Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Bro Morgannwg
Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant ym Mro Morgannwg.
Gwnaethom arolygu gwasanaethau ar gyfer plant yng Nghyngor Bro Morgannwg yn ystod mis Mai 2018.
Gwnaeth yr arolygiad ystyried profiad a chynnydd plant ar ymylon gofal, plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, a'r defnydd o faethu, gofal preswyl a lleoliadau y tu allan i'r ardal.
Gwnaethom hefyd ystyried ymholiadau amddiffyn plant, camau amddiffyn brys a chynlluniau amddiffyn gofal a chymorth.
Canfyddiadau
Roedd gan y staff rheng flaen ddigon o gymhelliant a chymorth i reoli da ar bob lefel.
Mae cymorth ar gyfer gwasanaethau plant o bob rhan o'r awdurdod lleol gan gynnwys aelodau etholedig.
Roedd gan weithwyr cymdeithasol wybodaeth dda am amgylchiadau plant ac roeddent yn ymweld â nhw yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae swyddi gwag a llwyth achosion cymhleth wedi effeithio ar y gwasanaeth.
Mae'r dewis o leoliadau i blant sy'n derbyn gofal yn gyfyngedig, gyda gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu nifer y lleoliadau maethu, yn ogystal â gweithio gyda darparwr gofal cymdeithasol er mwyn lleoli mwy o blant yn agosach i'w cartref.
Meysydd i'w datblygu
Roedd rhai timau dan bwysau ac mae ymgyrch recriwtio yn mynd rhagddi.
Rhaid i asesiadau ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael o gysylltiadau blaenorol ac ymgorffori unrhyw risgiau, a dylai ymarferwyr geisio barn plant a welwyd ar eu pen eu hunain yn benodol (lle y bo'n briodol) ac amlinellu'r rhain yn llawn yn yr asesiadau.
Camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch parhaus gyda'r awdurdod lleol.
Dogfennau
-
Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Bro Morgannwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 517 KBPDF, Maint y ffeil:517 KB