu'r wybodaeth ag awdurdodau eraill a chydlynu camau â nhw os oes materion difrifol (6)
  • Os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, awgrymu y dylai pobl wneud cwyn uniongyrchol i'r gwasanaeth (3)
Adolygu hysbysiadau

Mae rheoliadau’n nodi pa ddigwyddiadau y mae’n rhaid i ddarparwyr ein hysbysu amdanynt ac maent yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd mewn gwasanaeth. Mae hysbysiadau’n cynnwys rhoi gwybod i ni am newidiadau yn y gwasanaeth, pan fydd plentyn ar goll, honiadau o gam-drin a gorchmynion gan yr Uchel Lys sy’n ymwneud ag amddifadu o ryddid. Rydym yn adolygu hysbysiadau yng nghyd-destun yr hyn rydym eisoes yn ei wybod am y gwasanaeth ac rydym yn effro i unrhyw dueddiadau lle y gall fod angen i ni gymryd camau dilynol neu ofyn am wybodaeth bellach gan y darparwr.

Cawsom 8,669 o hysbysiadau’r flwyddyn hon, a gall fod angen i ni weithredu ynghylch rhai ohonynt, ac mae eraill er gwybodaeth yn unig yn bennaf.

Cawsom 600 o hysbysiadau am honiadau o gam-drin a 931 yn rhoi gwybod i ni am ymholiadau amddiffyn plant, a gwnaethom ystyried pob un ohonynt yn ofalus. Yn aml, roedd y rhain yn ymwneud â digwyddiadau nad ydynt wedi’u nodi mewn rheoliadau ac nad oeddent yn cyrraedd trothwyon diogelu awdurdodau lleol. Ar ôl ystyried y rhain a siarad â’r darparwr i gael
rhagor o wybodaeth, gwnaethom ganfod nad oedd angen i ni gymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y mwyafrif ohonynt, megis achosion a oedd yn ymwneud â digwyddiadau rhwng cyfoedion neu ddatgelu achos hanesyddol o gam-drin nad oedd yn gysylltiedig â’r gwasanaeth gofal.

Mae hyn hefyd yn wir am hysbysiadau am blant yn mynd ar goll lle cawsom 3,758 o hysbysiadau (cynnydd o 29.5% o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf). Mae’r hysbysiadau’n ymwneud â thros 500 o blant, y rhoddwyd gwybod bod y rhan fwyaf ohonynt ar goll ar un achlysur, ond rhoddwyd gwybod bod 15 o blant neu bobl ifanc ar goll ar fwy na 40 o achlysuron gan gyfrif am 782 o hysbysiadau. Yn aml, roedd y gwasanaeth yn gwybod ble roeddent a’u bod yn ddiogel, er enghraifft roeddent wedi torri amser cyrffyw wrth gwrdd â ffrindiau. Mae plant â phrofiad o fod mewn gofal wedi dweud ei bod yn gas ganddynt
gael eu labelu fel pe baent ‘ar goll’ yn y sefyllfaoedd hyn. Rydym felly wedi adolygu ein diffiniad o’r hyn y mae’n rhaid rhoi gwybod i ni amdano, er mwyn cydfynd â diffiniad yr heddlu o berson coll:

“Bydd unrhyw un na ellir sefydlu ei leoliad yn cael ei ystyried fel rhywun ar goll hyd nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau eu llesiant ai peidio.”

Bydd y newid hwn yn cael ei roi ar waith yn 2026.

Canfyddiadau arolygiadau

Tabl 6: Arolygiadau o wasanaethau plant cofrestredig yn ôl y math o wasanaeth, 2025 i 2026

Mae’r ffigurau’n dangos nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd ar gyfer pob math o wasanaeth plant cofrestredig yn ystod 2025 i 2026, a chyfanswm yr arolygiadau a gynhaliwyd.
Math o wasanaethNifer yr arolygiadau 2025 i 26
Gwasanaeth cartref gofal i blant205
Gwasanaeth maethu awdurdod lleol6
Gwasanaeth maethu3
Ysgol breswyl6
Coleg addysg bellach2
Canolfan breswyl i deuluoedd2
Gwasanaeth llety diogel1
Gwasanaeth preswyl ysgol arbennig1
Cyfanswm Cyfun226

Mae'r tabl hwn yn dangos dadansoddiad o'r arolygiadau a gynhaliwyd ar draws gwasanaethau plant cofrestredig yn ystod 2025 i 2026. Cwblhaodd AGC gyfanswm o 226 o arolygiadau, gan gynnwys 205 o wasanaethau cartrefi gofal i blant, chwe gwasanaeth maethu awdurdod lleol, chwe ysgol breswyl, tri gwasanaeth maethu, dau goleg addysg bellach, dwy ganolfan breswyl i deuluoedd, un gwasanaeth llety diogel, ac un gwasanaeth preswyl ysgol arbennig. 

Dim ond ar gyfer cartrefi gofal rydym yn dyfarnu graddau a nodwyd gennym fod y rhan fwyaf yn cyflawni canlyniadau da i blant a phobl ifanc.

Tabl 7: Trosolwg o’r graddau a ddyfarnwyd i wasanaethau cartrefi gofal i blant yn 2025-26

Mae’r ffigurau’n dangos nifer y graddau arolygu a gyhoeddwyd ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal i blant yn ystod 2025 i 2026, yn ôl y radd a ddyfarnwyd.
 RhagorolDaRhaid gwellaRhaid gwella’n sylweddol
Gwasanaethau cartrefi gofal i blant2633895818

Troednodyn: Yn cynnwys cyfanswm nifer y graddau lle mae gwasanaeth wedi cael ei arolygu unwaith neu fwy yn ystod y cyfnod adrodd.

O blith y 205 o gartrefi y gwnaethom eu harolygu’r flwyddyn hon, roedd 90% o’r graddau a ddyfarnwyd yn raddau ‘da’ neu’n raddau ‘rhagorol’, a chafodd 148 (72%) o gartrefi gofal raddau da neu ragorol yn y pedair thema arolygu. Dim ond pum cartref gofal (2.4%) a gafodd raddau rhaid gwella neu raddau rhaid gwella’n sylweddol yn y pedair thema.

Astudiaeth achos 1: Gwasanaeth seibiant byr i blant anabl gyda phedair gradd ragorol

Nododd ein hadroddiad arolygu:

“Mae llesiant y plant yn cael ei hyrwyddo i safon ragorol. Cânt eu cefnogi i wneud dewisiadau am brydau, gweithgareddau ac arferion, sy’n annog annibyniaeth a hyder. Mae teuluoedd yn gwerthfawrogi’r cydberthnasau cryf â staff gofal a’r diweddariadau rheolaidd a ddarperir yn ystod arosiadau plant. Mae’r plant yn mwynhau ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys cyfleoedd yn y gymuned, sy’n ychwanegu at eu hapusrwydd a’u hansawdd bywyd.

Darperir gofal a chymorth i safon uchel iawn. Mae’r cynlluniau personol yn glir, yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ac maent yn rhoi arweiniad ymarferol i’r staff gofal er mwyn diwallu anghenion y plant. Mae’r adborth gan deuluoedd yn hynod gadarnhaol, gyda llawer yn dweud bod y gofal yn ardderchog ac yn
rhoi tawelwch meddwl iddynt.

Mae gwaith adnewyddu diweddar wedi creu lle croesawgar a chyfforddus i’r plant. Mae’r amgylchedd yn cefnogi llesiant y plant ac yn galluogi’r staff gofal i ddarparu gofal o ansawdd uchel.”

Astudiaeth achos 2: Cartref gofal i blant anabl yn ‘newid bywydau’

Dywedodd un teulu wrthym fod y gofal a’r cymorth a ddarparwyd gan gartref gofal i blant anabl yn “newid bywydau yn ystod argyfwng”. Drwy ofal cyson a magwrus a chydberthnasau cryf, rhoddodd y lleoliad sefydlogrwydd a diogelwch i’w plentyn a’r hyder i ffynnu. Gwelodd y teulu welliannau clir o ran llesiant emosiynol ac ymddygiad, a gwnaeth y seibiant a’r cymorth a ddarparwyd eu helpu i adfer a chryfhau perthnasoedd teuluol. Mae profiad y teulu hwn yn dangos y gwahaniaeth pwerus y gall gofal preswyl tosturiol a gaiff ei reoli’n dda ei wneud i blant a theuluoedd. Yn yr arolygiad diwethaf, dyfarnwyd tair gradd
dda ac un radd ragorol i’r cartref am arweinyddiaeth a rheolaeth.

Astudiaeth achos 3: O gartref gofal i awdur cyhoeddedig

Dechreuodd plentyn a oedd yn byw mewn cartref gofal ysgrifennu straeon a chafodd gefnogaeth gan staff i ddatblygu’r straeon hyn yn llyfr gyda darluniau cyfatebol. Gwnaeth darparwr y gwasanaeth gyhoeddi’r llyfr ac, yn ystod gwyliau’r Pasg 2025, cynhaliodd ddigwyddiad llofnodi lle gallai ffrindiau, teulu, staff a phlant o wasanaethau eraill y darparwr ddathlu cyflawniad y plentyn. Dyfarnwyd pedair gradd ragorol i’r gwasanaeth hwn.

Noder: nid ydym yn cyhoeddi adroddiadau arolygu ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal i blant ar ein gwefan ar hyn o bryd.

Gwasanaethau maethu awdurdodau lleol

Y flwyddyn ddiwethaf, gwnaethom adrodd ar y canfyddiadau a oedd yn dod i’r amlwg o’n harolygiadau o wasanaethau maethu awdurdodau lleol. Parhaodd yr arolygiadau hyn y flwyddyn hon a gwelsom dystiolaeth gref o gymorth effeithiol i ofalwyr maeth a phlant ar draws y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, gyda dulliau therapiwtig ac ystyriol o drawma, profiadau cadarnhaol i blant, a mynediad da at wasanaethau eirioli, cymorth addysg a chynlluniau pontio. Roedd arferion arloesol a threfniadau goruchwylio effeithiol ar y cyfan yn cryfhau darpariaeth ymhellach.

Ysgolion preswyl

Y flwyddyn hon, gwnaethom arolygu chwe ysgol breswyl, ac roedd ein canfyddiadau’n gadarnhaol ar y cyfan. Gwnaethom nodi rhai themâu cyffredin, gan gynnwys diffyg prosesau goruchwylio ffurfiol, er i rai lleoliadau ddangos systemau arfarnu cryfach. Roedd arferion diogelu yn gadarn ar y cyfan, ond gwelsom amrywiad o ran ansawdd cynlluniau llesiant, gyda
ffocws cyfyngedig ar ganlyniadau i blant.

Gorchmynion Amddifadu o Ryddid

Caiff gorchmynion Amddifadu o Ryddid eu cyhoeddi gan yr Uchel Lys i gadw plant yn ddiogel yn absenoldeb opsiynau eraill (megis cartref plant diogel), ac fel arfer maent o ganlyniad i gynllun argyfwng byrdymor. Rydym yn ymwybodol o’r cynnydd a gofnodwyd yn y gorchmynion hyn yng Nghymru a Lloegr. Cofnododd Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield 1,440 o geisiadau amddifadu o ryddid yn 2025 – cynnydd o 12.5% ers 2024.

