Ddirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru
Pwy ydw i?
Vicky Poole ydw i a fi yw Dirprwy Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru.
Beth ydw i'n ei wneud?
Ymunais ag AGC yn 2014 a chefais fy mhenodi'n Ddirprwy Brif Arolygydd ym mis Tachwedd 2018.
Dechreuais fy ngyrfa fel nyrs iechyd meddwl yn Leeds ond symudais yn gyflym i faes gofal cymdeithasol. Symudais i Ogledd Cymru yn 1990. Gweithiais mewn amrywiaeth o swyddi gan gynnwys rheolwr cartref gofal, rheolwr gwella yn gweithio ledled Cymru a rheolwr comisiynu rhanbarthol.
Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad
Mae gen i ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth. Bu gen i ddiddordeb ers amser mewn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, a gofalwyr.
Rwy'n ‘sganio'r gorwel’ yn aml, gan ddysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill ac addasu'r gwersi hynny i'n gwaith ni.
Beth sy'n bwysig i fi
Diddordeb brwd mewn cyfiawnder cymdeithasol a hawliau pobl a'm denodd i weithio gydag AGC. Y tu allan i'r gwaith, rwy'n mwynhau heicio – ym mryniau Clwyd ac Eryri ond mewn ardaloedd ymhellach i ffwrdd hefyd. Rwyf newydd brynu beic trydan er mwyn gallu teithio ymhellach nag ar ddwy droed! Rwyf wrth fy modd yn darllen hefyd – ac rwyf fel arfer wrthi'n darllen llyfr (papur) go iawn ac yn gwrando ar lyfr sain ar yr un pryd!