Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Sir Ynys Môn

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), gan ystyried pa mor dda y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – gwelsom fod dulliau o gyfathrebu â phobl sy'n cysylltu â'r awdurdod lleol i gael cymorth yn barchus ac yn seiliedig ar gryfderau, yn aml yn gydweithredol, ac wedi'u hadeiladu ar gydberthynas gyfartal ar y cyfan.

Pobl – llais a dewis – mae'r awdurdod lleol yn cael budd o arweinyddiaeth y prif weithredwr ac arweinydd y cyngor. Mae gan y ddau ddealltwriaeth gref o gyfeiriad strategol a gallant gynnal trafodaethau hyddysg am wasanaethau gweithredol.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – gwelsom fod gwasanaethau gweithredol yn gweithio'n dda gyda'i gilydd ar y cyfan er mwyn helpu pobl i aros yn eu cartrefi cyhyd â phosibl. Mae'r cyfathrebu rhwng ymarferwyr yn dda ac mae'r gwasanaethau'n cael eu dewis a'u dethol yn greadigol i ddiwallu anghenion pobl.

Atal ac ymyrryd yn gynnar – mae atal yn elfen bendant ar agenda'r awdurdod lleol. Mae llawer o enghreifftiau cadarnhaol o ymarferwyr yn darparu a threfnu gofal a chymorth i bobl yn eu cymunedau er mwyn eu hatal rhag wynebu argyfwng.

Meysydd i'w gwella

Llesiant – nodwyd gennym fod angen sicrhau bod dull darbodus o ddefnyddio adnoddau yn arwain yn uniongyrchol at bobl yn cael yr ymateb cywir ar yr adeg gywir. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod strwythurau timau a rolau yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau gwaith cymdeithasol a goruchwyliaeth ac yn gwella ansawdd a chysondeb cofnodion gwaith cymdeithasol.

Pobl, llais a dewis – mae'n rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod gallu gofalwyr i ddarparu gofal yn gynaliadwy a'u bod yn cydymffurfio â'u dyletswydd cyffredinol i hyrwyddo llesiant y gofalwr a'r unigolyn sy'n derbyn gofal.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – rydym yn argymell bod rhaid symud gwaith partneriaeth y tu hwnt i brosiecau a gaiff eu hariannu drwy fentrau Llywodraeth Cymru a chyflwyno'r angen i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy ar frys.

Atal ac ymyrryd yn gynnar – mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod gan y gwasanaeth ailalluogi gymorth proffesiynol digonol i ategu dull cadarnhaol o reoli risgiau a chyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl sydd ag amrywiaeth ehangach o anghenion.

Y camau nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Sir Ynys Môn.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.