Mae’r cynnydd hwn wedi’i briodoli i gynnydd yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n ymuno â’r system ofal sydd â phroblemau cymhleth, mynediad cyfyngedig at wasanaethau iechyd meddwl ac ymyrryd yn gynnar, a phrinder lleoliadau therapiwtig mewn cartrefi plant a gyda gofalwyr maeth sydd â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i ddarparu cymorth a diwallu anghenion y plant hyn.

Mae modelau amgen yng Nghymru, fel y model MyST (Fy Nhîm Cymorth) amlasiantaethol sydd ar gael mewn rhai ardaloedd, gwasanaeth iechyd meddwl dwys i blant sydd mewn gofal neu ar ffiniau gofal sy’n gweithio gyda’u gofalwyr i ddarparu cymorth cyfannol, hirdymor cyn i broblemau waethygu i’r pwynt lle gallai fod angen gorchymyn Amddifadu
o Ryddid.

Fel y rheoleiddiwr, dim ond pan fydd gorchymyn Amddifadu o Ryddid ar waith ar gyfer plentyn mewn cartref plant y caiff AGC ei hysbysu. Yn 2025, cawsom 73 o hysbysiadau gan 42 o gartrefi am blentyn a oedd yn byw mewn cartref gofal oedd â gorchymyn Amddifadu o Ryddid (o gymharu â 50 o hysbysiadau y flwyddyn ddiwethaf). Mae llawer o’r ceisiadau hyn yn ymwneud ag adnewyddu gorchymyn yn hytrach na’u bod yn cynrychioli 73 o blant gwahanol. Er enghraifft, cyflwynodd un cartref gofal wyth hysbysiad ar gyfer un person ifanc dros gyfnod o saith mis.

Er bod nifer y plant sy’n byw mewn cartrefi gofal sy’n destun gorchmynion Amddifadu o Ryddid yn fach o hyd, rydym yn bryderus ynglŷn â’r effaith ar y ffordd y darperir gofal a chymorth, ar gyfer y plentyn unigol ac ar gyfer plant eraill sy’n byw gyda nhw. Dylai unrhyw gyfyngiadau fod yn gymesur, yn angenrheidiol ac yn ymatebol i anghenion cymhleth y plentyn. Y flwyddyn
hon, ar ddau achlysur lle gwelsom amgylcheddau a oedd yn rhy gyfyngol, rydym wedi cymryd camau i sicrhau gwelliannau.

Meysydd i’w gwella ym maes gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc

Y flwyddyn hon, gwnaethom gyhoeddi 19 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth i 18 o wasanaethau mewn perthynas â safonau gofal a chymorth neu arweinyddiaeth a rheolaeth. Gwnaethom arolygu pedwar cartref gofal fwy nag unwaith i sicrhau bod gwelliannau wedi’u gwneud. Mae bob amser yn gadarnhaol gweld gwelliannau’n cael eu gwneud sy’n cyfrannu at lesiant plant ac yn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol. Er enghraifft, gwnaethom arolygu cartref gofal ym mis Mawrth 2025 a gwnaethom gyhoeddi Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth. Pan wnaethom ailarolygu ym mis Medi, gwnaethom ddyfarnu pedair gradd dda. Gwnaethom nodi bod y rheolwyr wedi llwyddo i arwain y gwasanaeth drwy gyfnod heriol yn effeithiol,
gan wella llesiant y plant a’r staff gofal. Roedd y gwasanaeth yn dibynnu llai ar staff gofal asiantaeth, gan sicrhau bod y plant yn cael gofal gan staff gofal parhaol y gallent feithrin cydberthnasau llawn ymddiriedaeth â nhw.

Atgyfeiriwyd chwe gwasanaeth plant at ein panel gorfodi a arweiniodd at gyhoeddi hysbysiad statudol i bedwar gwasanaeth. Gwnaeth tri o’r rhain y gwelliannau angenrheidiol, ond canslwyd cofrestriad un gwasanaeth.

Nododd ein harolygiadau o wasanaethau maethu awdurdodau lleol heriau a oedd yn codi dro ar ôl tro ledled Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys anawsterau parhaus o ran recriwtio a chadw gofalwyr maeth, gwendidau wrth baru lleoliadau, a threfniadau anghyson ar gyfer galluogi plant i chwarae rhan ystyrlon wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau. Gwelsom amrywiad o ran arferion diogelu hefyd, ynghyd â bylchau mewn hyfforddiant a datblygiad, anghysondebau wrth olrhain addysg, ac eglurder cyfyngedig mewn perthynas â gofal gan berthynas. Pwysleisiodd gwahaniaethau o ran strwythurau gwasanaethau yr angen i gysoni ymarfer, trefniadau goruchwylio a chanlyniadau i blant ymhellach.

7.4 Gwasanaethau plant awdurdodau lleol

Sicrwydd a gwella

Y flwyddyn hon, gwnaethom gynnal arolygiadau mewn 10 awdurdod lleol. Roedd hyn yn cynnwys arolygiadau o dair cydweithredfa fabwysiadu ranbarthol a dau archwiliad gwelliant er mwyn olrhain y cynnydd a wnaed ers ein harolygiad diwethaf.
Gallwch weld adroddiadau arolygu ac adolygu awdurdodau lleol ar wefan AGC.

Gwnaethom ymateb i 93 o bryderon am wasanaethau plant awdurdodau lleol. Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf ag ansawdd gwasanaethau a phrosesau gwneud penderfyniadau (megis oedi wrth asesu neu gyfathrebu), pryderon ynghylch diogelwch a materion sy’n gysylltiedig â’r llys, p’un a gymerwyd y camau cywir, a’r cymorth a ddarperir, gan gynnwys lleoliadau.

Ymarfer cadarnhaol

Yn ystod ein harolygiadau’r flwyddyn hon, gwelsom lawer o enghreifftiau o awdurdodau lleol yn gweithio’n galed i hyrwyddo hawliau plant a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd, ochr yn ochr â meysydd y mae angen eu gwella ymhellach o hyd.

Hawliau a chyfranogiad plant

Canfu ein gwaith arolygu ac ymgysylltu y flwyddyn hon ffocws cryf ar hawliau plant ar draws gwasanaethau plant. Gwelsom lawer o wasanaethau’n gwneud yn siŵr bod y staff yn gwrando ar y plant, gan adlewyrchu eu barn mewn cynlluniau, a phenderfyniadau a oedd yn cael eu hategu gan ddulliau sy’n ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar gryfderau. Er enghraifft:

  • Dangosodd Sir y Fflint ymarfer effeithiol o ran sicrhau bod staff yn gwrando ar leisiau plant mewn perthynas ag amddiffyn plant a chynllunio gofal, gan gynnwys ‘cyfeillion cynadledda’ a ffyrdd addas i blant rannu eu barn.
  • Dangosodd Ynys Môn a Chaerffili ymarfer sy’n addas i blant a oedd yn helpu plant i ddeall yr hyn a oedd yn digwydd a chymryd rhan mewn penderfyniadau. Ysgrifennodd Cyngor Sir Ynys Môn yn uniongyrchol at blant a defnyddiodd adnoddau i gasglu eu barn, a defnyddiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddulliau sy’n ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar gryfderau.
  • Yng Nghastell-nedd Port Talbot, helpodd plant a phobl ifanc i wella’r ffordd y mae gwasanaethau’n cyfathrebu gan ddefnyddio iaith glir drwy gydgynhyrchu canllawiau iaith.
  • Yng Ngwynedd a Chydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol Gogledd Cymru, mae plant yn cyfrannu’n weithredol at gyfweliadau staff drwy fod yn rhan o baneli neu ysgrifennu cwestiynau.
Help cynnar ac atal

Gwelsom enghreifftiau mewn sawl awdurdod lleol o wasanaethau help cynnar, atal a chymorth i deuluoedd effeithiol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a’u teuluoedd. Roedd cryfderau cyffredin yn cynnwys cymorth ‘ar ffiniau gofal’ a oedd yn helpu plant i aros yn ddiogel gyda’u teuluoedd, timau cymorth i deuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd yn gynharach, a dulliau ataliol fel cynadleddau grŵp teulu a chymorth magu plant. Mae’r dulliau hyn yn helpu i gryfhau rhwydweithiau teuluol, lleihau achosion o uwchgyfeirio i wasanaethau statudol ac adlewyrchu cynnydd cadarnhaol tuag at gyflawni nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Partneriaethau diogelu

Gwelsom fod diogelu ar ei fwyaf effeithiol pan fydd y sector addysg, gwasanaethau iechyd a’r heddlu yn cael eu cynnwys yn gyson er mwyn cefnogi penderfyniadau prydlon a chydgysylltiedig. Er enghraifft, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae hwb diogelu amlasiantaethol yn dod â phartneriaid ynghyd i rannu gwybodaeth a chytuno ar gamau gweithredu, gyda chymorth llinell gyngor broffesiynol. Roedd ‘drws ffrynt’ Sir y Fflint ar ei newydd wedd yn cynnwys hwb diogelu, gyda chanllawiau cliriach ar drothwyon ac adnoddau gwneud penderfyniadau ymarferol, gan helpu gweithwyr proffesiynol i wneud penderfyniadau cyson a sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth cywir yn gynharach. Dangosodd Blaenau Gwent drefniadau cydweithio cryf drwy gyfarfodydd goruchwylio a chanlyniadau amlasiantaethol, gan gefnogi goruchwyliaeth ar y cyd o risgiau ymhlith partneriaid.

Mae model Pwynt Mynediad Unigol Gwent yn dangos yr hyn y gall llwybrau integredig ei gyflawni. Mae un ‘drws ffrynt’ a rennir yn rhoi llwybr cliriach i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol at gyngor, prosesau brysbennu a’r cymorth cywir, gyda chamau
trosglwyddo mwy llyfn rhwng gwasanaethau.

Mabwysiadu a maethu

Gwelsom ymarfer cadarnhaol yng ngwasanaethau mabwysiadu a maethu awdurdodau lleol hefyd, yn enwedig helpu plant i ddeall eu stori ac aros mewn cysylltiad â phobl sy’n bwysig iddynt. Dangosodd Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol Bae’r Gorllewin waith cryf ar daith bywyd a gydgynhyrchwyd gyda gofalwyr a theuluoedd geni, gyda gwiriadau ansawdd ochr yn ochr â chymorth cyswllt sy’n canolbwyntio ar y plentyn a gwasanaethau cyfryngol amserol. Cryfhaodd Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol Gogledd Cymru waith ar daith bywyd drwy rolau, canllawiau a dulliau therapiwtig penodol fel straeon a llythyrau yn ddiweddarach mewn bywyd. Roedd hefyd yn cefnogi cysylltiad drwy helpu mabwysiadwyr a theuluoedd geni i gyfarfod, lle y bo’n briodol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae caffis y Rhwydwaith Eirioli dros Rieni a grwpiau dan arweiniad pobl ifanc yn helpu teuluoedd i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a dylanwadu ar y cymorth y maent yn ei gael.

