Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), gan ystyried pa mor dda y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – mae'r awdurdod lleol yn dangos dealltwriaeth dda o'i gryfderau, meysydd sy'n peri her a meysydd i'w gwella.

Pobl – llais a dewis – Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi croesawu egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac mae'n helpu pobl i fynegi eu dymuniadau am yr hyn sy'n bwysig iddynt ac yn eu helpu i gael eiriolwr annibynnol, os oes angen, i roi mwy o lais iddynt.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – mae gan yr awdurdod lleol gydberthynas gadarnhaol sy'n aeddfedu â'r bwrdd iechyd. Gwelsom waith partneriaeth strategol cadarnhaol hefyd rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau tai wrth iddynt ystyried anghenion tai trigolion.

Atal ac ymyrryd yn gynnar - mae'r awdurdod lleol wedi ad-drefnu er mwyn sicrhau bod ymyriadau ataliol ac ymyriadau cynnar yn cael eu defnyddio er mwyn diwallu anghenion gofal a chymorth pobl y mae angen help arnynt. Mae pobl yn cael cymorth i aros yn annibynnol a, lle bo hynny'n bosibl, aros yn eu cartrefi eu hunain neu ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain.

Meysydd i'w gwella

Llesiant – mae angen gwneud mwy o waith i ddatblygu mesurau perfformiad i fonitro effaith y timau ardaloedd.

Pobl – llais a dewis – dylai'r awdurdod lleol weithio i sicrhau bod cymunedau a phartneriaid yn deall natur newidiol y ddarpariaeth gofal cymdeithasol i oedolion yn well.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – gellid achub ar fwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu strwythuredig ar y cyd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn benodol er mwyn ysgogi timau adnoddau cymunedol i integreiddio â'i gilydd.

Atal ac ymyrryd yn gynnar – Dylai'r awdurdod lleol ystyried hyrwyddo sefydliadau yn y trydydd sector wrth ddatblygu a darparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol er mwyn gwneud cymunedau'n fwy gwydn.

Y camau nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.