Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126

Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Sir Penfro

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Penfro.

Gwnaethom arolygu gwasanaethau i blant yn Sir Benfro yn ystod mis Medi 2018.

Gwnaeth yr arolygiad ystyried profiad a chynnydd plant ar ymylon gofal, plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, a'r defnydd o faethu, gofal preswyl a lleoliadau y tu allan i'r ardal.

Gwnaethom hefyd ystyried ymholiadau amddiffyn plant, camau amddiffyn brys a chynlluniau amddiffyn gofal a chymorth.

Canfyddiadau

Mae'r awdurdod lleol wedi dangos ei ymrwymiad i foderneiddio gwasanaethau plant, gyda chefnogaeth gorfforaethol dda gan aelodau etholedig a'r cyngor ehangach. Nododd arolygwyr fod yr uwch dîm rheoli wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, a'i fod yn croesawu her.

Roedd y staff yn deall ac yn dilyn gweithdrefnau a phrosesau diogelu, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn mewn ffordd amserol a chyson. Mae gwasanaethau ymyrryd cynnar ac ataliol i blant a theuluoedd wedi hen ymsefydlu ac yn llwyddiannus.

Gwnaeth yr awdurdod lleol gydnabod bod angen datblygu ei wasanaethau i bobl ifanc sy'n gadael gofal ymhellach, yn ogystal â chryfhau trefniadau maethu er mwyn sicrhau y caiff plant brofiadau cadarnhaol cyson.

Meysydd i'w datblygu

  • Parhau i weithio gydag adrannau eraill o fewn y cyngor ac asiantaethau partner er mwyn cefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r rheini sy'n gadael gofal.
  • Datblygu'r gwasanaeth maethu ymhellach er mwyn cynnig gwell dewis o leoliadau priodol i bob person ifanc, yn enwedig y rhai ag anghenion cymhleth.
  • Sicrhau bod digon o uwch reolwyr ar gael i gyflawni rhaglen newid yr awdurdod lleol.
  • Adolygu'r strategaeth bresennol ar gyfer y gweithlu er mwyn helpu i recriwtio a chadw staff ym maes gwasanaethau plant.

Camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd a nodwyd fel rhai i'w datblygu a chymryd camau priodol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus gyda'r awdurdod lleol.