Ar y cyfan, dangosodd ein harolygiadau o wasanaethau plant awdurdodau lleol y flwyddyn hon gynnydd parhaus, gydag ymarfer a systemau cryfach mewn llawer o feysydd yn cyfrannu at ganlyniadau gwell i blant a theuluoedd.

Meysydd i’w gwella yng ngwasanaethau plant awdurdodau lleol

Gwnaethom nodi meysydd cyffredin i’w gwella, gan gynnwys gwahaniaethau o ran y ffordd y mae asiantaethau’n asesu risg ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch pryd y mae angen cymorth neu ymyrraeth ychwanegol. Er bod prosesau craidd ar waith, mae gormod o achosion o hyd lle na chaiff camau allweddol bob amser eu cwblhau mor gyflym ag y dylent, a lle nad yw penderfyniadau a chanlyniadau bob amser yn cael eu cofnodi na’u rhannu’n glir. Gwelsom rywfaint o amrywiad o ran
ansawdd asesiadau hefyd, yn enwedig o ran pa mor glir roedd risgiau ac anghenion yn cael eu dadansoddi a’u hesbonio. Yn ogystal, nid oedd eiriolaeth yn cael ei chynnig na’i chofnodi’n gyson bob amser. Gall hyn gyfyngu ar ba mor dda y mae plant a theuluoedd yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal.

Mae pwysau ar y system hefyd yn effeithio ar y gallu i sicrhau’r lleoliadau cywir, yn enwedig ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth. Roedd heriau ynghylch digonolrwydd lleoliadau yn nodwedd reolaidd yn ein gwaith, gan gynnwys anawsterau wrth geisio dod o hyd i leoliadau lleol addas. Yn galonogol, mae rhai ardaloedd yn gweld mwy o sefydlogrwydd, ond mae capasiti’r gweithlu a mynediad at rolau arbenigol dan bwysau o hyd a all effeithio ar barhad ac amseroldeb cymorth. Ar yr un pryd, mae gwasanaethau’n ymateb i anghenion cynyddol gymhleth ac sy’n gorgyffwrdd mewn teuluoedd. Mae staff brwdfrydig ac ymroddedig yn gweithio’n galed i ymateb i’r pwysau hyn, ond mae cymhlethdod anghenion rhai plant yn parhau i gynyddu’r galw ar y system.

Nid yw profiadau plant yn gyson ledled Cymru eto, gan gynnwys gwahaniaethau o ran pa mor gyflym y darperir cymorth, pa mor dda y mae gwasanaethau’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i blant a theuluoedd, a pha mor effeithiol y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng asiantaethau. Mae hyn yn golygu bod rhai plant yn profi oedi neu fylchau mewn cymorth. Mae’r heriau hyn yn fwy amlwg i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’r rhai sy’n niwroamrywiol, lle mae oedi wrth asesu neu newidiadau mewn lleoliadau neu addysg yn tarfu ar gymorth ac yn ei gwneud hi’n anoddach cynnal cydberthnasau sefydlog a chynlluniau cyson.

Iechyd meddwl plant: adolygiad thematig ar y cyd

Nododd ein hadolygiad thematig o iechyd meddwl plant ar y cyd ag AGIC ac Estyn yn 2024 fod angen brys am system cymorth iechyd meddwl fwy ymatebol, teg ac integredig ar gyfer plant a phobl ifanc. Gwnaethom hefyd dynnu sylw at ymrwymiad clir a chryf i weithio mewn partneriaeth, gyda llawer o enghreifftiau da o wasanaethau’n cydweithio i gefnogi plant. Ers cyhoeddi’r adroddiad, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i adolygu cynlluniau gwella rhanbarthol, ymgysylltu â byrddau diogelu, a monitro cynnydd wrth roi argymhellion yr adroddiad ar waith. Er bod angen gwneud rhagor o welliannau, rydym wedi gweld arwyddion calonogol o drefniadau partneriaeth cryfach a phrofiadau gwell i blant mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys ymatebion mwy cydgysylltiedig a llwybrau cliriach at gymorth.

Gwasanaethau sy’n gweithredu heb gofrestriad

Y flwyddyn hon, gwnaethom nodi bod 76 o gartrefi gofal i blant yn gweithredu heb gofrestriad. Mae’r ffigur hwn yn debyg i’r flwyddyn ddiwethaf (74) ond mae’n ostyngiad sylweddol o’r 117 a gofnodwyd yn 2023-24. Gwelsom ostyngiadau o ran am ba hyd y bu rhai cartrefi’n gweithredu heb gofrestriad. Lle mae lleoliadau’n para am gyfnod hwy, mae hyn yn adlewyrchu anghenion cymhleth y plant sy’n byw yno.

Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd awdurdodau lleol yn darparu’r gwasanaethau hyn i blant yn eu gofal ac maent wedi dweud wrthym mai dim ond fel dewis olaf y maent yn defnyddio cartrefi gofal heb eu cofrestru pan nad oes unrhyw leoliadau cofrestredig addas ar gael. Rydym wedi gweld tuedd gadarnhaol mewn awdurdodau lleol yn rhoi pobl ifanc mewn safleoedd y maent yn bwriadu eu cofrestru. Er bod y gwasanaethau hyn yn gweithredu heb gofrestriad o hyd, mae rhoi plant mewn safleoedd y bwriedir eu cofrestru yn y dyfodol yn cefnogi sefydlogrwydd ac yn lleihau’r angen i blant symud sawl gwaith.

Y ffordd y mae AGC yn ymdrin â gwasanaethau sy’n gweithredu heb gofrestriad

Mae safbwynt AGC yn glir: mae gweithredu gwasanaeth heb gofrestriad yn anghyfreithlon ac nid yw’n ddewis amgen addas yn lle gofal cofrestredig priodol. Yr unig gamau cyfreithiol sydd ar gael i ni yn erbyn darparwr anghofrestredig yw erlyniad troseddol, sy’n gofyn am ganiatâd y Cwnsler Cyffredinol. Rydym yn cydnabod bod gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau cyfreithiol deuol: darparu llety i blentyn a gwneud hynny mewn lleoliad cofrestredig sy’n diwallu anghenion y plentyn. Rydym wedi datblygu proses uwchgyfeirio sy’n ymdrin â phob penderfyniad gorfodi mewn ffordd gymesur ac ar sail achosion unigol. Fel rhan o’r dull hwn, rydym yn ceisio sicrwydd gan awdurdodau lleol ynghylch sut mae plant sy’n destun trefniadau o’r fath yn cael eu diogelu a sut y caiff risgiau eu nodi, eu monitro a’u rheoli. Yn ogystal, rydym yn ceisio gwybodaeth am gynlluniau awdurdod lleol naill ai i gofrestru’r gwasanaeth neu osod y plentyn mewn lleoliad cofrestredig priodol.

Mae ein gweithgarwch arolygu awdurdodau lleol wedi canfod trefniadau goruchwylio strwythuredig, gan gynnwys gwaith craffu ar benderfyniadau lleoli gan uwch-swyddogion, adolygiad parhaus o risg ac addasrwydd, a threfniadau i fonitro diogelwch a llesiant plant wrth drefnu lleoliadau tymor hwy. Mae gwaith cynllunio gofal yn parhau yn ystod y cyfnodau
hyn, gyda chyfranogiad amlasiantaethol pan fo angen, a ffocws ar hyrwyddo sefydlogrwydd a symud plant ymlaen i ddarpariaeth gofrestredig cyn gynted â phosibl.

Yn gyffredinol, nid oes arwydd clir bod y sefyllfa’n gwella nac yn gwaethygu dros amser. Mae’n tynnu sylw at yr her barhaus o sicrhau digon o leoliadau cofrestredig addas a chynaliadwy i blant ag anghenion cymhleth sydd angen mynediad at ystod o wasanaethau arbenigol. Mae’r defnydd parhaus o leoliadau anghofrestredig yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i gryfhau mynediad at leoliadau cofrestredig priodol fel y gall plant gael gofal yn gyson mewn gwasanaethau sy’n destun camau goruchwylio ac arolygu rheoleiddiol llawn.

Diogelu plant a phobl ifanc

Yn 2022, yn dilyn marwolaeth drasig sawl plentyn ledled Cymru a Lloegr, gwnaethom gynnal Adolygiad Cyflym Amddiffyn Plant amlasiantaethol o drefniadau amddiffyn plant, gyda phwyslais penodol ar wneud penderfyniadau. Y flwyddyn hon, ar y cyd ag Estyn ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), gwnaethom olrhain cynnydd o ran rhoi argymhellion yr adolygiad ar waith. Gwelsom ymrwymiad cryf gan bartneriaid diogelu i roi’r argymhellion ar waith a mynd i’r afael â’r rhwystrau i wneud hynny. Cynhaliodd Byrddau Diogelu Rhanbarthol hunanasesiadau i gynnal ffocws a mesur eu cynnydd yn erbyn ein hargymhellion.

Dangosodd y cynlluniau gwella a gyflwynwyd gan bob rhanbarth benderfyniad clir i gryfhau gwaith amlasiantaethol, gwella ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn, a gwella trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd. Bu cynnydd o ran gweithio mewn partneriaeth, safoni trothwyon ac ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gyda chymorth mentrau hyfforddiant amlasiantaethol. Mae trefniadau llywodraethu a sicrwydd wedi cael eu hatgyfnerthu. Yn genedlaethol, mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cael eu datblygu ymhellach gyda diweddariadau i’w cyhoeddi yn haf 2026.

Fodd bynnag, mae heriau yn bodoli o hyd o ran sicrhau cysondeb, prosesau rhannu data cadarn, a mynd i’r afael â phwysau’r gweithlu. Bydd cydlyniant cenedlaethol parhaus a chymorth wedi’i dargedu yn hanfodol er mwyn cynnal momentwm a chyflawni’r gwelliannau a ragwelwyd gan yr adolygiad.

Y flwyddyn hon, roedd adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn cynnwys goblygiadau difrifol ar gyfer diogelu yng Nghymru. Dangosodd, er gwaethaf y cynnydd sydd wedi’i wneud, fod parhau i fod yn wyliadwrus yn hanfodol o hyd. Sbardunodd, yn briodol, broses graffu o’r newydd ar ba mor effeithiol y mae systemau’n nodi pryderon, yn ymateb iddynt ac
yn eu huwchgyfeirio pan fydd plant o bosibl yn wynebu risg gan bobl mewn swyddi o ymddiriedaeth.

Gwnaethom ymateb drwy gryfhau ein rôl reoleiddio a sicrhau systemau. Gwnaethom weithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Estyn, ac ym mis Tachwedd 2025, gwnaethom gynnal gweithgarwch arolygu wedi’i dargedu yng Ngwynedd i archwilio trefniadau diogelu, prosesau goruchwylio arweinyddiaeth a’r ffordd yr ymdrinnir â honiadau yn erbyn y rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth. Darparodd y gwaith hwn her a sicrwydd ac atgyfnerthodd bwysigrwydd trosi ymrwymiadau llywodraethu a pholisi yn ymarfer sy’n gyson gryf ar lawr gwlad. Rydym yn parhau i bwysleisio pa mor bwysig yw gwrando ar blant, chwilfrydedd proffesiynol, ac atebolrwydd clir pan gaiff pryderon eu codi.

