Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Sir Ddinbych

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), gan ystyried pa mor dda mae Cyngor Sir Ddinbych yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – gwelsom y gall pobl fod yn gynyddol hyderus bod yr awdurdod lleol yn cydnabod mai oedolion yw'r bobl orau i farnu eu llesiant eu hunain.

Pobl – llais a dewis – mae gan yr awdurdod lleol ddealltwriaeth ddigonol o'r ffordd y gall pobl gael eu grymuso gan wybodaeth, cyngor a chymorth a thrwy gael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau.

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – gwelsom barodrwydd i roi cynnig ar ddulliau newydd a gweithio gyda phartneriaid newydd drwy ddatblygu Pwynt Mynediad Unigol, Pwyntiau Siarad, Cyfeirwyr Cymunedol a Thimau Adnoddau Cymunedol.  

Atal ac ymyrraeth gynnar – mae atal neu oedi datblygiad anghenion gofal a chymorth yn cyd-fynd yn agos â chyfrifoldebau eraill yr awdurdod lleol, gan gynnwys tai, hamdden ac iechyd amgylcheddol. 

Meysydd i'w gwella 

Llesiant – mae'n rhaid i uwch-reolwyr sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn bartner cyfartal yn eu cydberthynas â gweithwyr diogelu proffesiynol sy'n gweithio i'w hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. 

Pobl – llais a dewis  – gwelsom fod angen gwella buddiannau dull sy'n seiliedig ar gryfderau o alluogi pobl i fynegi eu barn drwy gydymffurfio'n agosach â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. 

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – mae angen i reolwyr strategol sicrhau bod gwasanaethau ac adnoddau'n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. 

Atal ac ymyrraeth gynnar – gwnaethom nodi bod prinder gwasanaethau gofal cartref yn golygu nad yw rhai pobl yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae hyn wedi bod yn broblem ers tro mewn rhai rhannau o'r wlad ac mae angen gweithredu er mwyn osgoi mwy o brinder gofalwyr a phwysau cynyddol ar staff mewn gwasanaethau ailalluogi a gwasanaethau iechyd cymunedol.

Camau nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Sir Ddinbych. Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.