Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau i blant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Gwnaethom gynnal ein harolygiad ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni. Gwnaethom edrych ar effeithiolrwydd gwasanaethau'r awdurdod lleol a'r trefniadau i helpu ac i  amddiffyn plant a'u teuluoedd.

Canfyddiadau

Canfuom fod gan yr awdurdod lleol weithlu ymroddedig sy'n ymateb i lwyth gwaith cynyddol.  Dywedodd hunanasesiad yr awdurdod lleol fod cyfradd cyfredol y cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal yn anghynaladwy.

Canfuom fod yr awdurdod lleol wedi hyrwyddo sefydlogrwydd, diogelwch a llesiant plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Mae grŵp rheoli sefydlog y mae staff yn ystyried ei fod yn hawdd mynd ato ac yn gefnogol.

Fodd bynnag, canfuom nad oedd y rhyngwyneb rhwng gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol amlasiantaethol a gwasanaethau statudol yn gyson.

Nid oedd asesiadau wedi'u hategu bob amser gan ddadansoddiad proffesiynol cofnodedig a chlir o anghenion a chanlyniadau plentyn. Nid oedd y gwaith o nodi a rheoli'r perygl o niwed wedi'i lywio bob amser gan gyd-destun hanesyddol a chyfredol, y tebygolrwydd o newid o fewn y teulu, na chan ymchwil a’r arferion gorau.

Roedd plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn drwy’r defnydd effeithiol o waith diogelu amlasiantaeth a throthwyon amddiffyn plant. Fodd bynnag, roeddem yn pryderu am oedi wrth gynnal trafodaeth am strategaeth oherwydd argaeledd yr heddlu.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd a nodwyd i'w datblygu a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â’r meysydd hyn a’u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgareddau ymgysylltu parhaus â'r awdurdod lleol.