Rydym wedi dechrau cynllunio ar gyfer adolygiad thematig cenedlaethol o’r ffordd y gweithredir adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar ddechrau 2027. Bydd hyn yn canolbwyntio ar honiadau yn erbyn pobl mewn swyddi o ymddiriedaeth sy’n gweithio gyda phlant. Bydd y gwaith hwn, a gynlluniwyd cyn yr Adolygiad Ymarfer Plant ond sydd angen ei weithredu ar fyrder o ganlyniad i’w ganfyddiadau, yn archwilio ymarfer, trothwyon a goruchwyliaeth ledled Cymru. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i fyfyrio ar ein dulliau arolygu a’n dysgu ein hunain, gan sicrhau bod ein gweithgarwch rheoleiddio yn darparu’r sicrwydd cryfaf posibl i blant, teuluoedd a Gweinidogion.

7.5 Gwasanaethau gofal plant a chwarae

Proffil gwasanaethau cofrestredig

Tabl 8: Gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru yn ôl y math o wasanaeth ar 31 Mawrth 2026

Mae’r ffigurau’n dangos nifer y gwasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru a nifer y lleoedd ar gyfer pob math o wasanaeth.
Math o wasanaethNifer y gwasanaethauNifer y lleoedd
Gwarchodwr plant1,36411,336
Crèche10 377
Gofal dydd llawn1,14946,111
Darpariaeth chwarae mynediad agored332,377
Gofal y tu allan i'r ysgol28712,325
Gofal dydd sesiynol2966,842
Cyfanswm3,13979,368

Mae'r tabl hwn yn dangos nifer y gwasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig a'r lleoedd a oedd ar gael yng Nghymru ar 31 Mawrth 2026. Roedd cyfanswm o 3,139 o wasanaethau yn darparu 79,368 o leoedd, yn cynnwys 1,364 o warchodwyr plant (11,336 o leoedd), 1,149 o wasanaethau gofal dydd llawn (46,111 o leoedd), 296 o wasanaethau gofal dydd sesiynol (6,842 o leoedd), 287 o wasanaethau gofal y tu allan i'r ysgol (12,325 o leoedd), 33 o wasanaethau darpariaeth chwarae mynediad agored (2,377 o leoedd), a 10 crèche (377 o leoedd). 

Yn ystod y flwyddyn, cofrestrodd 102 o wasanaethau gofal dydd llawn a gwnaeth 92 ganslo eu cofrestriad, sef llai na’r flwyddyn ddiwethaf. Lle rhoddwyd rhesymau dros ganslo, roedd y mwyafrif oherwydd eu bod yn ailgofrestru o dan berchnogaeth gyfreithiol wahanol. Fodd bynnag, caeodd nifer o wasanaethau am nad oeddent yn gallu recriwtio a chadw staff â chymwysterau addas. Cyfeiriodd eraill at resymau ariannol, gan gynnwys cynnydd yn yr isafswm cyflog, cyfraniadau yswiriant a gorbenion. 

Y flwyddyn hon, cofrestrodd 63 o warchodwyr plant (yr un nifer â 2024-25). Er i lai o warchodwyr plant ganslo eu cofrestriad na’r flwyddyn ddiwethaf (116 o gymharu â 147), parhaodd y gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru. Roedd y rhesymau cyffredin a roddwyd gan warchodwyr plant dros ganslo eu cofrestriad yn cynnwys gadael i ddilyn gyrfaoedd mewn meysydd eraill, newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ac ymddeol.

Rydym wedi gweld rhai gwasanaethau sesiynol yn newid i ddarparu gofal dydd llawn drwy ehangu eu horiau. Mae hyn wedi cynyddu nifer y lleoedd a gynigir, gan sefydlogi’r capasiti cyffredinol er bod llai o wasanaethau cofrestredig.

Y flwyddyn hon, er y bu gostyngiad o 3.7% yn nifer y gwarchodwyr plant (315 yn llai o leoedd), mae gwasanaethau gofal dydd llawn wedi cynyddu 2.5% gan ddarparu 1,927 yn fwy o leoedd i blant. Gall y patrwm adlewyrchu galw a dewisiadau rhieni, yn ogystal â manteision ariannol a gweithredol darpariaeth ar raddfa fwy.

Tuedd deg mlynedd mewn gofal plant a chwarae

Dros y degawd diwethaf, bu tuedd ddiddorol yn nifer cyffredinol y gwasanaethau a’r lleoedd gofal plant a chwarae yng Nghymru. Rydym wedi gweld gostyngiad graddol yn nifer y gwasanaethau, gyda 28.5% (1,250) yn llai na’r nifer 10 mlynedd yn ôl. Bu twf cyson yn nifer y lleoedd gofal plant a chwarae rhwng 2016 a 2021 ac, ar ôl hynny, dechreuodd nifer y lleoedd ostwng, gyda 5,140 yn llai o leoedd ar 31 Mawrth 2026 o gymharu â’r nifer uchaf yn 2021 pan oedd 84,508. Yn ein barn ni, mae hyn oherwydd bod llawer o wasanaethau llai wedi dewis peidio ag ailddechrau neu barhau i weithredu yn dilyn pandemig COVID-19.

Gostyngodd nifer y gwasanaethau crèche o 28 i 10 (212 yn llai o leoedd), darpariaeth mynediad agored o 56 i 33 (ond gan ddarparu 99 yn fwy o leoedd), gofal y tu allan i’r ysgol o 444 i 287 (4,036 yn llai o leoedd) a gofal dydd sesiynol o 765 i 296 (gan golli 10,367 o leoedd). Rydym yn ymwybodol bod nifer mawr o leoliadau sesiynol wedi newid eu categori i ofal dydd
llawn er mwyn bod yn fwy cynaliadwy. Mae rhai gwasanaethau llai bellach yn gweithredu am lai na dwy awr ac felly nid oes angen iddynt gofrestru â ni.

Yn yr un cyfnod, mae nifer y gwasanaethau gofal dydd wedi cynyddu 70%, gan ddarparu 61% yn fwy o leoedd. I’r gwrthwyneb, gostyngodd nifer y gwarchodwyr plant 43.6% o 2,419 i 1,364.

At ei gilydd, mae’r ffigurau’n awgrymu bod ffurf y sector yn newid yn hytrach na’i fod yn lleihau’n unig. Mae cyfanswm nifer y gwasanaethau gofal plant a chwarae wedi gostwng dros y degawd diwethaf, ond nid yw hyn wedi arwain at ostyngiad cyfatebol mewn capasiti. Yn hytrach, mae’n ymddangos bod darpariaeth yn cyfuno yn lleoliadau mwy o faint, yn enwedig gofal dydd llawn, lle mae nifer y gwasanaethau a nifer y lleoedd wedi cynyddu’n sylweddol. Ar yr un pryd, mae’r gostyngiad parhaus mewn gwarchodwyr plant a gofal dydd sesiynol yn awgrymu bod mathau llai a mwy hyblyg o ddarpariaeth dan bwysau parhaus. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod y gwasanaethau hyn yn aml yn darparu opsiynau lleol, teuluol neu ran-amser a all fod yn bwysig i ddewis rhieni, cymunedau gwledig a phlant a all elwa ar leoliadau llai o faint. Mae’r ffigurau diweddar o flwyddyn i flwyddyn yn atgyfnerthu’r patrwm hwn: gofal dydd llawn wedi ehangu, tra bo nifer a lleoedd gwarchodwyr plant wedi parhau i ostwng. Mae’r sector felly yn cynnal y capasiti cyffredinol, ond drwy gymysgedd gwahanol o ddarpariaeth, gyda goblygiadau posibl ar gyfer hygyrchedd, hyblygrwydd a dewis rhieni.

Graff 7: Cyfanswm nifer y gwasanaethau gofal plant a chwarae, 2016 i 2026

Graff llinell sy’n dangos cyfanswm nifer y gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Gostyngodd y nifer drwy gydol y cyfnod, o 4,389 yn 2016 i 3,139 yn 2026.

Graff 8: Cyfanswm nifer y lleoedd gofal plant yng Nghymru, 2016 i 2026

Graff llinell sy’n dangos cyfanswm nifer y lleoedd gofal plant yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Amrywiodd y nifer dros y cyfnod, gan gynyddu o 80,103 yn 2016 i uchafbwynt o 84,508 yn 2021, cyn gostwng i 79,368 yn 2026.

Mae’r graff hwn yn dangos gostyngiad yn nifer cyffredinol yr holl wasanaethau a lleoedd gofal plant a chwarae rhwng 2016 a 2026.

Graff 9: Cyfanswm nifer y gwasanaethau gofal dydd llawn yng Nghymru, 2016 i 2026

Graff llinell sy’n dangos cyfanswm nifer y gwasanaethau gofal dydd llawn yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Cynyddodd y nifer ar y cyfan o 677 yn 2016 i 1,149 yn 2026, gyda gostyngiad bach rhwng 2021 a 2022 cyn parhau i gynyddu.

Graff 10: Cyfanswm nifer y lleoedd gofal dydd llawn yng Nghymru, 2016 i 2026

Graff llinell sy’n dangos cyfanswm nifer y lleoedd gofal dydd llawn yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Cynyddodd y nifer yn sylweddol ar y cyfan, o 28,573 yn 2016 i 46,111 yn 2026, gyda thwf drwy gydol y cyfnod.

Mae'r tabl hwn yn dangos y cynnydd mewn gwasanaethau gofal dydd llawn a'r lleoedd sydd ar gael yng Nghymru dros y deg mlynedd o 31 Mawrth 2016 i 31 Mawrth 2026. Cynyddodd nifer y gwasanaethau o 677 i 1,149, sef cynnydd o bron 70%. Cynyddodd nifer y lleoedd o 28,573 i 46,111 hefyd, sef cynnydd o 17,538 o leoedd (61%). 

Graff 11: Cyfanswm nifer y gwasanaethau gwarchodwr plant yng Nghymru, 2016 i 2026

Graff llinell sy’n dangos cyfanswm nifer y gwasanaethau gwarchod plant yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Gostyngodd y nifer ar y cyfan o 2,419 yn 2016 i 1,364 yn 2026, gyda chynnydd bach rhwng 2019 a 2020 ac eto rhwng 2025 a 2026.

Graff 12: Cyfanswm nifer y lleoedd gwarchodwr plant yng Nghymru, 2016 i 2026

Graff llinell sy’n dangos cyfanswm nifer y lleoedd gwarchod plant yng Nghymru rhwng 2016 a 2026. Cynyddodd y nifer o 15,093 yn 2016 i uchafbwynt o 16,531 yn 2017, cyn gostwng i 11,336 yn 2026.

Mae'r graffiau hyn yn dangos y gostyngiad yn nifer y gwasanaethau gwarchodwyr plant cofrestredig a'r lleoedd sydd ar gael yng Nghymru dros y deg mlynedd o 31 Mawrth 2016 i 31 Mawrth 2026. Gostyngodd gwasanaethau o 2,419 i 1,364, sef gostyngiad o 44%. Gostyngodd nifer y lleoedd o 15,093 i 11,336, sy'n gyfystyr â cholli 3,757 o leoedd. 

