Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), gan ystyried pa mor dda mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu. 

Cryfderau

Llesiant – gwelsom y gall pobl fod yn gynyddol hyderus bod yr awdurdod lleol yn cydnabod mai oedolion yw'r bobl orau i farnu eu llesiant eu hunain.

Llais a dewis pobl – gwelsom fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymedig i sicrhau bod gwasanaethau'n canolbwyntio ar alluogi pobl a chymunedau i fod yn wydn, gyda'r nod o ddarparu gwasanaethau di-dor, personol o safon uchel i bobl.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – gwelsom fod enghreifftiau da o gydberthnasau gwaith agos â phartneriaid, gan gynnwys y trydydd sector a'r sector annibynnol, wrth ddatblygu gwasanaethau ymyrryd ac ataliol i leihau ynysu a chefnogi pobl i barhau'n annibynnol.

Atal ac ymyrraeth gynnar – gwelsom fod cydberthnasau cadarnhaol rhwng timau comisiynu a darparwyr.  

Meysydd i'w gwella

Llesiant – rydym yn argymell bod angen datblygu llinellau cyfathrebu clir ar gyfer ymateb i bobl sy'n profi oedi wrth gael eu hasesu; ac oedi wrth ddechrau a chael gafael ar rai meysydd gwasanaeth megis offer a gofal cartref.

Llais a dewis pobl – gwnaethom nodi bod angen gwella cysondeb o ran lefel y manylder mewn asesiadau galluedd meddyliol.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – rydym yn argymell y gellid achub ar fwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu strwythuredig ar y cyd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn benodol o ran trothwyon a phrosesau diogelu.

Atal ac ymyrraeth gynnar – gwnaethom nodi bod angen adolygu prosesau diogelu er mwyn sicrhau bod llwybrau a threfniadau llywodraethu clir ar waith.

Y Camau Nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.