Arolygiad o Wasanaethau Oedolion: Cyngor Sir Powys
Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau i oedolion yng Nghyngor Sir Powys.
Gwnaethom gynnal ein harolygiad ym mis Ionawr eleni. Gwelsom dystiolaeth fod rhai pobl yn derbyn gofal a chymorth da, ond nid oedd hyn yn gyson. Roedd rhai pobl yn profi oedi sylweddol o ran cael eu hasesu ar gyfer gofal a chymorth a derbyn gwasanaeth. Mae angen gwneud gwelliannau sylweddol.
Roedd staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cydweithio'n dda ag amrediad o grwpiau sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol.
Roedd atgyfeiriadau diogelu brys yn derbyn sylw’n gyflym ac yn effeithiol, ond roedd ôl-groniad annerbyniol o waith diogelu yn ystod y camau sgrinio ac ymholiadau.
Nododd ein harolygwyr ymrwymiad y staff, sydd wedi dangos proffesiynoldeb wrth ymdopi â nifer o newidiadau a phrinder adnoddau.
Ein hargymhellion
Fel mater o flaenoriaeth,
- Mae'n rhaid i uwch-arweinwyr barhau i ddarparu cymorth gwleidyddol a chorfforaethol cryf ar gyfer gwasanaethau i oedolion er mwyn sicrhau gwelliannau i'r gwasanaeth.
- Sicrhau bod yr holl ymholiadau diogelu yn cael eu gwneud o fewn amserlenni statudol.
- Sicrhau goruchwyliaeth a dealltwriaeth glir gan reolwyr o'r galw, capasiti a blaenoriaethu llif gwaith o fewn y system diogelu oedolion.
- Cryfhau'r cynllun gwella gwasanaethau i oedolion presennol.
- Creu strategaeth gweithlu gadarn gan gynnwys cynlluniau tymor byr, tymor canolig a hirdymor ar gyfer recriwtio a chadw gweithlu'r gwasanaethau i oedolion.
Dogfennau
-
Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir Powys , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 553 KBPDF, Maint y ffeil:553 KB