Sicrwydd a gwella

Ymateb i bryderon

Mae pryderon a godir gyda ni yn cynnig gwybodaeth bwysig am ble y gall fod risgiau i ddiogelwch neu lesiant plant.

Cawsom 411 o bryderon (o gymharu â 481 y flwyddyn ddiwethaf), ac roedd 82% ohonynt yn ymwneud â lleoliadau gofal dydd llawn. Roedd y rhan fwyaf o’r pryderon yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth. Mewn 77 o achosion, codwyd y pryder gan chwythwr chwiban. Mae’n galonogol o hyd gweld bod ymarferwyr gofal yn gwybod y gallant godi pryderon gyda ni, a’u bod yn gwneud hynny.

Rydym yn ystyried pob pryder. Mae’r pryderon yn ein helpu i benderfynu pryd i arolygu a pha feysydd i ganolbwyntio arnynt. Mae nifer o gamau y gallwn eu cymryd, a’n cam cyntaf yw asesu’r risgiau y mae’r pryder yn eu peri ac ystyried unrhyw beth arall rydym yn ei wybod am y gwasanaeth. Rydym bob amser yn blaenoriaethu ac yn ymateb yn gyflym lle gall plant fod yn wynebu risg neu wedi profi niwed.

Gwnaethom asesu y gallai 107 o’r pryderon gael effaith fawr ar blant, gan arwain at gynnal arolygiad brys i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu’n briodol.

Caiff y camau eraill y byddwn yn eu hystyried eu nodi isod. Gan fod rhai pryderon wedi arwain at fwy nag un cam gweithredu, mae cyfanswm y ffigurau yn fwy na nifer y pryderon a godwyd.

  • Gwneud atgyfeiriad brys at dîm diogelu'r awdurdod lleol neu at yr heddlu (16)
  • Gofyn i'r gwasanaeth ymchwilio i'r materion a rannwyd a rhoi gwybod i ni am y canlyniad er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ein harolygiad nesaf (130)
  • Cadw cofnod o'r materion a godwyd er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ein harolygiad nesaf (148)
  • Cyfeirio pobl at asiantaeth arall sydd mewn sefyllfa well i fynd i'r afael â'r materion a godwyd (3)
  • Os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, awgrymu y dylent wneud cwyn uniongyrchol i'r gwasanaeth (14)
  • Rhannu'r wybodaeth ag awdurdodau eraill a chydlynu camau â nhw yn ôl yr angen (3)
Adolygu hysbysiadau

Mae rheoliadau’n nodi pa ddigwyddiadau y mae’n rhaid i ddarparwyr ein hysbysu amdanynt ac maent yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd mewn gwasanaeth. Cawsom 7,880 o hysbysiadau’r flwyddyn hon. Bu’n rhaid i ni weithredu ar rai ohonynt, ac roedd eraill er gwybodaeth yn unig. Rydym yn adolygu hysbysiadau yn erbyn yr hyn rydym eisoes yn ei wybod am y gwasanaeth ac rydym yn effro i unrhyw dueddiadau lle y gall fod angen i ni gymryd camau dilynol neu ofyn am wybodaeth bellach gan y darparwr. Roedd y rhan fwyaf o’r hysbysiadau (80%) yn ymwneud â newidiadau yn y gwasanaeth megis staffio neu newidiadau i’r datganiad o ddiben. Gostyngodd hysbysiadau am achosion honedig o niwed neu gam-drin 6.9% o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf, i 285.

Gweithgarwch arolygu a chanfyddiadau

Y flwyddyn hon, gwnaethom gwblhau 1,013 o weithgareddau arolygu (644 o ymweliadau â safleoedd arolygu a 369 o gyfarfodydd ansawdd). Yn ein holl weithgareddau, aethom ati i hyrwyddo’r canllawiau a’r adnoddau sy’n gysylltiedig â’r fframwaith Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar.

Tabl 9: Nifer yr arolygiadau neu gyfarfodydd ansawdd a gynhaliwyd yn 2025-2026

Mae’r ffigurau’n dangos nifer yr arolygiadau a’r cyfarfodydd ansawdd a gynhaliwyd ar gyfer pob math o wasanaeth gofal plant a chwarae yn ystod 2025 i 2026, a chyfanswm y gweithgareddau rheoleiddio.
 ArolygiadauCyfarfod Ansawdd Gofal Plant a ChwaraeCyfanswm
Gwarchodwr plant234136370
Crèche213
Gofal dydd llawn280162442
Darpariaeth chwarae mynediad agored437
Gofal y tu allan i'r ysgol643397
Gofal dydd sesiynol603494
Cyfanswm cyfun6443691,013

Mae'r tabl hwn yn dangos nifer yr arolygiadau a'r cyfarfodydd ansawdd a gynhaliwyd ar draws gwasanaethau gofal plant a chwarae yn 2025-2026 yn ôl y math o wasanaeth. Gwnaethom gynnal 644 o arolygiadau a 369 o gyfarfodydd ansawdd, gan arwain at gyfanswm o 1,013 o weithgareddau arolygu. Roedd hyn yn cynnwys gweithgarwch gyda 370 o warchodwyr plant, 442 o leoliadau gofal dydd llawn, 97 o leoliadau gofal y tu allan i'r ysgol, 94 o leoliadau gofal dydd sesiynol, saith lleoliad darpariaeth chwarae mynediad agored a thri crèche.

Y flwyddyn hon, gwnaethom ddechrau diwygio ein fframwaith arolygu, gan symud o bedair thema arolygu i dair. Mae hyn yn dwyn ynghyd elfennau ynghylch gofal a llesiant a oedd yn arfer bod ar wahân, ac yn ymgorffori asesiad o effeithiolrwydd yr amgylchedd ar draws y tair thema, yn hytrach nag mewn thema annibynnol. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn cael ei lunio gan argymhellion gan yr Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant a’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.

Rydym yn bwriadu ymgysylltu â darparwyr a chynrychiolwyr y sector i gasglu adborth a gwneud unrhyw ddiwygiadau perthnasol cyn ei roi ar waith y flwyddyn nesaf.

Rydym wedi bod yn cydweithio ag Estyn ers 2019 i arolygu ar y cyd y gofal a’r addysg a gaiff plant mewn lleoliadau nas cynhelir a ariennir i ddarparu addysg ran-amser i blant tair a phedair oed. Y flwyddyn hon, gwnaethom arolygu 90 o wasanaethau gyda’n gilydd. Gwelsom fod y rhan fwyaf o wasanaethau yn darparu gofal da neu ragorol i blant.

Ynghyd ag Estyn, rydym wedi parhau i weithio ar adolygiad o’r fframwaith arolygu ar y cyd. Mae gweithgor ar y cyd wedi datblygu fframwaith wedi’i ddiweddaru sy’n cefnogi proses arolygu wirioneddol ar y cyd ac yn ein galluogi i rannu ein canfyddiadau mewn ffordd gliriach a mwy cryno. Bydd y fframwaith diwygiedig yn sicrhau bod mentrau allweddol Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys, megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, a’r canllawiau cyfredol ynghylch cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Canfu ein harolygiadau y flwyddyn hon fod y rhan fwyaf o leoliadau gofal plant a chwarae yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant.

Tabl 10: Graddau arolygu gofal plant a chwarae yn ôl y math o wasanaeth, 2025 i 2026

Tabl sy’n dangos graddau arolygu gwasanaethau gofal plant a chwarae yn ôl y math o wasanaeth yn ystod 2025 i 2026. Dyfarnwyd cyfanswm o 2,509 o raddau: 466 rhagorol, 1,553 da, 427 digonol a 63 gwael. Gwasanaethau gofal dydd llawn a gwasanaethau gwarchod plant oedd yn cyfrif am y nifer fwyaf o raddau.
Nifer y graddauRhagorolDaDigonolGwael
Gwarchodwr plant19160016118
Crèche0620
Gofal dydd llawn19466618428
Darpariaeth chwarae mynediad agored9610
Gofal y tu allan i'r ysgol291345213
Gofal dydd sesiynol43141274
Cyfanswm4661,55342763

Troednodyn: Yn cynnwys cyfanswm y graddau. Mae rhai gwasanaethau wedi cael eu harolygu fwy nag unwaith yn ystod y cyfnod adrodd.

Mae'r tabl hwn yn dangos y graddau arolygu a roddwyd i wasanaethau gofal plant a chwarae yn ystod 2025 i 2026, wedi'u dadansoddi yn ôl y math o wasanaeth. Dyfarnodd AGC 2,509 o raddau i gyd: 466 o raddau rhagorol, 1,553 o raddau da, 427 o raddau digonol, a 63 o raddau gwael.

O blith y gwasanaethau y gwnaethom eu harolygu y flwyddyn hon, cafodd 405 o wasanaethau (63%) raddau rhagorol neu dda, a chafodd 161 o wasanaethau eraill raddau rhagorol / da / digonol, sy’n golygu bod 88% o wasanaethau gofal plant a chwarae wedi cael gradd ragorol, dda neu ddigonol ar draws y pedair thema y flwyddyn hon. Dim ond 18 o wasanaethau a gafodd radd ddigonol ym mhob thema, ac ni chafodd unrhyw wasanaeth radd wael yn y pedair thema.

Dyfernir gradd ‘digonol’ os yw’r lleoliad yn gweithredu yn unol â’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol ac os yw’n ddiogel ac yn bodloni gofynion sylfaenol. Rydym am i bob gwasanaeth gofal plant a chwarae wella’n barhaus ac anelu at ennill graddau da neu ragorol er mwyn hybu llesiant a gwella canlyniadau i blant.

Rydym wedi bod yn cyhoeddi graddau ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae ers 2019 a thros y chwe blynedd diwethaf, mae 79.8% o wasanaethau sydd ag adroddiad arolygu cyhoeddedig wedi cael graddau rhagorol, da neu ddigonol ym mhob un o’r pedair thema arolygu; gyda 55% yn cyflawni ar lefel uwch drwy gael graddau rhagorol neu dda ym mhob thema. Mae hyn yn arwydd clir o ansawdd gofal plant yng Nghymru.

Mae’r ffigurau arolygu a sicrwydd yn awgrymu bod ansawdd ar draws y sector yn parhau i fod yn gadarnhaol ar y cyfan, ond bod angen clir i barhau i gefnogi gwelliant. Dim ond nifer bach iawn a gafodd raddau gwael yn gyson. Mae hyn yn dangos bod y rhan fwyaf o leoliadau yn ddiogel ac yn diwallu anghenion plant, gyda llawer yn darparu profiadau da neu ragorol. Fodd bynnag, mae’r 272 o feysydd i’w gwella a’r 92 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth yn dangos bod gwendidau o hyd, yn enwedig ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o raddau gwael a Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth yn ymwneud ag arweinyddiaeth, rheolaeth a staffio yn dangos mai llywodraethu, recriwtio, gwiriadau addasrwydd a goruchwyliaeth yw’r prif feysydd lle ceir pwysau. Er bod nifer y pryderon wedi gostwng o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf, roedd y rhan fwyaf yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth o hyd, ac aseswyd y gallai dros chwarter ohonynt gael effaith fawr ar blant, gan arwain at arolygiadau brys. Gyda’i gilydd, mae’r ffigurau’n dangos sector sy’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant ar y cyfan, ond un lle mae pwysau ariannol, heriau recriwtio a darpariaeth wannach ar raddfa lai yn parhau i greu risgiau sydd angen eu monitro’n agos.

