Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Sir Ynys Môn

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

Gwnaethom arolygu'r gwasanaethau i blant yng Nghyngor Sir Ynys Môn ym mis Tachwedd 2016, a chynhaliwyd arolygiad dilynol gennym yn ystod mis Hydref eleni er mwyn asesu'r gwelliannau a wnaed.

Gallwch ddarllen adroddiad 2016 yma.

Ystyriodd ein harolygiad ym mis Hydref 2018 p'un a oedd teuluoedd yn cael eu grymuso i gael gafael ar help, gofal a gwasanaethau cymorth, ac ansawdd y canlyniadau a gyflawnir ar gyfer y plant.

Ystyriodd yr arolygwyr hefyd ansawdd trefniadau arwain, rheoli a llywodraethu.

Canfyddiadau

Llwyddodd y gwasanaethau plant i ddangos gwelliant sylweddol mewn sawl maes allweddol ond roedd angen gwneud gwaith pellach mewn meysydd eraill.

Mae morâl y staff yn uchel ac mae brwdfrydedd ac ymroddiad ar bob lefel i barhau i weithio'n galed er mwyn gwella a darparu gwasanaethau ardderchog i'r plant.

Mae'r ymatebion diogelu yn amserol ac yn gymesur ar y cyfan, ond gellid gwella'r broses o goladu a chofnodi tystiolaeth a dadansoddi risg. 

Ceir arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu cadarn yn y gwasanaethau plant. Roedd aelodau'r Cyngor yn gallu dangos eu cyfraniad at y broses o wella'r gwasanaethau plant. Mae'r uwch swyddogion yn amlwg, ar gael ac yn llywio gwelliannau.

Meysydd i'w datblygu

  • Rhaid sicrhau bod y gwaith o gasglu, cofnodi a dadansoddi tystiolaeth yn cyrraedd lefel gyson uchel er mwyn sicrhau na fydd achosion lle mae plant yn dioddef niwed sylweddol yn cael llithro.
  • Parhau i gynyddu nifer y lleoliadau a'r amrywiaeth o opsiynau o ran lleoliadau sydd ar gael i blant ar yr ynys, yn seiliedig ar ddealltwriaeth broffesiynol o anghenion y plant.
  • Mae angen i blant allu meithrin cydberthnasau â gweithwyr cymdeithasol y gallant ymddiried ynddynt, a dylid lleihau nifer y gweithwyr cymdeithasol y mae'n rhaid i bob plentyn ailadrodd ei stori iddynt. Rhaid i weithwyr cymdeithasol sicrhau bod pob achos o ryngweithio â phlentyn yn cyfrif a gallu dangos tystiolaeth o'u gwaith.

Camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w datblygu a'u cynnwys yn ei gynlluniau datblygu. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus gyda'r awdurdod lleol.