Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Gwynedd

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghyngor Gwynedd.

Gwnaethom arolygu gwasanaethau ar gyfer plant yng Nghyngor Gwynedd yn ystod mis Mai 2018.

Gwnaeth yr arolygiad ystyried profiad a chynnydd plant ar ymylon gofal, plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, a'r defnydd o faethu, gofal preswyl a lleoliadau y tu allan i'r ardal.

Gwnaethom hefyd ystyried ymholiadau amddiffyn plant, camau amddiffyn brys a chynlluniau amddiffyn gofal a chymorth.

Canfyddiadau

Canfuom fod gan y gwasanaethau plant gryfderau sylweddol a gweithlu ymroddedig a sefydlog sy'n ymateb i lwyth gwaith cynyddol.

Ceid ymateb amserol i atgyfeiriadau, ond mae'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn faes i'w ddatblygu'n barhaus, ac roedd bylchau cydnabyddedig o ran atal ac ymyrryd yn gynnar ledled Gwynedd.

Roedd yr asesiadau'n amserol, yn ymatebol ac o safon dda. Roedd safon y cynlluniau gofal a chymorth a welwyd yn anghyson ac nid oedd asesiadau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd lle y bu newid sylweddol mewn amgylchiadau.

Gwelsom dystiolaeth o gynlluniau gofal a chymorth yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ar y cyd â phlant, teuluoedd ac asiantaethau partner. Mae angen galluogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i ddeall y penderfyniadau a wneir yn gliriach, a hynny mewn fformat sy'n hawdd ei ddilyn.

Ar y cyfan, roedd y plant, pobl ifanc a theuluoedd yn teimlo'n gadarnhaol am y cymorth a roddir gan Gyngor Gwynedd.

Mae angen cryfhau'r trefniadau maethu er mwyn sicrhau bod plant yn cael profiadau a chanlyniadau cadarnhaol cyson. Mae argaeledd gofalwyr maeth a lleoliadau addas yn her.

Meysydd i'w datblygu

  • Mynd i'r afael â bylchau cydnabyddedig o ran atal ac ymyrryd yn gynnar, datblygu cysylltiadau cryfach â gwasanaethau cymunedol gyda chyfeirio gwell.
  • Rhaid diweddaru asesiadau yn dilyn newid sylweddol mewn amgylchiadau.
  • Datblygu'r trefniadau adolygu ymhellach ar gyfer y plant sy'n derbyn gofal.
  • Mae angen helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i ddeall y penderfyniadau sy'n sail i gynlluniau gofal a chymorth.
  • Dylid rhoi blaenoriaeth i recriwtio gofalwyr maeth er mwyn gwella'r dewis o ran lleoliadau.

Camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd a nodwyd fel rhai i'w datblygu a chymryd camau priodol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus gyda'r awdurdod lleol.