Meysydd i’w gwella ym maes gofal plant a chwarae

At ei gilydd, gwnaethom nodi 272 o Feysydd i’w Gwella a chyhoeddi 92 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth lle nodwyd gennym fod y canlyniadau i blant yn wael.

Dim ond 63 o wasanaethau a gafodd radd wael, gyda 40 ohonynt yn ymwneud â methiannau ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth ac a arweiniodd at gyhoeddi 56 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth i wneud gwelliannau ar unwaith yn y maes hwn. Roedd y prif broblemau a nodwyd mewn perthynas ag arweinyddiaeth a rheolaeth yn ymwneud â staffio, gan gynnwys arferion recriwtio diogel (79 o Feysydd i’w Gwella a 21 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth).

Gwnaethom fonitro’r holl leoliadau sydd ar ein llwybr gorfodi er mwyn olrhain eu cynnydd a sicrhau bod gwelliannau’n cael eu cynnal. Gwnaethom arolygu 46 o wasanaethau fwy nag unwaith i sicrhau bod gwelliannau priodol wedi’u gwneud. Lle na welsom welliant digonol, gwnaethom atgyfeirio’r gwasanaeth at ein panel gorfodi. Roedd llai o atgyfeiriadau y flwyddyn hon, gan adlewyrchu effaith ymyrraeth gynnar effeithiol, gwaith partneriaeth cryfach gydag awdurdodau lleol a chyrff ymbarél, a chyfarfodydd ansawdd.

Gwnaethom atal naw gwasanaeth, yn bennaf am fod ymchwiliadau gan yr heddlu ac ymchwiliadau diogelu’n mynd rhagddynt. Daethpwyd ag un cyfnod atal i ben; gwnaeth dau wasanaeth ganslo eu cofrestriad yn wirfoddol wedi hynny, ac roedd chwe achos yn parhau i fynd rhagddynt ar 31 Mawrth 2026. Gwnaethom ganslo cofrestriad tri gwasanaeth ar ôl iddynt fethu ag ymgysylltu ag AGC dros gyfnod hir. 

Yn ein cyfarfodydd chwarterol gyda phartneriaid yn y sector, mae anawsterau wrth recriwtio a chadw staff a hyfywedd ariannol yn themâu sy’n codi’n gyson. Er bod y pwysau uniongyrchol ar ôl y pandemig wedi lleddfu, mae adborth yn awgrymu bod darparwyr yn parhau i fod yn bryderus ynghylch pwysau o ran costau a chyllid.

Hefyd, gwnaethom ganfod tystiolaeth nad yw rhai darparwyr yn cynnal gwiriadau addasrwydd amserol ar staff bob amser, a all adlewyrchu pwysau recriwtio a chadw mewn marchnad lafur gystadleuol. Rydym yn monitro’r materion hyn drwy arolygu a’n dull rheoleiddio ehangach a arweinir gan wybodaeth.

Mae hwyluso cymorth priodol i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd yn parhau i fod yn heriol i rai darparwyr.

Ymarfer gwerth ei rannu

Pan fyddwn yn nodi enghreifftiau o ymarfer sy’n arbennig o effeithiol sy’n cael effaith gadarnhaol ar blant, byddwn yn gofyn i ddarparwyr roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn y maent yn ei wneud a sut mae’r plant yn eu gofal wedi cael budd o hynny. Rydym yn rhannu’r enghreifftiau hyn o ymarfer gwerth ei rannu ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn annog darparwyr eraill i ystyried sut y gellir rhoi’r gwersi hyn ar waith yn eu lleoliadau eu hunain.

Themâu o’n hadroddiad ar ymarfer gwerth ei rannu

Ym mis Mawrth gwnaethom gyhoeddi Gwersi o ymarfer gwerth ei rannu - gofal plant a chwarae a nododd bedair thema gyffredin:

  • Ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n ystyriol o emosiynau: Roedd y lleoliadau cryfaf yn rhoi blaenoriaeth i lesiant emosiynol plant. Roeddent yn helpu plant i deimlo’n ddiogel, yn hyderus a’u bod yn cael eu cynnwys, ac yn eu cefnogi i ddeall teimladau, meithrin cydberthnasau a datblygu’n gadarnhaol.
  • Cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol: Roedd darparwyr da yn gwneud i blant a theuluoedd deimlo’n gartrefol drwy werthfawrogi eu hunaniaethau, eu diwylliannau, eu hieithoedd a’u cefndiroedd. Roeddent yn defnyddio dulliau cynhwysol, gwrth-hiliol ac wedi’u personoli mewn ymarfer bob dydd gan helpu plant a theuluoedd i deimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u deall.
  • Defnydd arloesol o’r amgylchedd: Roedd llawer o ddarparwyr yn defnyddio ardaloedd awyr agored a chysylltiadau cymunedol yn dda. Roedd chwarae ym myd natur yn helpu plant i ddysgu, archwilio a magu hyder, tra bo gweithgareddau cymunedol yn helpu i ddatblygu empathi ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.
  • Ymarfer myfyriol a bwriadus: Nid oedd darparwyr yn gwneud pethau oherwydd eu bod wedi’u gwneud erioed – roeddent yn arsylwi, yn myfyrio, yn addasu ac yn gwella. Roeddent yn defnyddio adnoddau fel y Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar i lywio ymarfer a gwella profiadau plant.

Astudiaeth achos: ysgol goedwig, Conwy

Mae ysgol goedwig yng Nghonwy yn defnyddio dysgu yn yr awyr agored dan arweiniad y plentyn lle mae gan blant y rhyddid i archwilio’n greadigol wrth ddysgu am risg a diogelwch. Mae llawer o blant yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddarganfod rhywbeth newydd bob tro. Mae’r dull yn meithrin gwydnwch a hyder drwy weithgareddau corfforol fel dringo coed a datrys problemau creadigol, gan gynnwys arbrofi gyda deunyddiau i wneud sleidiau mwd yn gyflymach. Maent hefyd yn cael sgyrsiau diogelwch ac yna gyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau newydd.

“Y peth gorau am yr ysgol goedwig yw gweld plentyn yn cyrraedd yn nerfus ac yn gadael yn fwdlyd, yn gwenu ac yn falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni.”

Darllenwch astudiaeth achos ymarfer gwerth ei rannu’r ysgol goedwig.

Cyfarfodydd ansawdd

Caiff cyfarfodydd ansawdd eu cynnal ar-lein rhwng arolygydd a darparwr. Sgyrsiau proffesiynol yw’r rhain sy’n canolbwyntio ar welliant a chanlyniadau a chânt eu cynnal rhwng arolygiadau ffurfiol. Y flwyddyn hon, gwnaethom gyfarfod â 369 o wasanaethau a ddefnyddiodd y cyfarfodydd hyn i fyfyrio ar eu hymarfer. Rhoddodd y cyfarfodydd gyfle i ddarparwyr ddweud wrthym am y gwelliannau a wnaed ers eu harolygiad diwethaf a rhannu unrhyw feysydd eraill y maent wedi’u nodi fel rhai sydd angen eu gwella. Roeddem yn gallu cyfeirio at adnoddau defnyddiol.

Roedd y cyfarfodydd ansawdd yn gadarnhaol ar y cyfan ac yn rhoi sicrwydd i ni ynghylch trefniadau’r lleoliadau ar gyfer hunanfyfyrio a gwelliant parhaus. Dim ond wyth a arweiniodd at ganlyniad anfoddhaol lle nad oedd y darparwr yn gallu ein sicrhau bod trefniadau addas ar waith ar gyfer gwella neu lle gwnaethom nodi risgiau posibl i ddiogelwch neu lesiant plant. Yn yr achosion hyn, gwnaethom gynnal arolygiad llawn o’r lleoliad yn gynharach.

Dyma rai enghreifftiau o adborth gan ddarparwyr:

“Mor braf cwrdd ag Arolygydd y tu allan i arolygiad a chael trafodaeth dda gan fod gan bob un ohonom yr un nodau.”

“Mae’r cyfarfod gyda’r Arolygydd yn addysgiadol iawn a chawsom gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y lleoliad. Rhoddodd yr arolygydd adborth ar ein hadolygiadau o ansawdd y gofal a oedd yn llawn gwybodaeth ac yn galonogol. Mae cael y math hwn o gymorth a sicrwydd o fudd enfawr i’r lleoliad. Diolch yn fawr oddi wrth y tîm.”

“Rhoddodd y cyfarfod hwn gyfle gwych i ni drafod ein harolygiad diwethaf eto a rhannu’r hyn rydym wedi’i roi ar waith i barhau i wella. Rwy’n credu y bydd hyn o fudd i gydberthynas waith y darparwr/arolygydd hefyd ac yn creu arolygiadau mwy hamddenol.”

Cynadleddau ansawdd

Digwyddiadau blynyddol i ddarparwyr gofal plant a chwarae ledled Cymru yw cynadleddau ansawdd. Eu nod yw:

  • arddangos ymarfer cadarnhaol o bob rhan o’r sector
  • darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch arolygu a datblygiadau rheoleiddiol
  • archwilio themâu a heriau cyffredin
  • creu cyfleoedd i ddarparwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd
  • rhoi llais uniongyrchol i’r sector wrth lunio cymorth yn y dyfodol.

Mae pob cynhadledd yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o leoliadau sy’n perfformio’n dda, sesiwn holi ac ateb, diweddariadau polisi, a gwybodaeth o Gyfarfodydd Ansawdd. Maent hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gasglu adborth gan ddarparwyr sy’n llywio cymorth i wella yn y dyfodol.

Thema’r gynhadledd y flwyddyn hon oedd:

  • Diwygio’r fframwaith arolygu
  • Enghreifftiau o ymarfer gwerth ei rannu
  • Newidiadau o fewn y sector

Dyma rai enghreifftiau o adborth gan y rhai a oedd yn bresennol:

“Cynhadledd ffantastig, syniadau gwych ac rwy’n teimlo’n hyderus y gallaf ddefnyddio’r wybodaeth i gefnogi ein lleoliad. Diolch.”

“Roedd yn ddigwyddiad cefnogol, llawn gwybodaeth ac yn gyfle i ddathlu – ffordd hyfryd o’n hysbrydoli a’n hannog i barhau i ymdrechu i wella er budd ein rhai bach.”

8. Ansawdd ein gwaith

8.1 Adborth ar ein gwaith

Yn yr un ffordd rydym yn disgwyl i’r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio a’u harolygu sicrhau ansawdd eu gwasanaeth a gwella’n barhaus, mae’n bwysig ein bod yn gwybod pa mor dda rydym yn cyflawni ein gwaith.

