Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid: Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2017-18
Adolygiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Dyma'r nawfed adroddiad monitro blynyddol ar weithrediadau'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yng Nghymru.
Beth yw ystyr amddifadu o ryddid?
Mae amddifadu o ryddid yn golygu'r canlynol:
- pan fydd rhywun dan oruchwyliaeth a rheolaeth barhaus neu lwyr, ac
- nad yw'n rhydd i adael, ac
- nad oes ganddo alluedd i gydsynio i'r trefniadau hyn
Beth yw'r Trefniadau Diogelu?
Diben y Trefniadau Diogelu yw grymuso ac amddiffyn unrhyw unigolyn ag anhwylder meddyliol lle mae amheuaeth ynglŷn â'i alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ei ofal pan fydd yn yr ysbyty neu'n byw mewn cartref gofal.
Canfyddiadau
Gwelwyd cynnydd yn nifer y ceisiadau am Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a gafwyd gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol, gyda'r mwyafrif o'r unigolion dan sylw yn fenywod dros 65 oed.
Ni chafodd tua hanner y ceisiadau Safonol na dwy ran o dair o'r ceisiadau Brys benderfyniad o fewn yr amserlen statudol ofynnol; mae'r gyfran a asesir o fewn yr amserlen wedi gwella ers y llynedd.
Yn achos pob cais, y cyfnod cyfartalog rhwng cael ffurflen gais a gwneud penderfyniad oedd 83 diwrnod.