Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Gwnaethom arolygu gwasanaethau ar gyfer plant ym Merthyr Tudful yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2018.
Gwnaeth yr arolygiad ystyried profiad a chynnydd plant ar ymylon gofal, plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, a'r defnydd o faethu, gofal preswyl a lleoliadau y tu allan i'r ardal.
Gwnaethom hefyd ystyried ymholiadau amddiffyn plant, camau amddiffyn brys a chynlluniau amddiffyn gofal a chymorth.
Canfyddiadau
Mae gan y gwasanaeth plant weithlu ymroddedig sydd ag ymrwymiad proffesiynol i hybu'r canlyniadau gorau i blant a theuluoedd.
Roedd y staff yn deall ac yn dilyn y gweithdrefnau a'r prosesau diogelu.
Mae'r awdurdod lleol yn cydnabod bod angen datblygu ei wasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal ymhellach.
Er bod staff yn ymroddedig ac yn broffesiynol, mae'r anallu i drosglwyddo achosion rhwng rhai timau o ganlyniad i swyddi gwag wedi effeithio ar forâl staff.
Roedd camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu staff rheng flaen drwy recriwtio staff allweddol a staff asiantaeth.
Meysydd i'w datblygu
- Mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod asiantaethau partner yn rhannu dealltwriaeth glir o niwed sylweddol wrth atgyfeirio achosion at y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth.
- Mae angen system sicrhau ansawdd fwy cynhwysfawr, gan gynnwys mwy o bwyslais ar amlder, cysondeb ac ansawdd goruchwyliaeth rheng flaen.
Camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd a nodwyd fel rhai i'w datblygu a chymryd camau priodol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus gyda'r awdurdod lleol.