Rydym yn parhau i ddatblygu’r ffordd rydym yn sicrhau ansawdd. Mae sawl peth yn ein helpu i fyfyrio a dysgu:

  • Holiaduron adborth ar ôl arolygiad ac ar ôl cofrestru
  • Cwynion
  • Ymateb i adroddiadau arolygu
  • Sylwadau
  • Tribiwnlysoedd safonau gofal

Adborth ar ôl arolygiad ac ar ôl cofrestru

Ar ôl pob cofrestriad ac arolygiad, byddwn yn rhannu arolwg yn ceisio adborth gan ddarparwyr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cwblhawyd 503 o arolygon adborth ar ôl arolygiad (cyfradd ddychwelyd o 23%) a dychwelwyd 41 o holiaduron adborth ar ôl cofrestru gyda 99% o’r ymatebion yn dangos bod ein gwaith cofrestru ac arolygiadau wedi cael eu cynnal yn unol â’n gwerthoedd. 

Rydym yn cydnabod bod y gyfradd ddychwelyd yn is nag yr hoffem ac rydym yn adolygu’r ffordd rydym yn casglu adborth.

Yr hyn y dywedodd darparwyr wrthym

"Roedd y profiad cyffredinol o’r broses o wneud cais yn broffesiynol, yn gefnogol ac yn adeiladol o’r dechrau i’r diwedd. Roedd yr adborth a ddarparwyd yn glir, yn drylwyr ac yn hawdd ei ddeall a oedd yn golygu bod cyrraedd y safonau gofynnol yn syml. Roedd y penderfyniadau a’r argymhellion yn deg, yn gymesur a chawsant eu hesbonio’n dda, roedd y cyfathrebu’n amserol ac yn gyson drwyddi draw. Roeddwn yn gwerthfawrogi’r dull cadarnhaol a chefnogol a ddefnyddiwyd yn fawr. Roeddwn yn teimlo eu bod yn gwrando arnaf, yn fy neall a chefais fy annog i drafod fy model busnes mewn ffordd agored a thryloyw. Mae’r canllawiau a ddarparwyd, yn enwedig o ran cyflawni canlyniadau cadarnhaol, wedi cryfhau’r gwasanaeth ac wedi rhoi hyder i mi wrth symud ymlaen. Ar y cyfan, roedd y broses yn teimlo’n gydweithredol yn hytrach nag yn wrthwynebus."

"Roedd y broses arolygu mor hyfryd ag y gallai fod. Roedd Arolygydd B yn broffesiynol, yn ddymunol ac yn galonogol cyn ac yn ystod fy arolygiad. Esboniodd y broses arolygu’n llawn, beth fyddai’n digwydd a’r broses ar ôl yr arolygiad. Yn ystod yr ymweliad, ymgysylltodd â mi, y plant a’r rhieni fel ei gilydd gan wneud i bawb deimlo’n gyfforddus. Hwn oedd fy arolygiad cyntaf ac roedd yn brofiad cadarnhaol iawn. Diolch."

"Roedd yn bleser pur croesawu’r Arolygydd i’r cartref. Roedd yr Arolygydd yn barchus, yn drylwyr ac yn hawdd mynd ato. Rhoddwyd amser i’n preswylwyr, y staff, aelodau o deuluoedd a gweithwyr proffesiynol a oedd yn ymweld â’r gwasanaeth os oeddent am siarad â’r Arolygydd ac roedd pawb am wneud!"

"Drwy gydol yr arolygiad, dangosodd Arolygydd C ddiddordeb gwirioneddol yn ein gwasanaeth a’n gwerthoedd. Gwrandawodd yn weithredol ar ein tîm a dangosodd werthfawrogiad o’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi oedolion yn y gymuned. Arweiniodd ei dealltwriaeth o’n hethos at ddeialog ystyrlon, a chreodd awyrgylch lle roeddem yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu ein cynnydd a’r meysydd rydym yn
parhau i’w datblygu."

"Roedd tîm arolygu’r awdurdod lleol yng nghanol y gwasanaeth. Gwnaeth hyn helpu i ddangos gweithwyr wrth eu gwaith a chael ymdeimlad o ddiwylliant y gwasanaeth a helpodd i gefnogi sgyrsiau naturiol â’r staff. Ymgysylltodd AGC yn llawn ag ystod eang o staff a gymerodd ran weithredol ac a oedd yn teimlo bod y cyfweliadau a’r trafodaethau’n fuddiol iawn. Dydw i ddim yn gwybod sut y gwnaethant lwyddo i wneud cymaint mewn tridiau, ond ni wnaethant i’r staff, y plant na’u teuluoedd deimlo eu bod yn cael eu rhuthro ar unrhyw adeg a gwnaethant wrando o ddifrif ar beth oedd yn cael ei ddweud. Creodd gyffro go iawn ymhlith y gweithlu, o’r fynedfa yr holl ffordd at y gwasanaeth ac rwy’n gwybod bod yr uwchswyddogion wedi cael llawer o fudd o’r profiad."

Troednodyn: Defnyddiwyd blaenlythrennau yn lle enwau arolygwyr er mwyn sicrhau cyfrinachedd.

Awgrymiadau ar gyfer gwella

Roedd rhai holiaduron (11.9%) yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar gyfer meysydd i’w gwella, gan gynnwys:

Adborth ar arolygiadau a’r broses gofrestru

“Gallai’r arolygwyr fod wedi ystyried cwrdd â rhai rhieni wyneb yn wyneb i gasglu adborth ar sail un i un.”

“Roeddem yn teimlo nad oedd yr arolygiad wedi rhoi digon o amser i arddangos popeth sydd gan ein lleoliad i’w gynnig, ac rydym yn credu bod hyn wedi effeithio ar ein gradd gyffredinol. Roedd gennym dystiolaeth o arfer rhagorol nad oeddem yn gallu ei rhannu am nad oedd digon o amser.”

“Rydym wedi canfod bod lefel o anghysondeb rhwng arolygwyr gwahanol. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod pawb yn gweithio yn eu ffordd eu hunain ac y gallant ddehongli pethau mewn ffordd wahanol. Fodd bynnag, bu rhai arferion ar waith ers blynyddoedd lawer heb unrhyw broblemau, ond yn ystod arolygiadau diweddar dywedwyd wrthym fod yr un arferion hyn bellach yn annerbyniol. Gall hyn fod yn rhwystredig, gan fod ein tîm yn ymrwymedig i gynnal safonau uchel a gwneud ein gorau glas. Rydym yn credu bod arolygiadau AGC yn adnodd cymorth gwerthfawr i’n helpu i ddatblygu a gwella, ond mae’r disgwyliadau gwahanol rhwng arolygwyr yn ei gwneud yn fwyfwy anodd teimlo’n hyderus o ran yr hyn sy’n ofynnol.”

8.2 Gwneud cais am adolygiad o adroddiadau arolygu

Y flwyddyn hon, gyda mewnbwn gan ddarparwyr ar ein grŵp adolygu, gwnaethom adolygu ein canllawiau a’n proses ar gyfer gwneud cais am adolygiad o adroddiadau arolygu. Mae’r canllawiau diwygiedig, Gwneud cais am adolygiad o dystiolaeth a chanfyddiadau adroddiadau arolygu (gan gynnwys graddau), ar gael ar wefan AGC.

Y flwyddyn hon, cawsom 131 o geisiadau am adolygiad o ganfyddiadau a thystiolaeth (6% o’r holl adroddiadau a gyhoeddwyd). Gwnaethom ddatrys y rhan fwyaf o’r materion a godwyd ar y cam hwn, a dim ond 26 a symudodd ymlaen i’r cam apelio lle mae un o reolwyr annibynnol AGC yn adolygu ein penderfyniad gwreiddiol.

8.3 Cwynion

Cawsom 23 o gwynion amdanom. Cafodd y rhan fwyaf eu datrys yn anffurfiol, ac arweiniodd naw ohonynt at ymchwiliad ffurfiol. Arweiniodd yr hyn y gwnaethom ei ddysgu o’r cwynion at ddiwygio ein prosesau ar gyfer pryderon ac arolygu.

8.4 Sylwadau 

Cawsom 16 o sylwadau yn 2025-26, gan gynnwys dau mewn perthynas â’n penderfyniad i wrthod cofrestru gwasanaeth. Mae’n gadarnhaol nodi, ym mhob set o sylwadau ond un (yr oedd wyth ohonynt yn ymwneud ag un darparwr), na wnaeth y penderfynwr annibynnol gadarnhau’r sylwadau. Mae hyn yn dangos bod y dystiolaeth a oedd yn cefnogi’r hysbysiad yn ddilys a bod ein proses gwneud penderfyniadau yn gyson â’n gwerthoedd. 

Gall darparwr hefyd benderfynu gwneud cais i’r Tribiwnlys Safonau Gofal er mwyn apelio yn erbyn ein penderfyniadau. Mae dau dribiwnlys wedi’u cynnal y flwyddyn hon, a’r ddau ar gyfer gwarchodwyr plant a gafodd eu hatal. Cadarnhaodd y tribiwnlys benderfyniad AGC i atal.

9. Edrych ymlaen at 2026 i 2027

Yn 2026 i 2027, byddwn yn parhau i roi uchelgeisiau ac amcanion ein Cynllun Strategol ar waith. Bydd rhannu gwersi a ddysgwyd, gwella dulliau cyfathrebu a dathlu llwyddiant yn parhau i fod yn rhan ganolog o’n gwaith, ochr yn ochr â’n hymrwymiad i wella data a chyflawniad digidol a gweithredol.

Sicrhau

  • Byddwn yn parhau gyda’n rhaglen adolygu thematig, gan ddechrau gyda diogelu mewn perthynas â phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth, ac yn paratoi ar gyfer themâu yn y dyfodol, gan gynnwys diogelu oedolion a fframweithiau comisiynu.
  • Byddwn yn rhoi newidiadau i’r fframwaith arolygu gofal plant a chwarae ar waith ac yn ystyried sut rydym yn cofrestru ac yn arolygu gwasanaethau gofal cartref.

Gwella

  • Byddwn yn parhau i weithio er mwyn helpu darparwyr i wella ansawdd ceisiadau i gofrestru gwasanaethau oedolion a phlant.
  • Byddwn yn adolygu ac yn mireinio’r ffordd rydym yn cymryd camau dilynol ac yn parhau i fonitro awdurdodau lleol fel bod ein dyfarniadau’n parhau i fod yn gywir, yn deg ac yn gallu ennyn hyder y cyhoedd a rhanddeiliaid.
  • Byddwn yn adnewyddu strategaeth y gweithlu er mwyn cefnogi gweithlu grymus a gwydn, gan gynnwys cynyddu nifer y staff sy’n siarad Cymraeg. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu a mireinio ein gwasanaethau digidol fel bod pobl yn cael gwasanaethau digidol syml a chynhwysol, a bod gan ein staff amgylchedd gwaith digidol modern sy’n eu cefnogi a’u grymuso i wneud eu gwaith gorau.
  • Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau thematig ar arolygiadau maethu a mabwysiadu, graddau ar gyfer pob cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref erbyn hydref 2026, ac yn comisiynu adolygiad annibynnol o effaith ac effeithiolrwydd graddau.

