Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Sir Powys

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Powys.

Gwnaethom arolygu gwasanaethau plant ym Mhowys ym mis Gorffennaf 2017 a nododd bryderon mawr, a chynhaliwyd arolygiad pellach ym mis Hydref 2018.

Gallwch ddarllen adroddiad 2017 yma.

Mae'r adroddiad hwn o arolygiad mis Hydref 2018 yn amlinellu'r datblygiadau a'r gwelliannau a nodwyd gennym, a meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau o hyd.

Canfyddiadau 

Mae gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i wneud gwelliannau sylweddol mewn meysydd penodol, a pheth gwelliant mewn meysydd eraill.  Mae gennym bryderon mawr o hyd ynghylch rhai meysydd ymarfer.

Mae trosiant parhaus y gweithlu a threfniadau dros dro ar gyfer rheolwyr canol wedi bod yn ffactorau allweddol sydd wedi arafu'r broses o wneud newidiadau. 
Mae pawb sy'n rhan o wasanaethau plant Cyngor Sir Powys wedi gweithio'n galed i wella'r gwasanaeth.  Mae gwelliannau ers yr arolygiad diwethaf yn cynnwys gwell trosolwg corfforaethol o wasanaethau plant, datblygiad sicrhau ansawdd, gwell mynediad at 'ddrws ffrynt' gwasanaethau plant, ceisiadau gwell am orchmynion llys ac ymweliadau mwy cyson â phlant sy'n derbyn gofal a'r rhai sydd ar y gofrestr amddiffyn plant.

Meysydd o flaenoriaeth i'w datblygu

  • Sicrhau bod yna weledigaeth strategol glir i gyflwyno gwasanaeth di-dor a datblygu gweithio ar y cyd ag iechyd, addysg a'r trydydd sector ymhellach er budd plant a theuluoedd
  • Datblygu trefniadau comisiynu gwell er mwyn sicrhau lleoliadau addas i blant sy'n derbyn gofal. Mae hyn yn cynnwys gwella'r dewis o leoliadau, lleihau'r nifer o blant sy'n cael eu gosod mewn argyfwng ac yn cael eu gosod heb ddarpariaeth addysgol y cytunwyd arni.
  • Sicrhau ymwneud amlasiantaeth cynnar wrth ddiogelu a sicrhau ymateb yn syth i blant sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol.
  • Sicrhau bod ymchwiliadau trwylwyr i gwynion yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae cynlluniau'r awdurdod lleol i ailstrwythuro gwasanaethau plant, cyflwyno model cydnabyddedig o waith cymdeithasol a llunio strategaeth gydlynol ar gyfer cymorth cynnar a chymorth i deuluoedd.  Dylai'r datblygiadau hyn arwain at welliannau pellach. 

Camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol adolygu ei gynllun gwella presennol o fewn ugain diwrnod gwaith o gyhoeddi'r adroddiad hwn. O ganlyniad i'r meysydd o bryder mawr a nodwyd yn yr arolygiad hwn, byddwn yn parhau i fynd ati i fonitro ansawdd y gwasanaethau yn chwarterol. Byddwn yn ystyried arolygiad pellach o wasanaethau plant 12-18 mis o ddyddiad cyhoeddi'r adroddiad hwn.