Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghyngor Dinas a Sir Abertawe.

Gwnaethom arolygu gwasanaethau ar gyfer plant sy'n byw yn Abertawe yn ystod mis Gorffennaf 2018.

Gwnaeth yr arolygiad ystyried profiad a chynnydd plant ar ymylon gofal, plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, a'r defnydd o faethu, gofal preswyl a lleoliadau y tu allan i'r ardal.

Gwnaethom hefyd ystyried ymholiadau amddiffyn plant, camau amddiffyn brys a chynlluniau amddiffyn gofal a chymorth.

Canfyddiadau

Gwelsom ymarfer o ansawdd da yng ngwasanaethau plant Abertawe, gyda deilliannau cadarnhaol yn cael eu cyflawni ar gyfer llawer o blant a phobl ifanc.

Roedd y staff yn ymroddedig, yn wydn ac yn gwerthfawrogi cymorth a hygyrchedd eu rheolwyr.

Er bod yr awdurdod lleol wedi dechrau ad-drefnu ei wasanaethau yn unol â disgwyliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae angen datblygu ymhellach feysydd ymarfer sydd o bwys, yn enwedig o ran y sgwrs ynghylch beth sy'n bwysig a sicrhau y caiff llais y plentyn neu berson ifanc ei gofnodi'n glir.
Arweinir gwasanaethau plant yn effeithiol ac yn hyderus gan Bennaeth Gwasanaethau a thîm rheoli profiadol a reolodd y newid yn dda.

Roedd gwaith partneriaeth yn effeithiol ar y cyfan, yn enwedig o ran diogelu.  Fodd bynnag, clywsom gan staff y gallai cydberthnasau gwaith rhwng gwasanaethau plant ac addysg gael eu hatgyfnerthu a gwelsom dystiolaeth nad oedd rhai pobl ifanc yn cael addysg ddigonol a'u bod yn cael deilliannau gwael.

Parhaodd y dewis o ran lleoliadau i greu heriau parhaus, yn enwedig i blant neu bobl ifanc ag anghenion mwy cymhleth.

Roedd y plant a'r bobl ifanc, y clywsom ganddynt, yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch y cymorth roeddent yn ei gael, ac roeddent yn gwerthfawrogi cydberthnasau â gweithwyr cymdeithasol unigol.

Meysydd i'w datblygu

  • Mae angen gwella ansawdd yr asesiadau er mwyn sicrhau llai o ddyblygu, a ffocws cynyddol ar lais y plentyn, cryfderau a deilliannau.
  • Dylai pob plentyn y nodir bod angen gofal a chymorth arno ac sy'n cael addysg heblaw am addysg yn yr ysgol gael y mewnbwn a'r cymorth addysgol y mae ganddo hawl iddynt.
  • Roedd y trefniadau ar gyfer sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael gafael ar eu cynllun gofal eu hunain, eu hadolygiadau a dogfennau eraill yn aneglur; dylid adolygu'r rhain a gwella'r systemau sydd ar waith ar gyfer cofnodi hyn.

Camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd a nodwyd fel rhai i'w datblygu a chymryd camau priodol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy werthuso perfformiad parhaus yr awdurdod lleol.