Dylanwadu

  • Byddwn yn cryfhau gwaith ar y cyd â phartneriaid, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru a Byrddau Diogelu Rhanbarthol, i sicrhau bod ein hargymhellion yn arwain at welliannau gwirioneddol mewn ymarfer a chanlyniadau i bobl.
  • Byddwn yn cryfhau’r ffordd rydym yn ymgysylltu â phobl, gyda ffocws clir ar ddeall profiadau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr a chymunedau amrywiol.
  • Byddwn yn ymgorffori ymarfer gwerth ei rannu a chynadleddau ansawdd ar draws gwasanaethau oedolion, plant a gofal plant a chwarae, a byddwn yn ystyried sut y gellir defnyddio’r dulliau hyn yn ein gwaith gydag awdurdodau lleol.
  • Byddwn yn cefnogi’r gwaith o ehangu, rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal plant a chwarae i blant dan 12 oed, yn rhoi diwygiadau i’r gorchymyn eithriadau ar waith er mwyn dechrau rheoleiddio gwasanaethau i blant dan dair oed, ac yn datblygu cynllun cymeradwyo gwirfoddol ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae sydd wedi’u heithrio rhag cofrestru ar hyn o bryd.
  • Byddwn yn parhau i roi newidiadau ar waith sy’n deillio o ddileu elw o ofal plant.

10. Atodiad 1: Gwybodaeth ariannol

Y gyllideb a ddyrannwyd i ni ar gyfer 2025-26 oedd £17,040,904. Cawsom hefyd gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru fel y nodir isod.

Tabl 11: Gwybodaeth ariannol AGC, 2025 i 2026

Mae’r ffigurau’n dangos cyllid a gwariant AGC yn ystod 2025 i 2026, gan gynnwys cyfanswm y cyllid a gafwyd, cyfanswm y gwariant a’r tanwariant a ddeilliodd o hynny.
Categori£
Cyllid
Y gyllideb graidd a ddyrannwyd

17,040,904

 

Cyflwyno graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref, a chyflwyno gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd

665,461

 

Cyllid ar gyfer gofal plant a chwarae

160,894

 

Cyllid ar gyfer dileu elw o ofal plant

250,613

 

Cyfanswm y cyllid

18,117,872

 

Gwariant
Costau staff, gan gynnwys arolygwyr y telir ffi iddynt16,085,093
Costau nad ydynt yn ymwneud â staff (contractwyr TGCh, cyfieithu, teleffoni, teithio a chynhaliaeth ac ati)1,603,355
Cyfanswm y gwariant17,688,448
Tanwariant ar gyfer 2025 i 2026429,424

Mae'r tabl hwn yn dangos cyfanswm cyllid a gwariant AGC ar gyfer 2025 i 2026. Cyfanswm y cyllid oedd £18,117,872 a oedd yn cynnwys cyllideb graidd a ddyrannwyd o £17,040,904 a £1,076,968 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref, gofal plant a chwarae, a dileu elw o ofal plant. Cyfanswm y gwariant oedd £17,688,448 a oedd yn cynnwys £16,085,093 o gostau staff a £1,603,355 o gostau nad ydynt yn ymwneud â staff. Arweiniodd hyn at danwariant o £429,424.

Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, roedd £16,085,093 wedi cael ei wario ar gostau staff ac roedd £1,603,355 wedi cael ei wario ar gostau nad oeddent yn ymwneud â staff, gyda gweithgarwch arolygu a rheoleiddio yn cyfrif am 77% o’r costau staff.

Roedd y tanwariant o £429,424 yn 2025 i 2026 oherwydd y nifer uchel o swyddi gwag heb eu llenwi. Wrth i rolau â blaenoriaeth gael eu llenwi yn ddiweddarach yn y flwyddyn, caiff costau staff cysylltiedig eu gwireddu ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.

10.1 Dadansoddiad o wariant

Roedd y dadansoddiad o gyfanswm y gwariant ar gyfer 2025 i 2026 fel a ganlyn:

  • Costau staff: 91%
  • Costau TGCh: 5.7% (gan gynnwys ffioedd contractwyr TGCh) 
  • Cyfieithu: 0.6%
  • Arall: 2.7% (cyfuniad o gostau llai, fel recriwtio, ffioedd cyfreithiol, gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a hyfforddiant staff). 

10.2 Dadansoddiad staffio

Mae’r tabl isod yn dangos nifer y staff ym mhob tîm yn ôl nifer y bobl a’r nifer cyfwerth ag amser llawn ar 31 Mawrth 2026.

Tabl 12: Staffio AGC yn ôl tîm ar 31 Mawrth 2026

Mae’r ffigurau’n dangos staff AGC fesul tîm ar 31 Mawrth 2026, gan gynnwys nifer y staff a lefelau staffio cyfwerth ag amser llawn (CALl).
TîmNifer y boblNifer cyfwerth ag amser llawn
Swyddfa'r Prif Arolygydd33
Tîm Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant8074.94
Tîm Arolygu Gofal Plant a Chwarae4946.69
Tîm Arolygu Awdurdodau Lleol1313
Tîm Cofrestru a Gorfodi3432.13
Tîm Gwasanaethau Cymorth3735.34
Tîm Busnes2925.86
Cyfanswm245230.96

Mae'r tabl hwn yn dangos gwybodaeth staffio ar gyfer pob tîm yn AGC yn ôl nifer y bobl a'r nifer cyfwerth ag amser llawn ar 31 Mawrth 2026. Roedd AGC yn cyflogi cyfanswm 245 o staff (230.96 cyfwerth ag amser llawn) ar draws saith tîm: Swyddfa'r Prif Arolygydd (3 pherson, 3 cyfwerth ag amser llawn), tîm Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant (80 o bobl, 74.94 cyfwerth ag amser llawn), tîm Arolygu Gofal Plant a Chwarae (49 o bobl, 46.69 cyfwerth ag amser llawn), tîm Arolygu Awdurdodau Lleol (13 o bobl, 13 cyfwerth ag amser llawn), tîm Cofrestru a Gorfodi (34 o bobl, 32.13 cyfwerth ag amser llawn), tîm Gwasanaethau Cymorth (37 o bobl, 35.34 cyfwerth ag amser llawn), a'r Tîm Busnes (29 o bobl, 25.86 cyfwerth ag amser llawn).

11. Geirfa

Isod ceir esboniad cryno o’r termau a ddefnyddir gennym drwy’r adroddiad hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn gweithio ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Arferion cadarnhaol ac ymarfer gwerth ei rannu – Enghreifftiau o arferion creadigol, arloesol neu arbennig o effeithiol a gaiff eu nodi drwy ein gwaith arolygu a sicrhau sy’n hyrwyddo diwylliannau cadarnhaol neu ganlyniadau llesiant. Rydym yn cyhoeddi’r enghreifftiau hyn i gefnogi dysgu a gwelliant ar draws y sector.

Arolygu – Rydym yn cynllunio ac yn blaenoriaethu arolygiadau gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennym am wasanaethau. Mae’r ymweliad arolygu yn rhan bwysig o’n gwaith. Ein prif ffocws yw profiadau pobl a ph’un a ydynt yn cael gofal a chymorth diogel sy’n eu helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl. Rydym yn defnyddio llinellau ymholi allweddol o’n fframweithiau arolygu, wedi’u llywio gan hysbysiadau, pryderon a gwybodaeth arall sydd gennym am wasanaeth. Lle y caiff canlyniadau cadarnhaol neu wael eu nodi, rydym yn ymchwilio i achosion sylfaenol hyn.

Cofrestru – Y broses pan fydd gwasanaeth yn cofrestru’n gyfreithlon â ni er mwyn gweithredu yng Nghymru. Rydym hefyd yn rheoli newidiadau i wasanaethau sydd wedi cofrestru eisoes.

Cyfarfod ansawdd – Cyfarfod ar-lein sy’n canolbwyntio ar wella a chanlyniadau rhwng gwasanaeth gofal plant a chwarae ac un o arolygwyr AGC. Caiff ei gynnal rhwng arolygiadau. Mae cyfarfodydd ansawdd yn cynnig cyfle i drafod canlyniadau i blant, myfyrio ar ymarfer, adolygu gwelliannau a nodi meysydd i’w datblygu ymhellach.

Gorfodi – Rydym yn gweithredu pan fydd llesiant neu ddiogelwch pobl mewn perygl, gan gynnwys lle mae gwasanaethau’n gweithredu heb gofrestru. Rydym yn defnyddio llwybr gorfodi clir, graddedig a chymesur. Gall hyn gynnwys nodi meysydd i’w gwella, cyhoeddi Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth lle mae angen gwella ar frys, atal gwasanaethau gofal plant, neu gymryd camau statudol lle bo angen. Yn ein gwaith gydag awdurdodau lleol, rydym yn nodi meysydd i’w gwella, ond nid oes gennym bwerau gorfodi. Mae ein dull gweithredu wedi’i nodi yn ein Polisi ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi.

Hysbysiadau – Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ddarparwyr roi gwybod i ni am ddigwyddiadau a all effeithio ar y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys diogelu, newidiadau o ran rheolaeth, materion amgylcheddol ac anafiadau difrifol sy’n digwydd o fewn y gwasanaeth. Rydym yn adolygu hysbysiadau, yn penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau gweithredu ac yn ystyried patrymau neu dueddiadau wrth gynllunio gweithgarwch arolygu yn y dyfodol.

Llesiant – Un o egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae llesiant yn golygu mwy na bod yn iach yn unig. Mae’n cynnwys bod yn ddiogel, cael llais a dewis, a chael y cymorth cywir, bod yn rhan o gymuned a chael cyfleoedd i feithrin cydberthnasau, dysgu, gweithio a sicrhau boddhad personol.

Pryderon – Gall unrhyw un godi pryder am wasanaeth gofal ar-lein, drwy e-bost, dros y ffôn neu’n ysgrifenedig. Caiff pob pryder ei adolygu gan arolygydd, sy’n penderfynu pa gamau sydd eu hangen. Pan gaiff pryderon eu codi gan rywun sy’n gweithio mewn gwasanaeth, ‘chwythu’r chwiban’ yw’r enw ar hyn ac mae’n darparu amddiffyniadau cyfreithiol i’r unigolyn. Nid ydym yn ymchwilio i bryderon unigol, ond mae’r wybodaeth yn ein helpu i ddeall pa mor dda y gall gwasanaeth fod yn gweithredu ac mae hyn yn llywio ein gweithgarwch arolygu.

12. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn

Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ar ddefnyddioldeb ein hadroddiad blynyddol. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau ein harolwg byr am yr adroddiad blynyddol hwn.

Ceir data mwy manwl a diweddar na’r rhai a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn ein hoffer data ar-lein ac yn natganiad ystadegau blynyddol AGC.

Gellir darllen cyd-destun ehangach am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn flaenorol yn Adroddiad Cyflwr y Genedl 2024-25 ar wefan Llywodraeth Cymru.